麻豆官网首页入口

Rhybudd i bobl ifanc wedi clwstwr achosion Covid-19

  • Cyhoeddwyd
merchedFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae pobl ifanc ledled Cymru wedi eu hannog i gofio pwysigrwydd pellhau cymdeithasol ac aros mewn cwarant卯n wrth ddychwelyd o dramor, yn dilyn clwstwr o achosion o'r coronafeirws ym Merthyr Tudful.

Fe ddaeth cadarnhad bod gan 13 o bobl Covid-19 mewn clwstwr o amgylch ardal Merthyr Tudful, gyda nifer fechan o achosion cysylltiedig wedi'u dosbarthu ledled y rhanbarth.

Mae'r achosion wedi eu cysylltu ar 么l i griwiau fod yn ymwneud yn gymdeithasol, ac mae'n ymddangos bod achosion cyntaf y clwstwr wedi dod ar 么l i unigolion fod dramor.

Mae Cyngor Merthyr Tudful, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio mewn partneriaeth 芒 byrddau iechyd ac awdurdodau lleol ledled de ddwyrain Cymru i fynd ar drywydd achosion, a rhoi cyngor i'r rhai sydd wedi bod mewn cysylltiad 芒'r unigolion dan sylw.

Tair ap锚l

Dywedodd Si么n Lingard, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ar gyfer T卯m Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg: "Rwy'n gwneud tair ap锚l wahanol heddiw.

"Yn gyntaf, anogaf bobl i gofio pwysigrwydd pellhau cymdeithasol. Hyd yn oed os ydyn nhw'n teimlo na fyddai Covid-19 yn effeithio'n wael arnyn nhw pe bydden nhw'n profi'n bositif amdano, i wybod pe bydden nhw'n ei drosglwyddo i aelodau teulu, ffrindiau neu gydweithwyr h欧n neu sy'n fwy agored i niwed, gallai fod yn ddifrifol iawn, hyd yn oed yn angheuol.

"Yn ail, os cawsoch eich cynghori y dylech ynysu oherwydd eich bod wedi cael cyswllt 芒 rhywun sydd wedi profi'n bositif am Covid-19 yna rhaid i chi ddilyn y cyfarwyddyd hwn.

"Mae hynny'n golygu peidio 芒 gadael eich cartref am unrhyw reswm o gwbl.

"Yn olaf, os ydych chi wedi bod dramor ac wedi dychwelyd o wlad ar restr cwarant卯n y DU, yna rhaid i chi beidio 芒 mynd allan am 14 diwrnod.

"Yn ogystal, nid yw cael canlyniad prawf negyddol o fewn y cyfnod ynysu 14 diwrnod yn golygu y gall pobl ddod 芒'u hunan-ynysrwydd i ben yn gynt na 14 diwrnod."

Fe ychwanegodd Mr Lingard: "Mae ein hymchwiliadau i nifer o achosion o Covid-19 wedi nodi bod diffyg pellter cymdeithasol, yn enwedig gan leiafrif o'r gr诺p oedran 18-30 oed, wedi arwain at ledaenu'r feirws i grwpiau eraill o bobl."