麻豆官网首页入口

Theatr na n脫g yn addasu yn sgil cyfyngiadau Covid

  • Cyhoeddwyd
recordio'r ddrama
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r ddrama yn seiliedig ar stori wir

Am y tro cyntaf ers ei ffurfio 30 mlynedd yn 么l, mae cwmni Theatr na n脫g yn cyflwyno drama radio.

Oherwydd pandemig Covid-19 mae'r cwmni wedi gorfod addasu. Yn hytrach na sioe lwyfan fyw ar gyfer miloedd o blant ysgol yn ystod tymor yr hydref, maen nhw wedi recordio eu cynhyrchiad newydd - Yr Arandora Star - mewn partneriaeth ag Amgueddfa Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Technocamps.

Bydd perfformiadau Cymraeg a Saesneg o'r ddrama, sydd yn amlygu materion mewnfudo ac integreiddio ar gael i ysgolion rhwng 21 Medi a 30 Tachwedd.

Mae'r ddrama wedi ei seilio ar stori wir teulu o Eidalwyr oedd yn byw yn ne Cymru adeg yr Ail Ryfel Byd. Mae'n adrodd stori merch ifanc o'r enw Lina a welodd ei thad yn cael ei arestio yn eu caffi a'i gymryd ar fwrdd yr Arandora Star oedd ar ei ffordd i wersyll garchar yng Nghanada.

Fe gafodd y llong ei chamgymryd am long rhyfel a'i saethu gan dorpido a lladd 446 o Eidalwyr 80 mlynedd yn 么l i eleni.

'Cefnogi gweithwyr llawrydd'

Dywedodd Geinor Styles, cyfarwyddydd artistig y cwmni, bod ganddyn nhw ddeunydd wrth law oedd yn addas ar gyfer y broses o greu cynyrchiadau mewn ffordd wahanol.

"Mae 'di bod yn her eitha anodd achos am flynydde ni 'di bod yn neud theatr byw." meddai, "ond roedd gyda ni silffoedd a silffoedd o ddram芒u a roedden ni yn meddwl pa ffordd arall allen ni gael y gwaith yma allan i'n cynulleidfaoedd ni.

"Roedd hynny yn bwysig iawn i ni, sef sut allen ni gefnogi ein cynulleidfaoedd a'n hysgolion ond hefyd ein gweithwyr llawrydd ni sy angen gwaith.

"I ddechrau fe wnaethon ni ddram芒u ar zoom ac wedyn penderfynu addasu ein dram芒u i radio... a dyna beth ni wedi 'neud gyda'r Arandora star."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Mae'n brosiect cyffrous,' medd y criw sydd wedi ymateb i her newydd

Mae'r pandemig wedi gorfodi y sector creadigol i arbrofi er mwyn sicrhau eu bod yn gallu ailgydio yn eu gwaith pan ddaw yr argyfwng i ben. Y gobaith yw mynd n么l i'r theatrau gyda gwaith byw, ond nawr, mae rhaid hefyd creu cyflwyniadau sydd yn addas i'r cyfnod.

'Cwestiynau sylfaenol'

Yn 么l Dr Roger Owen, darlithydd mewn astudiaethau theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth mae'n amser anodd iawn i bobl sy yn dibynnu ar y celfyddydau a pherfformio am eu bywoliaeth .

"Os ydych chi yn edrych ar bethe yn y tymor hir ac yn wrthrychol mae'r oediad o'r cloi lawr yn gofyn cwestiynau sylfaenol yngl欧n 芒 beth i ni neud, pam i ni neud, i bwy i ni neud e a ble a sut ry'n ni yn neud e," meddai.

Mae Dr Owen yn hyderus bod modd goroesi ond mae angen, meddai "bod yn ddyfeisgar a meddwl yn wahanol am y gynulleidfa a phwy ydyn nhw a sut mae nhw yn profi y perfformiad neu y cyfrwng neu y gelfyddyd sy' gyda chi mewn golwg".

Mae'r byd theatr yn wynebu gaeaf caled a chynyddu mae'r galw am gymorth.

Mae AS Plaid Cymru Ceredigion, Ben Lake, yn dweud bod angen i Lywodraeth Prydain 'neud mwy i gefnogi gweithwyr llawrydd a hunan gyflogedig yn y sector creadigol a'r sector digwyddiadau sy' wedi cael eu taro yn galed wrth i ddigwyddiadau mawr a bach gael eu canslo.

Wrth gwblhau y trefniadau olaf ar gyfer y cynhyrchiad newydd mae Geinor Styles yn edrych i'r dyfodol.

"Does neb wir yn gweld ffordd drwy hyn," meddai.

"Mae'n rhaid cael y celfyddydau a chael theatrau ar agor er mwyn ein helpu ni ddatblygu fel pobol a deall helyntion pobol eraill yn well. Mae theatr yn gallu gwneud hyn. Os gallwn ni fuddsoddi mewn celfyddydau ac addysg bydd hyn o fudd i'r genedl gyfan."