Oedi yn y broses o brynu a gwerthu tai yn sgil y pandemig

Disgrifiad o'r llun, Dywed Rebecca Goldsworthy bod archwiliadau lleol yn rhan allweddol bwysig o'r broses o brynu t欧
  • Awdur, Aled Scourfield
  • Swydd, Gohebydd 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae prynwyr a gwerthwyr tai yn wynebu oedi oherwydd bod cynghorau yn ei chael hi'n anodd casglu gwybodaeth ar gyfer archwiliadau lleol yn sgil y pandemig.

Cadarnhaodd Cyngor Sir Penfro na fyddan nhw'n prosesu unrhyw geisiadau newydd am y tro oherwydd fod yna bentwr o geisiadau yn dal heb eu prosesu.

Yn 么l y Gymdeithas Trawsgludo (Conveyancing Association), mae'r oedi yn datblygu i fod yn "fater o bwys" gyda'r Nadolig a'r newidiadau i dreth ar brynu eiddo yng Nghymru a Lloegr yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes angen talu treth ar eiddo o dan 拢250,000 tan ddiwedd mis Mawrth 2021.

Yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, does dim angen talu treth ar y 拢500,000 cyntaf o eiddo tan ddiwedd mis Mawrth 2021.

Mae'r Gymdeithas wedi galw ar awdurdodau lleol i "ymateb i'r galw" ac i ddefnyddio "mwy o staff" er mwyn datrys y broblem o oedi wrth gasglu gwybodaeth ar gyfer gwerthiant tai.

Mae Rebecca Goldsworthy yn Bennaeth Adran Eiddo Preswyl i gwmni cyfreithwyr JCP yn y de ddwyrain.

Mae hi'n dweud bod archwiliadau lleol yn rhan allweddol bwysig o'r broses o brynu t欧 neu eiddo.

"Mae'r archwiliadau ar gyfer cynghorau lleol yn dangos pethau sydd yn ymwneud 芒'r t欧, felly os oes gwaith wedi cael ei wneud i'r t欧, os oes caniat芒d, os ydy'r t欧 mewn ardal gadwraeth neu adeilad cofrestredig.

"Mae hynny yn mynd i gael effaith ar beth chi'n medru gwneud i'r t欧 yn y dyfodol ar 么l ei brynu," meddai.

'Y farchnad dai yn ffynnu'

Un sydd wedi gweld oedi gyda'r broses ydy Telor Dyer, cyfreithiwr eiddo gyda chwmni Lewis & Lewis yn Sancl锚r.

"Mae'r farchnad dai yn ffynnu a ni nawr yn gweld bod yr ymholiadau yn cymryd 4-6 wythnos i ddychwelyd, ble o'r blaen roedden nhw yn cymryd 2-3 wythnos," meddai.

"Yr hyn dwi wedi gweld ydy fod pobl yn llai amyneddgar, y rhai sydd yn gwerthu. Maen nhw yn credu taw'r prynwr sydd yn achosi pethau i arafu.

"Ni wedi cael pobl yn bygwth tynnu allan ac yn wir wedi tynnu allan, ac wedi meddwl fe wnewn ni ffindio rhywun gwell, ond y gwir mae pawb yn gorfod cael yr ymholiadau yma ac mae'r broses yn mynd i fod yr un mor hir i bawb."

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Telor Dyer, mae pob cyngor lleol ar draws Cymru a Lloegr yn cymryd mwy o amser achos bod llai o staff

Dywedodd Cyngor Sir Penfro bod archwiliadau fel arfer yn cymryd saith i 10 diwrnod, ond maen nhw erbyn hyn yn cymryd 20 diwrnod, gan flaenoriaethu "archwiliadau brys" yn unig.

Yn 么l y cyngor, mae rhai awdurdodau lleol yn cymryd 40 diwrnod neu fwy i gwblhau'r gwaith.

Yn 么l y cyngor, mae effaith y cyfnod clo yn y gwanwyn wedi golygu nad oedd hi'n bosib i wirio gwybodaeth yn erbyn mapiau yn Neuadd y Sir.

Mae gwerthwyr tai hefyd yn teimlo rhwystredigaeth gyda'r oedi.

Dywed Geraint James, Rheolwr Cyffredinol Cwmni Dai Lewis yng Nghastellnewydd Emlyn: "Fel esiampl, dwi wrthi'n gwerthu pedwar darn o elltydd gerllaw Boncath yn Sir Benfro, a mae un o'r cyfreithwyr wedi cael ar ddeall y bydd hi'n cymryd wyth wythnos i'r ymchwiliad ddod o Gyngor Sir Penfro."

Dywedodd Cyngor Sir Penfro bod y sefyllfa yn cael ei hadolygu yn barhaol.