Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Covid hir: 'Rwy'n teimlo fel 'mod i'n 96 oed'

  • Cyhoeddwyd
Sarah Wakefield ar ei beicFfynhonnell y llun, Family photo
Disgrifiad o’r llun,

Dydy Sarah Wakefield heb allu gweithio fel hyfforddwr beicio mynydd a chwaraeon padlo ers mis Mawrth

Mae hyfforddwr gweithgareddau awyr agored sy'n dioddef effeithiau hirdymor coronafeirws yn dweud ei bod bellach yn cael trafferth siarad, mynd i fyny grisiau a chyflawni tasgau bob dydd.

Dywed Sarah Wakefield, sy'n 46 oed ac o Ben-y-bont ar Ogwr: "Rwy'n teimlo fel 'mod i'n 96. Mae'n erchyll."

Mae hi'n aelod o'r grŵp ymgyrchu Covid Hir Cymru, sy'n galw am glinigau arbenigol ar draws Cymru, fel y rhai a gyhoeddwyd fis diwethaf ar gyfer Lloegr.

Dywed Llywodraeth Cymru bod disgwyl i fyrddau iechyd ddatblygu a gwella mynediad i wasanaethau adferiad.

Mewn ymateb i ymholiadau rhaglen Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Wales Live, dim ond un o saith bwrdd iechyd Cymru ddywedodd bod bwriad sefydlu gwasanaeth adferiad i gleifion Covid hir nad oedd angen triniaeth ysbyty wrth gael eu heintio.

Disgrifiad,

Wythnosau ers iddi gael ei heintio, mae Leanne Lewis yn dal i ddioddef effeithiau Covid-19

Hyfforddwr beicio mynydd a chwaraeon padlo yw Mrs Wakefield ond mae bellach yn her iddi gario'r golch fyny grisiau, paratoi bwyd a diod a helpu'i phlant gyda'u gwaith cartref.

Nid yw wedi gweithio ers mis Mawrth ac mae'n rhagweld gorfod ceisio am fudd-daliadau.

"Roedd fy ngwaith yn golygu seiclo chwech neu saith awr ar y mynydd," meddai. "Ni alla'i freuddwydio am seiclo i ben y stryd, hyd yn oed, ar hyn o bryd."

Mae Mrs Wakefield, sy'n berchen ar ei busnes ei hun, yn gobeithio gallu gweithio eto erbyn y gwanwyn, ond mae'n amhosib gwybod pa bryd fydd hi'n teimlo'n ddigon da oherwydd natur symptomau Covid hir.

'Mae'n dwyn eich bywyd'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Ian Frayling â symptomau Covid hir ers mis Mawrth

Aelod arall o'r grŵp Covid Hir Cymru yw'r Dr Ian Frayling - patholegydd geneteg ac uwch gymrawd ymchwil clinigol gyda Phrifysgol Caerdydd.

Yn 61 oed ac o'r Bontfaen ym Mro Morgannwg, mae symptomau'r cyflwr arno ers mis Mawrth.

"Mae'n dwyn eich bywyd," meddai. "Mae'n frawychus oherwydd mae'n salwch heb brognosis.

"Does dim syniad am ba hyd fydd yn para... mae nifer ohonom a gafodd ein heintio yn gynnar iawn yn dal i ddioddef."

Dylai pob bwrdd iechyd gael clinig amlddisgyblaeth, meddai, i osgoi "loteri cod post".

'Angen ymchwil brys'

Mae ymchwil symptomau Covid Coleg King's Llundain yn casglu gwybodaeth ddyddiol gan 4m o bobl y DU trwy ap.

Awgryma'r ymchwil fod pobl hÅ·n, merched a phobl a gafodd nifer uwch o symptomau Covid-19 gwahanol yn y lle cyntaf yn fwy debygol o gael Covid hir.

Mae arweinydd yr ymchwil, Yr Athro Tim Spector yn rhybuddio y bydd nifer achosion Covid hir yn cynyddu oni bai bod y feirws yn newid, ac yn cefnogi'r alwad am ganolfannau amlddisgyblaeth rhanbarthol.

"Gallai hyn fod yn broblem iechyd cyhoeddus hirach yn y pen draw na'r marwolaethau ychwanegol sy'n cael eu hachosi gan y feirws, sy'n tueddu i daro aelodau mwyaf oedrannus ein poblogaeth," meddai.

"Ar y funud does dim triniaethau ond mae angen mwy o ymchwil ar frys i'r maes hwn, ac mae angen ymyrryd yn gynt… rhaid dod â llawer o arbenigeddau gwahanol at ei gilydd i fynd i'r afael â hyn."

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yw'r bwrdd cyntaf yng Nghymru i fynd ati i agor canolfan gwasanaeth adferiad amlddisgyblaeth. Y gobaith yw i'w agor yn gynnar ym mis Rhagfyr a'i redeg tan Ebrill 2022.

Bydd cleifion yn cael triniaethau ar gyfer symptomau corfforol a meddyliol gan seicolegydd, ffisiotherapydd, therapydd galwedigaethol, dietegydd a therapydd lleferydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydden nhw'n "canolbwyntio ar ddarparu gofal a chefnogaeth mor agos â phosib at adref, sydd wedi'i deilwra i anghenion penodol" wrth gefnogi cleifion sy'n gwella o Covid-19.

Ychwanegodd: "Rydym wedi cyhoeddi fframwaith a chanllaw adferiad cenedlaethol, ar sail y dystiolaeth ddiweddaraf sydd, a fydd yn cael ei ddiweddaru wrth inni barhau i ddysgu a gwella ein dealltwriaeth o'r clefyd yma a'i effeithiau hirdymor.

"Mae ein cynllun gwarchod dros y gaeaf a chanllaw cynllunio'r GIG yn gwneud hi'n glir bod disgwyl i fyrddau iechyd weithio gyda'u partneriaid, gan gynnwys meddygfeydd, i ddatblygu a gwella mynediad i wasanaethau adferiad amlbroffesiwn."

Beth yw Covid hir?

Mae claf â symptomau dros 12 wythnos ar ôl cael ei heintio â coronafeirws. Mae ymchwil Coleg King's Llundain yn amcangyfrif fod un ymhob 45 o gleifion yn sâl am o leiaf 12 wythnos.

Mae'r symptomau'n amrywio o berson i berson ond gall cynnwys:

  • blinder llethol;

  • diffyg anadl;

  • peswch parhaus;

  • poen yn y cymalau;

  • poen yn y cyhyrau;

  • trafferthion clyw a golwg;

  • cur pen;

  • colli'r gallu i flasu ac arogleuo; a

  • niwed i'r galon, yr ysgyfaint, arennau a'r perfedd.

Mae rhai wedi crybwyll trafferthion iechyd meddwl yn cynnwys iselder, gor-bryder a thrafferth meddwl yn glir.

Wales Live, Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú One Wales, 22:35 nos Fercher ac yna ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iPlayer.