'Pryderon enfawr' am ddiogelwch ysbyty newydd y Faenor

Disgrifiad o'r llun, Siaradodd Dr Deborah Wales gyda'r 麻豆官网首页入口 yn 2014
  • Awdur, Huw Thomas
  • Swydd, Newyddion 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae un o reolwyr Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi dweud bod ganddi "bryderon enfawr" am ddiogelwch cleifion os bydd ysbyty newydd yn agor yr wythnos nesaf.

Rhybuddiodd Dr Deborah Wales na all Ysbyty Prifysgol y Faenor yn Llanfrechfa, Cwmbr芒n, "weithredu fel y bwriadwyd" os aiff yr agoriad yn ei flaen.

Gwnaeth ei sylwadau mewn e-bost at gydweithwyr ar 9 Tachwedd, sydd bellach wedi dod i law 麻豆官网首页入口 Cymru.

Dywedodd cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Dr Sarah Aitken, bod "lleiafrif o feddygon" wedi lleisio pryderon am agor wythnos nesaf, a bod y bwrdd iechyd yn "hyderus" ei fod yn gallu agor yr ysbyty yn ddiogel.

Yn 么l Dr Tim Rogerson, cyfarwyddwr clinigol meddyginiaethau argyfwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, er bod agor ysbyty newydd yn dasg "heriol", mae'r peth cywir i wneud "ar gyfer y rhan fwyaf o'r boblogaeth".

Mae 471 o welyau yn yr ysbyty newydd gwerth 拢350m, sydd wedi cymryd tair blynedd i'w adeiladu.

Mae'r agoriad ar 17 Tachwedd yn digwydd bedwar mis yn gynt na'r disgwyl ac yng nghanol yr ail don o achosion coronafeirws.

Mae Dr Deborah Wales yn gyfarwyddwr adrannol ar ofal heb ei drefnu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac mewn e-bost wedi'i farcio fel un "Swyddogol - Sensitif" mae hi'n amlinellu pryderon ynghylch agor yr ysbyty newydd.

Ysgrifennodd Dr Wales: "Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n bwysig ysgrifennu at bawb yngl欧n 芒'r pryderon enfawr sydd gen i am ddiogelwch cleifion os ydy'r YPF [Ysbyty Prifysgol y Faenor] yn agor fel ag y cynlluniwyd ymhen wythnos.

"Rwyf wedi bod yn cyfleu'r pryderon hyn trwy e-byst ac yn uniongyrchol i gydweithwyr gweithredol ond mae'r cynllun yn parhau i fynd yn ei flaen.

"Rydyn ni yng nghanol ail don Covid; fel y cyfryw, byddwn yn mynd i mewn i'r YPF mewn ymchwydd ac ni all weithredu yn 么l y bwriad."

'Dim staff ar lawer o wardiau'

Mae Dr Wales yn manylu ar sut y bydd yr ysbyty newydd yn agor gyda newidiadau sylweddol i wasanaethau oherwydd y pandemig, ac mae'n rhybuddio sut y bydd lefelau staffio yn ei chael hi'n anodd ymdopi 芒'r gofynion fydd ar yr ysbyty newydd, ac ysbytai presennol yr ardal.

Dywedodd fod prinder meddygon yn bodoli, ond bod "y diffyg staff meddygol lawer yn llai na'r diffyg nyrsio".

Mae ymdrechion wedi bod i gael staff nyrsio dros-dro, meddai, ond mae "llawer o wardiau yn parhau i fod 芒 staff annigonol / dim staff" ym mhob un o brif ysbytai'r bwrdd iechyd, gan gynnwys Ysbyty Prifysgol y Faenor.

Mae'r gweithlu wedi blino, meddai, ac fe ddywedodd fod lefelau salwch staff yn effeithio ar "dros 15%" ohonynt.

"Mae'n anochel y bydd ceisio ymdopi 芒'r cleifion ar draws pedwar safle yn lleihau'r gallu i barhau 芒 gwaith dewisol fel endosgopi.

"Mae hyn yn cyflwyno risg bellach i'n cleifion yn enwedig mewn gwaith canser, lle bydd oedi cyn cael diagnosis a thriniaeth yn achosi mwy o farwolaethau."

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Dr Sarah Aitken "lleiafrif" o feddygon sy'n pryderu am agoriad yr ysbyty newydd

Dywedodd Dr Sarah Aitken "mae wir yn bwysig bod ni'n gwrando ar yr holl bryderon sy'n cael eu lleisio gan nifer o feddygon - ond lleiafrif o feddygon sy'n pryderu.

"A dydy'r doctoriaid sy'n gofalu am gleifion yn ein hysbytai presennol ddim yn poeni am yr ysbyty newydd, maen nhw'n poeni am ddiogelwch cleifion yn Ysbyty Brenhinol Gwent a Nevill Hall unwaith i ni agor yr ysbyty yma."

Dywedodd Dr Aitken bod gwaith manwl yn cael ei wneud i sicrhau nad yw diogelwch cleifion yn cael ei effeithio gan agoriad yr ysbyty newydd.

"Rydyn ni'n hyderus iawn gallwn agor yr ysbyty yma'n ddiogel, mae lot mawr o gynllunio wedi mynd mewn i hwnna.

"Mae sicrhau bod ysbyty Nevill Hall ac ysbyty Brenhinol Gwent yn ddiogel nawr yn rhan o gynllunio manwl, a dyna beth yw pryder Dr Wales.

"Rydyn ni'n gweithio trwy hynny trwy edrych ar achos pob claf."

Agor ysbyty newydd 'wastad yn her'

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Dr Tim Rogerson rhaid gwneud y peth cywir "i'r rhan fwyaf o'r boblogaeth"

Mae Dr Tim Rogerson yn ymgynghorwr meddyginiaethau argyfwng ac yn gyfarwyddwr clinigol meddyginiaethau argyfwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Wrth s么n am agoriad yr ysbyty newydd, dywedodd: "Roedd e wastad yn mynd i fod yn her.

"Roedd agor ysbyty newydd yn mynd i fod yn anodd ac mae agor yn ystod pandemig yn mynd i fod yn wahanol.

"Mae'n rhaid i ni gydnabod ein bod ni yng nghanol pandemig ac rydym yn gwneud y peth cywir ar gyfer y rhan fwyaf o'r boblogaeth.

"Rydyn ni'n mynd i fod yn trio pethau newydd, ffyrdd newydd o weithio byddai wedi bod yn haws gyda mwy o amser i gael e'n barod, ond i fi mae cael ysbyty sydd wedi'i adeiladu'n bwrpasol ac sydd wedi'i setio fyny'n dda ar gyfer edrych ar 么l cleifion yn ystod pandemig gyda'r holl ystafelloedd sengl a'r uned gofal dwys mwy, mae hynny'n gwneud synnwyr i'w agor cyn gynted 芒 phosib fel ein bod yn gallu darparu'r gofal yna i gleifion."

Ychwanegodd: "Roedd y don gyntaf yn rili anodd a gwelsom ni bethau a gwnaethom ni bethau doeddwn ni byth eisiau gwneud yn ein gyrfa a dwi'n credu bod holl staff y GIG yn cario'r baich yna."