麻豆官网首页入口

Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru i weithredu 24/7

  • Cyhoeddwyd
Tu mewn i hofrennydd yn y nosFfynhonnell y llun, Ambiwlans Awyr Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r dechnoleg ddiweddaraf yn caniat谩u i'r criwiau hedfan yr hofrenyddion yn y nos

Bydd modd galw am gymorth Ambiwlans Awyr Cymru 24 awr y dydd o hyn ymlaen wrth i'r gwasanaeth ddechrau gweithredu hofrennydd dros nos.

Er i gynllun peilot ar ddefnyddio hofrenyddion dros nos gael ei gynnal 'n么l yn 2013, dim ond nawr mae'r elusen wedi sicrhau digon o arian i redeg y gwasanaeth yn llawn.

Bydd y meddygon argyfwng ymgynghorol, ynghyd 芒 chriw dau beilot, ar waith rhwng 19:00 a 07:00 o hofrenfa'r elusen yng Nghaerdydd o nos Fawrth ymlaen, a byddan nhw'n gallu teithio ledled Cymru yn ystod yr oriau yna.

Mae'r meddygon argyfwng yn gallu rhoi triniaethau brys critigol sydd ddim fel arfer ar gael y tu allan i amgylchedd ysbyty, gan gynnwys triniaethau llawfeddygol, trallwysiadau gwaed ac anesthesia brys.

Blynyddoedd o gynllunio

Mae'n costio tua 拢6.5m bob blwyddyn i redeg yr hofrenyddion yn ystod y dydd.

Er mwyn darparu hofrennydd nos, mae'n rhaid i Ambiwlans Awyr Cymru godi 拢1.5m yn ychwanegol, sy'n golygu y bydd angen cyfanswm o 拢8m er mwyn gweithredu gwasanaeth 24/7.

Ffynhonnell y llun, Ambiwlans Awyr Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Meddygon Hedfan Cymru wedi bod yn rhan o d卯m Ambiwlans Awyr Cymru ers 2015

Dywedodd David Gilbert OBE, cadeirydd AAC: "Ar ddechrau'r flwyddyn, gwnaethom ddweud mai ein nod oedd cyflwyno hofrennydd nos erbyn diwedd 2020.

"Rydym ni, ar y cyd 芒'n partneriaid yn y GIG a'n partneriaid ym maes hedfanaeth, wedi treulio blynyddoedd lawer yn cynllunio ac yn paratoi.

"Er gwaethaf heriau'r pandemig, roeddem o'r farn ei bod yn bwysicach nag erioed i ddarparu gwasanaeth sy'n achub bywydau 24/7 i bobl Cymru.

"Yn 2021, bydd yr elusen yn dathlu 20 mlynedd o wasanaeth, a pha ffordd well o ddathlu er mwyn nodi'r garreg filltir honno na chyflwyno gwasanaeth ambiwlans awyr 24/7."

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Rwyf wrth fy modd bod Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru wedi cyflawni ei uchelgais i fod yn wasanaeth 24/7.

"Bydd cyflwyno'r hofrennydd dros nos yn darparu gwasanaeth awyr brys i fwy o bobl sydd ag angen clinigol am driniaeth ar unwaith ledled Cymru."