麻豆官网首页入口

'Pwysau ar y GIG yn debygol o barhau am gyfnod'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Nyrs a chlaf ar ward ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r pwysau ar y GIG yn debygol o barhau am yr wythnosau nesaf hyd yn oed os yw cyfraddau heintiadau coronafeirws yn parhau i ostwng, yn 么l y meddyg sy'n arwain yr ymateb i'r pandemig yng Nghymru.

Roedd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru'n ymateb wedi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro apelio Ddydd San Steffan am help myfyrwyr meddygol i ofalu am gleifion yn adran gofal dwys Ysbyty Athrofaol Cymru.

Dywed llefarydd bod dros 30 o wirfoddolwyr meddygol wedi ymateb o fewn oriau i'r neges ar y cyfryngau cymdeithasol ac ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd yr ysbyty yn derbyn cymorth gan rai sydd wedi bod yn gweithio yn yr ysbyty o'r blaen ac y bydd y gweddill yn cael eu rhoi ar gofrestr.

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru bod y sefyllfa staffio yn yr Ysbyty Athrofaol wedi gwella yno a bod yr uned yn parhau ar agor ac yn gallu derbyn cleifion.

Er bod y sefyllfa wedi gwella yno erbyn dydd Sul roedd ystadegau Llywodraeth Cymru'n nodi nad oedd yr un gwely gofal dwys ar gael yno ar 20 Rhagfyr.

Roedd yna ap锚l ar-lein nos Sul hefyd gan anaesthetegydd gyda Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg am gymorth ymgynghorwyr a meddygon uned gofal dwys gan fod "ein huned Covid wyth gwely'n gweithio ar gapasiti oddeutu 150% ers wythnosau nawr".

'Canran sylweddol' o staff yn s芒l

Dywedodd Dr Giri Shankar wrth Radio Wales fore Llun fod y GIG dan bwysau anferthol a digynsail.

"Mae canran sylweddol o'n gweithlu eu hunain yn s芒l," meddai. "Jyst cyn Nadolig, roedd y cyfraddau salwch o gwmpas 10-12%. Mae hynny'n nifer uchel o weithwyr nad sydd ar gael.

"Felly, fel y gwelsoch chi ddoe a'r diwrnod cynt, mae byrddau iechyd yn apelio am ba bynnag help gallen nhw gael o ffynonellau gwahanol, gan gynnwys myfyrwyr meddygol, cyn swyddogion iechyd ac yn y blaen.

"Mae'n sefyllfa heriol eithriadol ac nid yng Nghaerdydd a Chymru yn unig ond ar draws ein holl fyrddau iechyd."

Ffynhonnell y llun, Mick Lobb/Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd pob gwely gofal dwys Ysbyty Athrofaol Cymru'n llawn ar 20 Rhagfyr, yn 么l data Llywodraeth Cymru

"Mae'n bwysig i ddilyn y tueddiadau sylfaenol yn hytrach na'r ffigyrau sy'n amrywio o ddydd i ddydd," meddai Dr Shankar wrth siarad ar Radio Wales ddydd Llun.

"Mae, wrth gwrs, yn newyddion i'w groesawu os yw niferoedd achosion yn gostwng ond mae'n rhy gynnar i ddweud os taw dyna'r achos.

"Yr hyn rydym yn ei weld yn yr ysbyty yw canlyniad heintiadau oedd eisoes yn y gymuned o'r pedair wythnos ddiwethaf a chyn hynny.

"Mae arna'i ofn, y bydd y sefyllfa yna'n parhau am beth amser a dim ond trwy leihau achosion newydd yn y gymuned y gallen ni, yn anuniongyrchol, leihau'r pwysau ar ein hysbytai."

Arwyddoc芒d niferoedd profion

Ychwanegodd Dr Shankar ei fod yn "dawel optimistaidd" bod nifer achosion yn dechrau gostwng ond bod rhaid eu dehongli o fewn eu cyd-destun.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dr Giri Shankar yw Cyfarwyddwr Digwyddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru

"Er enghraifft, fe allen ni fod wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl ddaeth ymlaen am brofion yn y cyfnod cyn y Nadolig," meddai. "Dan y trefniadau blaenorol [i lacio'r cyfyngiadau dros bum niwrnod yn lle Diwrnod Nadolig yn unig] roedd yna bosibilrwydd i aelwydydd ddod at ei gilydd. Felly roedd llawer o bobl eisiau prawf i dawelu'u meddyliau.

"Rydym wedi gweld niferoedd profi'n lleihau ychydig yn yr wythnos ddiwethaf. Fe allai hynny fod oherwydd Nadolig a chyfnod y gwyliau banc - mae eto i ddod i'r amlwg a yw hynny'n cael effaith ar niferoedd achosion mewn gwirionedd.

"Wrth i ni ddechrau cael niferoedd profi tebyg i'r rhai yn yr wythnosau diwethaf, ac os yw hynny wedyn yn dangos gostyngiad yn nifer achosion newydd, yna fe allen ni gael mwy o hyder o'r niferoedd hynny."

Profiad o'r rheng flaen: "Pwysau eithafol"

Mae nifer y cleifion Covid-19 sy'n cyrraedd Ysbyty Athrofaol Cymru wedi bod yn "ddi-baid", yn 么l yr endocrinolegydd ymgynghorol, Dr Andrew Lansdown.

"Rydym wirioneddol wedi teimlo ein bod wedi ein hymestyn i'r eithaf," meddai wrth 麻豆官网首页入口 Radio 5Live.

"Nid oherwydd dim ond yr amrywiolyn newydd, sy'n ymddangos yn lledu'r gyflymach. Mae gyda chi'r pwysau gaeafol arferol yn yr ysbyty hefyd, yn ogystal 芒'r staff eu hunain sy'n wael ac yn hunan-ynysu."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Mae ysbytai Cymru wedi wynebu "pwysau eithafol" yn yr wythnosau diwethaf, meddai, ac mae'r ymateb i'r ap锚l ar-lein am help wedi bod yn "aruthrol".

Ond mae'n ofni taw mater o amser yw hi nes bydd ysbytai eraill Cymru a gweddill y DU dan bwysau tebyg.

Roedd staff 芒 "st么r fawr o egni" yn ystod y don gyntaf o achosion, ond mae'r sefyllfa'n "wahanol" erbyn hyn.

"Rydym yn gweld llawer o flinder ymhlith staff," meddai. "Mae'n flinder corfforol, yn amlwg, ond mae'n emosiynol hefyd.

"Rydym yn gweld aelodau staff eu hunain yn mynd yn s芒l. Mae rhai, yn anffodus, wedi marw yn ystod y pandemig. Ac mae angen ceisio cydbwyso hynny gyda gofalu am gleifion."

"Rwy'n meddwl taw dyna'r darlun ar draws Cymru."