麻豆官网首页入口

ONS: Dros 5,100 o farwolaethau Covid yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Rhondda Cynon TafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhondda Cynon Taf oedd gyda'r nifer uchaf o farwolaethau mewn ysbytai ledled Cymru

Mae mwy na 5,100 o bobl yng Nghymru wedi marw gyda Covid-19 ers i'r pandemig ddechrau.

Mae'r ffigyrau wythnosol diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos 310 o farwolaethau yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 1 Ionawr, sef 32 yn fwy na'r wythnos flaenorol.

Mae hynny bron yn 42.6% o'r holl farwolaethau gafodd eu nodi yng Nghymru yr wythnos honno.

Gwelodd ardal Cwm Taf Morgannwg y niferoedd uchaf o farwolaethau wythnosol yng Nghymru, y mwyaf ers diwedd mis Ebrill.

Bu 76 o farwolaethau - gan gynnwys 66 mewn ysbytai a chwech mewn cartrefi gofal.

Rhondda Cynon Taf (RhCT) oedd 芒'r ail nifer uchaf o farwolaethau mewn ysbytai ledled Cymru a Lloegr - 34. Roedd gan fwrdeistref Newham yn Llundain 35.

Daw wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gofnodi 16 o farwolaethau pellach yn gysylltiedig 芒 Covid-19.

Fe wnaeth ICC hefyd gofnodi 1,332 o achosion newydd yn y ffigyrau diweddaraf.

Roedd dros 100 o achosion newydd yn ardaloedd Wrecsam, Caerdydd a Rhondda Cynon Taf, a dros 80 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir y Fflint.

Ychwanegodd ICC bod 91,239 o bobl bellach wedi derbyn dos cyntaf o frechlyn Covid-19 yng Nghymru.

Unwaith eto, roedd rhybudd gan yr ONS wrth gyhoeddi'r ffigyrau diweddaraf, oherwydd gwyliau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, a fydd yn effeithio ar nifer y cofrestriadau.

Cyfanswm marwolaethau Covid yng Nghymru, hyd at 1 Ionawr oedd 4,963.

Ond pan fydd marwolaethau a gofrestrwyd dros yr ychydig ddyddiau canlynol yn cael eu cyfrif, roedd y cyfanswm yn 5,169.

Roedd gan Aneurin Bevan 68 marwolaeth a gofrestrwyd yn cynnwys Covid - ei nifer uchaf mewn un wythnos ers diwedd mis Ebrill.

Adroddodd bwrdd iechyd Hywel Dda 37 marwolaeth - ei ffigwr wythnosol uchaf ers i'r pandemig ddechrau.

O'r rhain, roedd 18 yn cynnwys cleifion o Sir Gaerfyrddin yn yr ysbyty a 10 o gleifion ysbyty o Sir Benfro.

Pob sir yn nodi marwolaeth Covid

Cafodd Bae Abertawe 61 o farwolaethau yn ystod yr wythnos hon; Abertawe ei hun oedd 芒'r seithfed nifer uchaf o farwolaethau mewn ysbytai ledled Cymru a Lloegr.

Bu 36 marwolaeth yng Nghaerdydd a'r Fro, 25 marwolaeth yn Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru - 10 ohonyn nhw yn farwolaethau mewn ysbytai yn Wrecsam - a saith ym Mhowys.

Cofnododd pob sir o leiaf un farwolaeth yn ymwneud 芒 Covid-19.

RhCT, gyda 685 o farwolaethau, sydd 芒'r nifer fwyaf o farwolaethau Covid-19 yng Nghymru, ac yna Caerdydd gyda 578 hyd at yr wythnos ddiweddaraf.