Methu targed o frechu 70% o bobl dros 80 oed

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi methu eu targed i frechu 70% o'r bobl dros 80 oed erbyn diwedd y penwythnos diwethaf.

Awgrymodd y llywodraeth fod y tywydd yn ffactor wrth iddyn nhw fethu 芒 chyrraedd carreg filltir gyntaf y rhaglen frechu.

Bu'n rhaid cau pedair canolfan frechu yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg dros y penwythnos oherwydd y tywydd.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford wrth Senedd Cymru bod llawer o bobl dros 80 oed wedi teimlo nad oedd yn ddiogel cadw apwyntiadau oherwydd y rhew ac eira diweddar.

Yn 么l y ffigyrau diweddaraf, mae 96,830 o bobl dros 80 wedi cael eu brechiad cyntaf rhag Covid-19 - 52.8% o'r gr诺p arbennig yma, er mae'r ystadegau sy'n cael ei gyhoeddi eisoes yn sawl diwrnod oed.

Daw wrth i gyfanswm nifer y marwolaethau yn ymwneud 芒 Covid-19 yng Nghymru godi i'w lefel wythnosol uchaf ers dechrau'r pandemig.

Disgrifiad o'r llun, Canofan frechu Merthyr Tudful oedd un o'r rhai fu'n rhaid cau dros y Sul oherwydd eira

Dywedodd Mr Drakeford yn ystod sesiwn wythnosol Holi'r Prif Weinidog: "Ni fyddwn yn cyrraedd y targed o 70% o ran y rhai dros 80 oed oherwydd y toriad i'r rhaglen frechu ddydd Sul a bore Llun.

"Dydw i ddim am gael pobl dros 80 yn teimlo dan bwysau i ddod mas i gael eu brechu pan maen nhw'u hunain yn penderfynu nad yw'n ddiogel iddyn nhw wneud hynny."

Ychwanegodd y bydd yna gyfle pellach i'r unigolion hynny gael eu brechu erbyn diwedd dydd Mercher.

Dywedodd hefyd fod Cymru ar y trywydd cywir i gynnig brechlyn i bawb yn y pedwar gr诺p blaenoriaeth cyntaf erbyn canol Chwefror.

'Rhaid cymryd cyfrifoldeb llawn'

Yn 么l y Ceidwadwyr Cymreig fe fyddai'r sefyllfa'n "ffars oni bai bod bywydau yn y fantol".

Dywedodd arweinydd y blaid yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies fod y Blaid Lafur 芒 hanes o "hawlio'r clod pan fo pethau'n mynd yn dda ond yn beio unrhyw un ac unrhyw beth arall pan maen nhw'n mynd o'i le".

Ychwanegodd: "Rhaid i'r Prif Weinidog a'i Weinidog Iechyd gymryd y cyfrifoldeb llawn am y methiant yma... a chael y rhaglen frechu'n 么l ar y trywydd cywir trwy benodi gweinidog brechu penodol a gosod targed mae modd iddyn nhw ei gyrraedd."

Yn y Senedd, dywedodd Mr Davies fod yna "loteri cod post" o ran brechu.

Atebodd Mr Drakeford fod cyfanswm y bobl sy'n cael eu brechu wedi codi o 162,000 wythnos diwethaf i 230,000 ddydd Mawrth, a bod cyfradd y cynnydd yn gyflymach yng Nghymru nag yn unrhyw rhan o'r DU.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mynegodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, amheuon wedi i'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething awgrymu ond mymryn yn brin o'r nod oedd y llywodraeth.

"Mae bwlch rhwng canran o 52.7% a tharged o 70% yn rhy fawr i wneud y fath haeriad," meddai, "hyd yn oed os oes 'na beth data yn dal angen ei fwydo i'r system."

Ychwanegodd: "Dwi ddim yn meddwl bod beio eira dros y Sul yn dal d诺r, waeth faint o broblem 'nath yr eira greu mewn rhai ardaloedd.

"Y broblem oedd eich bod chi dal ar 24% o bobl dros 80 oed ganol yr wythnos ddwetha', ac mi oedd yna ormod o fynydd i'w ddringo."

Ffynhonnell y llun, Reuters

Daeth datganiad Mr Drakeford oriau wedi i ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) nodi fod cyfanswm nifer y marwolaethau yn ymwneud 芒 Covid-19 yng Nghymru ar ei lefel wythnosol uchaf ers dechrau'r pandemig.

Roedd 467 o farwolaethau yn ystod yr wythnos ddaeth i ben ar 15 Ionawr, sydd 13 yn uwch na'r wythnos flaenorol.

Roedd hyn bron i 40% o'r holl farwolaethau gafodd eu cofrestru, yn 么l yr ONS.

Hyd yma mae 289,556 o bobl wedi derbyn eu brechiad cyntaf ar gyfer Covid-19 - sydd yn 9.2% o'r boblogaeth, gyda 581 yn wedi derbyn dau ddos.

Fe wnaeth byrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Cwm Taf Morgannwg gofnodi eu niferoedd wythnosol uchaf o farwolaethau, gyda'r niferoedd yn uwch na'r hyn a brofwyd yn ystod y don gyntaf y llynedd.

Roedd 74 o farwolaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, a 116 yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Yn y cyfamser mae wyth o farwolaethau'n rhagor wedi eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Mawrth, gyda 570 o achosion newydd.

O ganlyniad mae cyfanswm nifer yr achosion positif yn 189,152, gyda 4,561 o unigolion wedi marw o ganlyniad i'r haint meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn wahanol i'r hyn ddigwyddodd yn ystod brig y don gyntaf yn 2020, mae Cymru bellach yn gweld niferoedd uwch o farwolaethau yn y gogledd a'r gorllewin.

Yn y gogledd ddwyrain, lle bu'r cyfraddau achosion uchaf o Covid-19 yn ystod yr wythnosau diwethaf, bu 30 o farwolaethau ymysg trigolion Sir y Fflint, gan gynnwys 25 mewn ysbytai.

Yn Wrecsam, bu 27 o farwolaethau - gyda 21 o'r rhain mewn ysbytai.

Roedd 49 o farwolaethau mewn ysbytai yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr - y nifer wythnosol uchaf yng Nghymru.

Bu farw hefyd 33 o gleifion yn Rhondda Cynon Taf, a chwech ym Merthyr Tudful.