Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dod o hyd i arsenig yn waliau eglwys restredig Gradd II*
Cafodd cadwraethwyr syndod wrth ddarganfod cemegyn gwenwynig dan baent waliau eglwys wag yng Ngheredigion.
Daeth i'r amlwg fod arsenig ym muriau eglwys San Mihangel yn Nhremain, ger Aberteifi, fel rhan o waith adnewyddu.
Dangosodd profion fod yr arsenig bellach yn anadweithiol o ganlyniad i gael ei orchuddio 芒 haenau o baent a gwyngalch.
Ond dywed yr elusen Cyfeillion Eglwysi Digyfaill, sy'n gofalu am yr eglwys ers 2013: "Fyddan ni ddim yn sandio'r waliau ar frys am sbel eto."
'Gwyrdd marwol yn llechu'
Roedd hynny yn sgil darganfod haenau "gwyrdd marwol yn llechu dan y gwyngalch" ym muriau'r gangell - yr ardal o amgylch yr allor mewn eglwys.
O astudio sampl dan feicrosgop, daeth "paent gwyrdd tywyll, cyfoethog" i'r amlwg, dan haenau gwyrdd mwy golau a gwyn.
Roedd yn arfer i ddefnyddio arsenig i gynhyrchu rhai lliwiau gwyrdd mewn paent a phapur wal yn yr 18fed a'r 19eg Ganrif.
Un o'r cwmn茂au i wneud hynny oedd Morris & Co, sy'n boblogaidd hyd heddiw.
Yn y 1860au cafodd marwolaethau nifer o blant eu cysylltu 芒 phapur wal, ac fe wrthododd y sylfaenydd, William Morris 芒 derbyn eu bod wedi'u gwenwyno.
Ond ildiodd i'r farn gyhoeddus yn y pen draw a dechrau gwerthu papur wal heb arsenig.
Newidiodd y ffasiwn o ran lliwiau paent a dulliau cynhyrchu dros y blynyddoedd, ond mae cadwraethwyr yn dal yn pwyllo wrth ddod ar draws haenau papur wal 芒 lliwiau gwyrdd neilltuol wrth adnewyddu hen adeiladau.
'Prin' mewn eglwysi
Cafodd Eglwys San Mihangel ei dylunio gan y pensaer John Jones a'i chodi ar safle eglwys flaenorol yn y 19eg Ganrif. Cafodd statws rhestredig Gradd II* yn 2009.
Daeth yr arsenig i'r amlwg ddwy flynedd yn 么l, ond dim ond yn ddiweddar y cyhoeddodd Cyfeillion Eglwysi Digyfaill unrhyw beth amdano ar y cyfryngau cymdeithasol.
Fe wnaethon nhw benderfynu gwneud hynny wrth baratoi'r eglwys ar gyfer gwaith i'r llawr a'r seddau.
Mae'r elusen yn gofalu am o gwmpas 60 o hen eglwysi gwag yng Nghymru a Lloegr. Yn 么l y cyfarwyddwr, Rachel Morley, dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ddod ar draws y cemegyn.
"Pan roedd yn gynnyrch newydd, fe fyddai wedi bod yn ddrytach," meddai.
"Felly rwy'n meddwl ei fod yn eithaf prin, mwyaf tebyg, mewn eglwysi, ond fe gafodd yr eglwys [yn Nhremain] ei hailwampio eithaf tipyn tua'r adeg hynny felly yn amlwg roedden nhw am iddi edrych yn eithaf drudfawr."
Wedi'r darganfyddiad yn y gangell, cafodd asesiad ei gynnal ar y paent a'r haenau o blastr.
"Daeth yr arbenigwyr i'r casgliad fod y gwyrdd arsenig wedi'i orchuddio'n gyfan gwbl maes o law gan haenau o baent olew a gwyngalch," medd yr elusen, a'r arsenig, o ganlyniad, "yn anadweithiol".
Ychwanegodd: "Mae'n hollol ddiogel yn yr eglwys nawr, ond byddwn yn monitro cyflwr y paent a'r plastr."