麻豆官网首页入口

Negeseuon cymysg am ailagor yn broblem i fusnesau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
LlandudnoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae economi nifer o drefi glan m么r Cymru, fel Llandudno, yn ddibynnol ar dwristiaeth

Mae'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant twristiaeth yn dweud bod angen neges glir gan Lywodraeth Cymru yngl欧n ag ailagor.

Wrth siarad 芒 麻豆官网首页入口 Cymru dywed Gavin Harris sy'n berchen ar lety y Manorhaus yn Rhuthun a Llangollen bod neges gymysg yn achosi mwy o broblemau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Mae'n bwysig diogelu iechyd y cyhoedd ond ry'n ni angen neges glir,' medd Gavin Harris

"Be 'dan ni angen yw ryw fath o road map, hynny yw ffordd neu batrwm allwn ni ddilyn a buasai cael gwybod beth yw'r patrwm o flaen llaw yn help mawr.

"Yr ansicrwydd a'r negeseuon cymysg sy'n anodd. 'Dan ni wedi cael negeseuon y gallen ni agor ym mis Mai ac wedyn dyma'r Prif Weinidog, Mark Drakeford yn dweud efallai y bydd rhannau o Gymru yn agor erbyn y Pasg.

"Fy hun dwi'n meddwl bod agor erbyn y Pasg yn optimistig a'r hyn sy'n anodd yw nad yw'r cyhoedd yn gwybod os allan nhw fwcio neu beidio. Mae angen patrwm clir a transparent ond yn amlwg 'dan ni ddim am i'r cynlluniau amharu ar iechyd y cyhoedd," ychwanega Mr Harris.

Ffynhonnell y llun, Susan Powell
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar hyn o bryd mae yna negeseuon cymysg am ailagor medd cynrychiolwyr y diwydiant twristiaeth

Ddydd Gwener dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod wedi cael trafodaethau am ailagor rhan o'r diwydiant twristiaeth erbyn y Pasg.

Roedd e'n pwysleisio bod angen gofal wrth ailagor unrhyw beth, ond roedd yn cydnabod hefyd bwysigrwydd cyfnod y Pasg i'r diwydiant twristiaeth.

Ond ychwanegodd y bydd unrhyw lacio yn y cyfyngiadau yn cael ei wneud yn "araf" fesul cam a bod hynny yn ddibynnol ar nifer yr achosion.

Dywedodd Gavin Harris hefyd bod angen mwy o help ariannol ar y diwydiant twristiaeth os yw'r cyfnod clo yn parhau.

"Mae'r sector wedi wynebu blwyddyn annifyr iawn y llynedd. Yn amlwg os 'dan ni methu agor erbyn y Pasg bydd nifer o fusnesau yn wynebu trafferthion.

"Ond yn wir be 'dan ni angen yw cynllun clir a dim negeseuon cymysg."

'Darparu cymaint o eglurder 芒 phosib'

Wrth ymateb i alwad Mr Harris dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir gan ddweud os yw lefelau yr haint yn gostwng yng Nghymru a bod llai o bwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yna bydd modd cynllunio i ddychwelyd gyda gofal i'r agweddau o fywyd ry'n ni wedi'u colli.

"Ry'n yn ymwybodol bod rhain yn amseroedd heriol i'r sectorau twristiaeth a lletygarwch ond ry'n yn cydweithio'n agos gyda phob rhan o'r economi a darparu cymaint o eglurder 芒 phosib am ein cynlluniau."