麻豆官网首页入口

Ap锚l i bobl ymddwyn 'yn gyfrifol' wrth i reolau teithio lacio

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dinbych y PysgodFfynhonnell y llun, Huw Fairclough
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae economi rhai trefi glan m么r Cymru, fel Dinbych-y-pysgod, yn ddibynnol ar dwristiaeth

Wrth i gyfyngiadau ar deithio y tu mewn i Gymru gael ei llacio y penwythnos hwn mae'r cyhoedd yn cael eu rhybuddio i gymryd gofal ac i ymddwyn yn gyfrifol.

Bydd cyfyngiadau aros yn lleol yn cael eu codi o ddydd Sadwrn 27 Mawrth, gan alluogi i drigolion Cymru deithio'n fwy rhydd ledled y wlad.

A gyda'r addewid o dywydd braf dros gyfnod y Pasg mae disgwyl i lawer o bobl ymweld a llefydd yn bellach nac arfer o'u cartrefi, gan gynnwys coedwigoedd, traethau a mynyddoedd.

Dywedodd Tegryn Jones, prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, y dylai pobl gael "cynllun wrth gefn" rhag ofn bod y llefydd maen nhw'n bwriadu ymweld 芒 nhw'n rhy brysur.

Disgrifiad,

Tegryn Jones: "Ni'n croesawu pobl yn dychwelyd, ond byddwch yn gyfrifol"

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi annog pobl i ystyried sut i leihau'r pwysau ar fannau agored er mwyn sicrhau diogelwch ymwelwyr a'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn y cymunedau cyfagos.

Yn y cyfamser mae prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn gofyn i bobl ystyried diogelwch cymunedau sydd yn pryderu am 'fewnlifiad' o ymwelwyr.

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym yn ymwybodol y bydd llawer o bobl yn awyddus i ymweld 芒 chefn gwlad Cymru dros gyfnod y Pasg - i ailymweld 芒'u hoff lefydd eto ac i fanteisio ar y cyfle i grwydro ychydig ymhellach yn y gobaith o ddarganfod llefydd newydd.

"Er ein bod yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn 么l i'n coetiroedd a'n gwarchodfeydd natur, mae'n bwysig ein bod yn parhau i helpu i gadw Cymru'n ddiogel drwy wneud y pethau bychain sydd yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran diogelu ein hamgylchedd naturiol, a pharchu'r cymunedau sydd o'u cwmpas.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae llawer o lwybrau cyhoeddus, fel yma ar Ben y Fan ym Mannau Brycheiniog, wedi bod ar gau ers mis Rhagfyr

"Mae hyn yn cynnwys cynllunio ymlaen llaw i sicrhau eich bod yn deall beth i'w ddisgwyl yn eich cyrchfan, parcio mewn ardaloedd dynodedig yn unig, cadw c诺n dan reolaeth, peidio 芒 chynnau tanau, a mynd 芒'ch sbwriel adref gyda chi.

"Os yw'r safle ychydig yn brysurach na'r disgwyl, sicrhewch fod cynllun arall wrth gefn a byddwch yn barod i ddod o hyd i le tawelach."

Dywedodd Richard Owen, arweinydd t卯m cynllunio hamdden ystadau a stiwardiaeth tir yn CNC: "Er bod ein coetiroedd, ein llwybrau a'n gwarchodfeydd wedi parhau yn agored dros y misoedd diwethaf, bydd ein canolfannau ymwelwyr yn parhau ar gau tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn gyda'r disgwyl i rai safleoedd gynnig gwasanaeth lluniaeth tecaw锚.

"Rydym yn annog pobl i edrych ar ein gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio a dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru yn ystod eu hymweliad, i sicrhau y gall pawb barhau i fwynhau ein safleoedd."

Ffynhonnell y llun, Barcroft Media

Wrth siarad ar 麻豆官网首页入口 Radio Wales fore Gwener dywedodd Tegryn Jones ei fod yn croesawu'r penderfyniad i lacio rhywfaint ar y cyfyngiadau, ond bod angen i ymwelwyr ymddwyn yn gyfrifol hefyd.

"Mae'n gyfle i rai o'r busnesau twristiaeth ailagor, ond mae pryder... ar 么l bod wrth gloi y gallent weld mewnlifiad o ymwelwyr.

"Felly rydyn ni'n apelio ar bobl i ymddwyn yn gyfrifol ac ystyried pawb."