麻豆官网首页入口

Tri chwaraewr allan o garfan Cymru am 'dorri protocol'

  • Cyhoeddwyd
Hal Robson-Kanu, Tyler Roberts a Rabbi MatondoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Hal Robson-Kanu, Tyler Roberts a Rabbi Matondo yn dychwelyd i'w clybiau ddydd Llun

Mae tri aelod o d卯m p锚l-droed Cymru wedi cael eu rhyddhau o'r garfan am eu bod wedi "torri protocol" Cymdeithas B锚l-droed Cymru.

Dywedodd y gymdeithas y bydd Hal Robson-Kanu, Tyler Roberts a Rabbi Matondo yn dychwelyd i'w clybiau ddydd Llun.

Does dim gwybodaeth wedi'i roi gan y gymdeithas am natur y "torri protocol".

Ychwanegodd datganiad y gymdeithas na fyddan nhw yn "gwneud unrhyw sylw pellach" ar y mater.

Ymgyrch Cwpan y Byd yn parhau

Bydd Cymru yn herio'r Weriniaeth Siec nos Fawrth mewn g锚m bwysig yn yr ymgyrch i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2022 yn Qatar.

Mae'r t卯m cenedlaethol eisoes wedi chwarae dwy g锚m dros y dyddiau diwethaf - colled yng Ngwlad Belg a buddugoliaeth yn erbyn Mecsico.

Roedd Robson-Kanu, Roberts a Matondo yn rhan o'r t卯m fu'n herio Mecsico mewn g锚m gyfeillgar nos Sadwrn, a daeth Roberts ymlaen oddi ar y fainc yn y g锚m gystadleuol yn erbyn Gwlad Belg nos Fercher.

Awgrymodd Roberts, sy'n chwarae i Leeds United, ar gyfryngau cymdeithasol bod y mater yn ymwneud 芒 bod allan o'u hystafelloedd gwely yng ngwesty'r t卯m yn hwyrach nag y dylen nhw.

"Gutted i fod yn gadael y garfan yn gynnar, ond rheolau yw rheolau ac ni ddylwn i fod wedi bod i fyny yn y gwesty yn hwyrach na'r amser oedd wedi'i osod," meddai.