Ateb y Galw: Y canwr Huw Ynyr

Ffynhonnell y llun, Huw Ynyr

Y canwr Huw Ynyr sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Ifan Davies yr wythnos diwethaf.

Yn 2012, enillodd Huw Ysgoloriaeth Bryn Terfel, ac yn 2021 daeth yn ail yng nghystadleuaeth Cân i Gymru gyda'r gân Fel Hyn Mae Byw.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Fel rheol mae gen i gof fel eliffant, ond rhaid i mi gyfaddef nad ydw i'n cofio llawer o'm plentyndod. Serch hyn, mae fy mrodyr yn fy atgoffa yn aml i mi ddwyn paced cyfan o fisgedi Blue Ribands a'u byta dan y gwely, cyn cael fy nal gan Mam a cheisio gwadu'r cyfan!

Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?

Yn fy arddegau, roeddwn i (ac yn dal i fod) wrth fy modd efo'r O.C, ac wastad yn breuddwydio am decst gan Summer Roberts (Rachel Bilson).

Ffynhonnell y llun, J. Merritt

Disgrifiad o'r llun, Ers fod cyfres The OC, and griw o bobl ifanc yng Nghaliffornia, wedi dod i ben ers bron i 15 mlynedd, mae Huw dal i aros am neges gan Rachel Bilson (ail o'r chwith)

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mi es i i'r coleg ym Mangor, a bob mis roedd 'na noson Clwb Cymru yn cael ei chynnal yn Hendre Hall. Y thema un mis oedd cymeriadau, a phan doedd 'na ddim gwisgoedd ffansi ar ôl yn y siop, mi es i fel hotdog. Yn anffodus, mi ges i bach gormod o laeth mwnci a chael boot o'r clwb yn gynnar. Pan oedd criw y bws ola'n cyrraedd, roedd 'na hotdog go sâl ar i ffordd adre' i Fangor!

Beth yw dy hoff gân a pham?

Sirens gan Pearl Jam. Wrth fy modd efo geiriau'r gân a ma' Eddie Vedder yn warrior.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dwi ddim fel arfer yn un sy'n crïo wrth wylio ffilmiau, ond mi weles i'r ffilm My Sister's Keeper yn ddiweddar, a mi ges i bryfyn yn fy llygad...

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Heb os, Dolgellau. Y. Lle. Gorau. Yn. Y. Byd.

Ffynhonnell y llun, Loop Images

Disgrifiad o'r llun, Dolgellau a Chader Idris ar ddiwrnod braf

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Ma' Up yn superb. 'Da ni newydd gael golden retriever bach o'r enw Llew, a mae o'r un ffunud â Dug!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Wedi gorfod gofyn wrth Awel, a mae'n debyg 'mod i 'chydig yn drwm fy nghlyw, ac yn euog o weiddi siarad ar brydiau (yn enwedig pan yn siarad ar y ffôn!)

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Hawdd i'w blesio.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Aros adre yn y tÅ· efo Awel a 'neud dim byd.

O archif Ateb y Galw:

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n wyllt am Cadbury's buttons.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ro'n i'n lwcus iawn o gael tocyn i Å´yl Glastonbury yn 2013. Roedd gwylio'r Smashing Pumpkins a Phoenix ar y noson ola' yn glo arbennig i noson/penwythnos a hanner!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Fy Hen Daid, Huw Evans yr Hengwrt. Roedd yn berchen ar fusnes gwerthu llaeth yn Llundain, cyn iddo werthu'r busnes a symud adre i Ryd-y-main. Mi fyddai'n grêt cael 'chydig o hen hanes y teulu gan y dyn ei hun.

I osgoi neges YouTube
Caniatáu cynnwys Google YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Google YouTube a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges YouTube

Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?

Calamari, Beef Massaman a crymbl afal i bwdin. Sori am yr amrywiaeth di-chwaeth.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Ma' Llew y ci yn edrych fel i fod yn mwynhau ei hun. 'Sa hi'n reit ddifyr treulio diwrnod yn 'i bawennau fo.

Pwy wyt ti'n ei enwebu?

Lisa Eurgain Taylor