麻豆官网首页入口

Cymru allan o Euro 2020 wedi cweir gan Ddenmarc

  • Cyhoeddwyd
siomFfynhonnell y llun, Christopher Lee - UEFA

Mae Cymru allan o bencampwriaeth Euro 2020 ar 么l colli'n drwm o 4-0 i Ddenmarc yn Arena Johan Cruijff, Amsterdam.

Y gwrthwynebwyr - y ffefrynnau cyn y gic gyntaf - sy'n mynd trwodd i rownd yr wyth olaf yn Baku.

Cymru gafodd y dechrau gorau i'r g锚m ond ni ddaethon nhw'n agos at sgorio ac unwaith y rhwydodd Denmarc fe aeth y gwrthwynebwyr o nerth i nerth.

Cafodd Harry Wilson ei hel o'r maes tua'r diwedd am dacl hwyr hefyd, wrth i'r Gymry golli eu pennau.

Dychwelodd Chris Mepham, Ben Davies a Kieffer Moore i'r 11 cyntaf, gan olygu bod y t卯m yr un fath 芒'r 11 wnaeth ddechrau yn erbyn Y Swistir a Thwrci.

Cafodd y ddwy ochr ddechrau addawol gyda phasio slic gan Gymru o fewn munudau, er roedd angen tacl gan Chris Mepham i atal rhediad i lawr yr asgell dde gan Martin Braithwaite.

Gan Ddenmarc roedd ergyd gyntaf yr ornest ond yn ffodus i d卯m Robert Page fe aeth ymdrech Kasper Dolberg ymhell heibio'r postyn a thros y trawst.

Ffynhonnell y llun, PIROSCHKA VAN DE WOUW

Methodd Dan James 芒 chysylltu 芒 ph脿s Joe Allen mewn symudiad oedd wedi creu digon o ofod i Gymru yn hanner Denmarc.

Roedd yna rediad wedyn gan James a greuodd gyfle i Gareth Bale ergydio gyda'i droed chwith ond roedd y b锚l, o fymryn, ochr anghywir y postyn.

Bu'n rhaid arbed ergyd o bell gan James mewn cyfnod lle roedd Cymru'n cael y gorau o'r chwarae.

Ond yna fe gafodd Denmarc dair gic cornel ar 么l ei gilydd ac wrth iddyn nhw ddechrau cynyddu'r pwysau roedd yn fantol yn ymddangos yn troi o'u plaid.

Cafodd Joe Rodon gerdyn melyn wedi 25 o funudau am ei drosedd gyntaf un drwy'r gystadleuaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Kasper Dolberg yn sgorio'i g么l gyntaf o 20 llath

Funud yn ddiweddarach roedd Denmarc ar y blaen. Cysylltodd Kasper Dolberg, oedd ond yn yr 11 cychwynnol yn sgil anaf i Yussuf Poulsen, a ph脿s clyfar gan Mikkel Damsgaard a sgorio o du hwnt i'r cwrt cosbi gyda chwip o ergyd.

Gofynnodd y dyfarnwr am farn y dechnoleg VAR, a gadarnhaodd bod y g么l yn sefyll.

Wrth i hyder y gwrthwynebwyr godi, roedd chwaraewyr Cymru'n ymddangos ar ar chw芒l wrth geisio osgoi ildio ail g么l cyn yr egwyl.

Ergyd arall oedd colli Connor Roberts, a fu'n rhaid gadael y maes wedi anaf wrth redeg am y b锚l wedi 37 o funudau.

Neco Williams ddaeth i'r maes yn ei le maes o law, ond erbyn hynny roedd Kieffer Moore wedi cael cerdyn melyn. Cysylltodd ei ben-elin yn anfwriadol 芒 wyneb capten Denmarc wrth iddo neidio am y b锚l.

Collodd Cymru eu si芒p yn llwyr, ac roedd yn amhosib cael y b锚l yn agos at Moore, Bale nag Aaron Ramsey.

Ond fe wnaethon nhw rywsut lwyddo i wrthsefyll y pwysau tan ddiwedd yr hanner, er roedd angen arbediad da hwyr o agos gan Danny Ward i atal Dolberg rhag dyblu'r fantais.

Roedd yn amlwg bod her o'u blaenau wedi'r egwyl, ond yn anffodus fe aeth pethau o ddrwg i waeth yn gynnar iawn yn yr ail hanner.

Dechreuodd symudiad Denmarc wedi'r hyn roedd Cymru'n credu oedd yn drosedd yn erbyn Kieffer Moore yn hanner Sweden.

Rasiodd eu chwaraewyr i lawr y cae gan groesi o'r dde i'r chwith tua'r postyn pellaf. Wrth geisio clirio, fe darodd Neco Williams y b锚l yn 么l i'r dde ar draws canol y cwrt cosbi ac fe syrthiodd y b锚l yn daclus i Dolberg rwydo am yr eildro.

Ffynhonnell y llun, Olaf Kraak - Pool
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Kasper Dolberg yn dathlu sgorio'i ail g么l

Roedd Cymru ddwy g么l ar ei h么l hi wedi 48 o funudau.

Cafodd Cymru ambell gyfle, gan gynnwys ergyd gan James a pheniad gan Bale, ond roedd Denmarc yn edrych yn gyfforddus ac doedd dim llawer o waith i'w golwr Kasper Schmeichel.

Daeth Harry Wilson i'r maes yn lle Joe Morrell, cyn i foli nerthol gan Allen, o dafliad hir gan Bale, dros y trawst.

Bu ond y dim i Mathias Jensen estyn mantais Denmarc gyda chroesiad a gyffyrddodd ochr y postyn ac a fyddai wedi curo Danny Ward.

Roedd Ben Davies a Pierre-Emile Hojbjerg angen triniaeth wedi tacl gref gan y Cymro.

Cafodd Kasper Dolberg ei eilyddio, gan adael y maes i gyfeiliant bonllefau o werthfawrogiad gan gefnogwyr Denmarc, a daeth chwaraewr Caerdydd, Andreas Cornelius, i'r maes yn ei le.

Cafodd rhediad a chroesiad gan Bale ei atal, ac erbyn chwarter awr olaf y g锚m roedd chwaraewyr Cymru'n edrych yn gynyddol flinedig.

Daeth Tyler Roberts i'r maes yn lle Moore a David Brooks yn lle James, ond parhau wnaeth problemau Cymru.

Ffynhonnell y llun, KENZO TRIBOUILLARD
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aeth Denmarc o nerth i nerth gyda phob g么l

Daeth Denmarc yn agos at sgorio ddwywaith o fewn eiliadau - tarodd Martin Braithwaite y postyn cyn i ergyd Joachim Andersen fynd heibio.

Dwy funud yn unig wedi hynny, roedd pencampwriaeth Cymru ar ben pan darodd Joakim Maehle y b锚l i'r rhwyd.

Arweiniodd rhwystredigaeth Cymru at eiliadau o ddiffyg disgyblaeth a welodd cerdyn coch i Harry Wilson a cherdyn melyn i Bale am wawdio'r dyfarnwr.

Halen yn y briw oedd pedwerydd g么l Denmarc gan Martin Braithwaite yn ystod amser ychwanegol wedi 90 munud.

Roedd Braithwaite yn ymddangos fel petai'n camsefyll, ond gafodd y g么l ei chadarnhau wedi ymgynghoriad VAR.