麻豆官网首页入口

Galw am atal profi plant heb symptomau Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Profi tymheredd disgyblionFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe allai parhau i brofi plant sydd heb symptomau Covid wneud "mwy o ddrwg nag o les", yn 么l arbenigwyr iechyd plant.

Yn 么l Dr David Tuthill, swyddog Cymru ar gyfer Coleg Brenhinol y Pediatregwyr, dylid dod 芒'r profion i ben oherwydd yr effaith ehangach ar les plant.

Yn y cyfamser mae yna bryderon am "straen enfawr" ar ysgolion o ganlyniad i "fethiant amlwg" y drefn olrhain.

Mae dros hanner yr achosion Covid positif ar hyn o bryd ymhlith pobl o dan 19 oed.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ysgolion yn cael trafferthion gyda'r drefn olrhain cysylltiadau, medd Laura Doel o NAHT Cymru

Dywedodd Laura Doel, cyfarwyddwr NAHT Cymru fod arweinwyr ysgolion yn cael eu gorfodi i "ddelio 芒 rhai materion eu hunain" oherwydd methiannau'r cynllun Profi Olrhain Diogelu (TTP).

Ychwanegodd bod ysgolion yn "ei chael yn anodd" ymdopi 芒'r broses.

"Mae ein haelodau'n aros i glywed gan TTP er mwyn cefnogi'r broses olrhain cyswllt," meddai.

"Yn anffodus mae aelodau'n aros diwrnodau, mewn rhai achosion wythnosau, cyn iddyn nhw glywed gan TTP, sy'n rhoi straen enfawr ar ysgolion.

"Canlyniad hyn yw bod gyda ni nifer uchel o absenoldebau staff, mae gyda ni nifer uchel o blant sy'n methu ysgol oherwydd bod ganddyn nhw Covid, ac oni bai bod rhywun yn camu i mewn ac yn mynd i'r afael 芒'r broblem, bydd tarfu pellach i addysg."

'Pobl ifanc yn poeni'

Mae Mererid Mair, mam i ddau fachgen sy'n mynd i ysgol uwchradd yng Nghaernarfon wedi dweud na fyddai'n gwrthwynebu pe bai rhai mesurau diogelwch yn cael eu hailgyflwyno.

Ond mae hi'n codi pryderon am iechyd meddwl pobl ifanc.

Disgrifiad,

'Mae'r plant wedi poeni mwy yn yr wythnosau dwytha', meddai'r rhiant, Mererid Mair

"Rydw i wedi bod yn siarad 芒 llawer o bobl ifanc," meddai.

"Mae fy mhlant fy hun yn poeni bod eu ffrindiau'n s芒l, yn poeni eu bod nhw'n mynd i ddal Covid, ydyn nhw'n mynd i'w drosglwyddo i nain a taid? Mae'n sefyllfa anodd."

Ddydd Mercher nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 51.5% o'r achosion positif ymhlith plant o dan 19 oed.

Rhybuddiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe bod bron cymaint o blant dan 15 oed wedi bod yn yr ysbyty gyda Covid 19 yn ystod y tri mis diwethaf o gymharu 芒 gweddill y pandemig i gyd.

Ond dywedodd un arbenigwr iechyd plant bod salwch difrifol i blant o ganlyniad i Covid yn parhau i fod yn anarferol iawn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dr David Tuthill

Dywedodd Dr David Tuthill o Goleg Brenhinol Paediatreg ac Iechyd Plant, a Phediatregydd yn Ysbyty Plant Cymru, mai "anaml y mae Covid ei hun yn peri salwch difrifol mewn plant".

"Yr hyn maen nhw'n dioddef yw bod eu hysgolion ar gau a'u clybiau ar gau ac yn ystod ton gyntaf Covid roedd problem wirioneddol gyda niwed i iechyd meddwl plant."

Dywedodd y dylai'r cynllun brechu plant 12 i 15 oed sy'n dechrau wythnos nesaf "leihau lledaeniad Covid a helpu ysgolion i aros ar agor".

Mae Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi galw am atal profion plant heb symptomau.

Dywedodd Dr Tuthill y gallai profi plant asymptomatig fod yn gwneud mwy o niwed yn sgil yr effaith ar eu haddysg a'u hiechyd meddwl.

"Rwy'n credu efallai y bydd yn rhaid i ni symud i gyfnod nawr lle efallai y byddwn yn dweud bod Covid yma am gyfnod hir," meddai.

"Os ydyn yn amddiffyn pobl fregus, y rhai ar wrthimiwnyddion, yr henoed gyda'r brechiadau, falle dylen ni nawr ddechrau poeni llai a rhoi'r gorau i brofi plant asymptomatig."

Mae plant mewn ysgolion uwchradd yn cael cynnig profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod profion wedi helpu i ganfod unrhyw un sy'n heintus.

"Mae'n bwysig bod staff a disgyblion yn cymryd rhan mewn profion rheolaidd ac yn nodi eu canlyniadau ar-lein i'w gwneud mor effeithiol 芒 phosib."

Pynciau cysylltiedig