麻豆官网首页入口

Mwy na 10,000 o achosion Covid yn ysgolion Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgybl ac aelod staff mewn ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae mwy na 10,000 o achosion Covid-19 wedi eu cofnodi ymhlith disgyblion a staff yn ysgolion Cymru ers dechrau'r tymor.

Mae'r ffigyrau diweddaraf ar gyfer tair wythnos olaf mis Medi'n dangos cyfanswm o 10,551 o brofion positif, gan gynnwys 4,190 mewn ysgolion cynradd a 5,478 mewn ysgolion uwchradd.

Ond mae'r niferoedd wedi gostwng yn sylweddol yn yr wythnos ddiwethaf - o 4,187 i 2,336 o achosion, sy'n ostyngiad o 44%.

Roedd 883 o achosion yn ychwanegol yn gysylltiedig 芒 chanolfannau addysg eraill, fel ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion.

Cafodd bron i 20% o'r holl achosion oedd yn gysylltiedig ag ysgolion eu cofnodi yn siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot - ardal sydd wedi gweld rhai o'r cyfraddau Covid uchaf.

Roedd 943 o achosion yn gysylltiedig ag ysgolion yn Rhondda Cynon Taf - ardal arall sydd wedi gweld cynnydd mawr mewn achosion.

Ar draws Cymru, roedd 131 o ysgolion wedi cofnodi mwy na 20 o achosion Covid yn y mis diwethaf.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n pwysleisio nad yw'n golygu bod yr holl achosion yn ganlyniad dal neu drosglwyddo'r haint yn yr ysgol.

Pynciau cysylltiedig