Anelu at frechu plant 12-15 oed erbyn diwedd mis Hydref

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnig brechiad Covid i bob plentyn rhwng 12 a 15 oed erbyn diwedd mis Hydref.

Mae hefyd yn fwriad i sicrhau fod pob preswylydd cartref gofal wedi cael cynnig brechiad atgyfnerthu cyn diwedd y mis.

Dywedodd arweinydd y rhaglen frechu yng Nghymru - y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Dr Gill Richardson - bod yr ymateb i'r cynnig o frechiad wedi bod yn ardderchog hyd yn hyn.

"Mae gyda ni gyfraddau derbyn uchel iawn," meddai. "Mae dros 87% o bobl 12 oed a h欧n wedi cael dos cyntaf a mwy na 81% wedi cael dau ddos.

"Mae ein strategaeth frechu ddiweddaraf yn gosod targed uchelgeisiol o 1 Tachwedd - sef y pythefnos nesaf.

"Bydd pawb rhwng 12 a 15 oed wedi cael gwahoddiad i gael brechiad, a bydd pob preswylydd cartref gofal wedi cael cynnig brechiad atgyfnerthu."

Ychwanegodd Dr Richardson ei bod yn disgwyl i'r rhan fwyaf o bobl Cymru sydd dros 50 neu sydd 芒 chyflwr iechyd sylfaenol fod wedi cael gwahoddiad am frechiad atgyfnerthu cyn diwedd y flwyddyn.

Disgwyl tymor ffliw gwaeth na'r arfer

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, bod cyfraddau Covid yn gostwng yng Nghymru ac o bosib wedi mynd heibio brig y don gyfredol. Ond fe rybuddiodd y gallai cyflyrau anadlol eraill fod yn her sylweddol y gaeaf hwn ac mae hi'n annog pobl i gael eu brechu rhag y ffliw

"Mae model sydd wedi ei rannu gan y Cyd-Bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi awgrymu y gallai tymor ffliw y gaeaf hwn fod 50% i 100% yn uwch na'r tymor arferol ac fe allai gyrraedd uchafbwynt ar adeg wahanol," meddai.

"Brechu yw ein hamddiffyniad gorau rhag coronafeirws - dyna hefyd ein hamddiffyniad gorau rhag y ffliw."

Wrth annerch newyddiadurwyr mewn cynhadledd, fe wnaeth Ms Morgan hefyd feirniadu'r adroddiadau bod protestwyr gwrth-frechu wedi erlid plant a'u rhieni mewn canolfannau brechu dros y penwythnos, gan ddisgrifio'r weithred "yn ddim llai na ffiaidd".