麻豆官网首页入口

Prawf dyddiol i bobl ifanc os yw Covid ar yr aelwyd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Bachgen yn cynnal prawf LFTFfynhonnell y llun, Getty Images

O ddydd Llun nesaf bydd disgwyl i fyfyrwyr ysgolion uwchradd a cholegau yng Nghymru gymryd prawf canlyniad cyflym yn ddyddiol am saith diwrnod os ydy rhywun sy'n byw dan yr un to yn cael cadarnhad eu bod 芒 Covid-19.

Mae'r penderfyniad, medd y Gweiniog Addysg, Jeremy Miles, yn ymateb i "rywfaint o ansicrwydd" ynghylch y polisi presennol, ble does dim angen i unrhyw un dan 18 oed hunan-ynysu os ydyn nhw'n agos at berson sydd wedi cael prawf positif.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi hefyd na ddylai rhieni o hyn ymlaen wneud prawf Covid-19 ar blant o dan bump oed oni bai bod hynny'n "gwbl angenrheidiol".

Yn 么l Mr Miles, mae'n bryderus yngl欧n 芒'r cynnydd sylweddol yn nifer y profion PCR ar blant ifanc ers mis Awst.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Wrth drafod y newidiadau i'r drefn o brofi myfyrwyr a disgyblion uwchradd pan fo achos o Covid yn y cartref, fe ddywedodd y gweinidog bod y polisi presennol wedi "ein galluogi i addysgu gymaint o bobl ifanc" wrth i "dystiolaeth ddangos os oes rhywun yn eich cartref gyda Covid, lleiafrif yn unig o bobl sy'n mynd ymlaen i'w ddal".

Ond fe ychwanegodd ei fod "yn cydnabod ei fod wedi achosi rhywfaint o ansicrwydd ac felly, er mwyn rhoi mwy o hyder" bydd myfyrwyr ysgolion uwchradd a cholegau sy'n byw dan yr un to 芒 pherson sydd wedi eu heintio yn cael cyngor i gymryd prawf LFT dyddiol am saith diwrnod.

"Bydd hyn ar ben y cyngor cyfredol i bob cysylltiad agos [ag achos positif] gymryd prawf PCR ar yr ail a'r wythfed diwrnod," meddai.

Dywedodd Mr Miles bod Llywodraeth Cymru'n dal yn annog staff a myfyrwyr ysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion i barhau i gymryd profion LFT "tan o leiaf hanner tymor".

Mewn ymateb i gwestiynau newyddiadurwyr, dywedodd y Gweinidog Addysg: "Rydym yn glir bod pobl eisiau gwneud y peth cywir."

Mewn cysylltiad 芒'r cyngor newydd i ddisgyblion uwchradd aelwydydd ble mae achos coronafeirws positif, fe ychwanegodd y bydd yn rhoi "darlun dyddiol o'r sefyllfa" i rieni, gofalwyr a phobl ifanc "a fydd yn eu galluogi i wneud y penderfyniadau cywir".

Llai o brofi plant o dan 5 oed

Yn ddiweddarach, daeth cadarnhad gan Lywodraeth Cymru na fydd hi'n angenrheidiol o hyn ymlaen i blant o dan bump oed gael eu profi am Covid-19 oni bai bod meddyg yn dweud bod angen gwneud hynny, neu fod rhiant yn credu ei fod yn "gwbl angenrheidiol".

Dywedodd y Gweinidog Addysg: "Gall prawf fod yn anodd iawn ac achosi loes i'r plentyn, fe all fod yn anodd cael sampl priodol, ac wrth gwrs mae plant yr oedran yma yn llawer llai tebygol o basio'r feirws ymlaen i eraill."

O ganlyniad i hynny, tydi Llywodraeth Cymru bellach ddim yn argymell profion Covid ar blant o dan 5 oed heb symptomau.

Os oes yna symptomau, yn 么l Mr Miles, "fyddwn ni ddim yn argymell profi oni bai bod cyfarwyddyd yn dod gan feddyg, neu os ydi'r rhieni yn credu bod prawf yn gwbl angenrheidiol ac er lles y plentyn".