麻豆官网首页入口

'Pobl yn marw os nag oes newidiadau buan i'r GIG'

  • Cyhoeddwyd
Dr Iain Robertson-Steel
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Dr Iain Robertson-Steel yn gyfarwyddwr ysbyty ac yn gweithio i wasanaeth ambiwlans yng ngorllewin canolbarth Lloegr

Bydd pobl yn marw os nag oes newidiadau buan i wasanaethau gofal y GIG, medd cyn-gyfarwyddwr Ysbyty Llwynhelyg.

Dywed Dr Iain Robertson-Steel nad yw erioed wedi gweld cymaint o ddiffyg adnoddau, ac oedi wrth aros am ambiwlans.

Mae Dr Robertson-Steel, sy'n byw yn Solfach yn Sir Benfro, wedi cludo dau berson oedrannus i'r ysbyty ei hun am nad oedd ambiwlans ar gael.

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi ymddiheuro gan ddweud bod "yna bwysau cynyddol ar ein gwasanaeth" yn ddiweddar.

'Bywydau yn cael eu colli'

Rhaid mynd i'r afael 芒'r argyfwng yn fuan, medd Dr Robertson-Steel a dywedodd "ei bod hi'n hanfodol cael gwasanaeth ambiwlans effeithiol mewn ardal wledig gan fod y daith i'r ysbyty yn gallu bod yn hir" ac mae'n rhybuddio na ddylid gostwng y nifer o ambiwlansys.

"Os nad oes modd darparu gofal buan i glefydau'r galon, sepsis a str么c, bydd bywydau yn cael eu colli oni bai bod ad-drefnu," meddai.

"Mae'n rhybudd diflewyn ar dafod ond mae'n neges dwi i a fy nghydweithwyr clinigol wedi bod yn ceisio ei chyflwyno ers rhai blynyddoedd - does dim dwywaith bod bywydau yn cael eu colli os oes oedi cyn cael gofal."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhoddodd Lena Dixon, sy'n wirfoddolwraig, gymorth i glaf 94 oed a fu ar y llawr am wyth awr

Ymhlith y rhai sydd wedi gorfod aros oriau am ambiwlans yn ddiweddar mae claf 94 oed a oedd yn anymwybodol wedi iddo gwympo a tharo ei ben yn erbyn rheiddiadur.

Roedd e ar lawr am dros wyth awr a chafodd gymorth cychwynnol gan Lena Dixon, gwirfoddolwraig i elusen gofal cymdeithasol Solva Care.

"Elusen ydyn ni, ry'n yn ddibynnol ar wirfoddolwyr. Ddylen ni ddim fod yn gorfod delio gyda rhywbeth a ddylai gael ei wneud gan wasanaethau statudol," meddai.

"Fe ddylai pobl yn y pentref 'ma deimlo bod cefnogaeth ar gael pan mae ei angen - a dim gorfod gorwedd ar y llawr am wyth awr."

Dywed Ms Dixon bod y dyn, a oedd mewn cryn boen, wedi cael triniaeth yn y diwedd ond ei fod yn parhau i fod yn ddryslyd.

"Dwi'n teimlo petai hynna wedi digwydd i fi, byddai'n well gen i farw - dwi ddim am orwedd ar y llawr yn aros am rywbeth na sydd, o bosib, yn mynd i ddod," ychwanegodd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Des Page wybod y byddai'n rhaid iddo aros teirawr am ambiwlans wedi iddo ffonio 999 gyda phoenau yn ei frest

Fe wnaeth Dr Robertson-Steel a'i wraig Lesley, sy'n nyrs wedi ymddeol, helpu Des Page sy'n 81 oed yn ddiweddar wedi iddo gael gwybod bod yn rhaid iddo aros teirawr am ambiwlans - roedd e wedi ffonio'r gwasanaethau brys am fod ganddo boenau mawr yn ei frest.

Dywed Mr Page nad yw'n gwybod beth fyddai wedi digwydd heb eu cymorth a bod pobl mewn ardaloedd gwledig yn cael eu hanghofio.

"Ry'n ni hanner awr bant o'r ysbyty ac mae'n rhaid i chi ddibynnu ar ambiwlans - mae'r cyfan yn codi ofn ar rywun. Dwi'n credu bod aros yr hyd yna o amser yn ofnadwy," meddai.

"Dwi'n credu bod angen i fwy o ambiwlansys fod ar gael ac y dylai'r llywodraeth fuddsoddi mwy o arian yn y GIG."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod yn ymddiheuro i bob claf sydd wedi cael profiad gwael

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru ddangos fod oedi cyson wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys i ysbytai yn niweidio gallu'r GIG i ofalu am gleifion mewn ffordd ddiogel, effeithiol ac urddasol.

Yr wythnos hon mae'r fyddin yn helpu gyda'r gwaith ond yn 么l Dr Robertson-Steel, a oedd yn gyfarwyddwr gwasanaeth ambiwlans yng ngorllewin canolbarth Lloegr, ateb dros dro yw hynny ac mae'n dweud nad yw'r broblem yn cael ei chymryd yn ddigon o ddifrif.

"Dy'n ni ddim angen mwy o gyfarfodydd cynlluniau peilot na mwy o adroddiadau - yr hyn ry'n ei angen yw adfer y Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol," meddai.

Ymddiheuro am brofiadau gwael

Mae cynnig diweddar i gwtogi nifer yr ambiwlansys yn Sir Benfro o saith i bump wedi cael ei feirniadu'n hallt.

Dywed Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod adolygiad o adnoddau Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy'n gyfrifol am y rhan helaethaf o'r de-orllewin, wedi'i atal am y tro er mwyn sicrhau bod digon o staff a cherbydau ar gael i gwrdd 芒'r gofyn.

Dywedodd Dr Brendan Lloyd, cyfarwyddwr meddygol gweithredol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Ry'n yn ymddiheuro i bob claf sydd wedi cael profiad gwael gennym, gan gynnwys y ddau glaf y gwnaeth Dr Robertson-Steel eu helpu.

"Mae'r oedi wrth drosglwyddo pobl i ysbytai, absenoldeb staff a galw uchel am ein gwasanaethau wedi effeithio ar ein gallu i gyrraedd cleifion yn fuan."