Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Covid: Gwahardd ymweliadau yn Ysbyty Llwynhelyg

  • Published
Related topics
plentyn yn gafael yn llaw claf mewn ysbytyImage source, Getty Images
Image caption,

Dim ond mewn amgylchiadau arbennig y caniateir ymweliadau, medd y bwrdd iechyd

Mae ymweliadau wedi cael eu gwahardd yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, yn Sir Benfro yn dilyn cynnydd mewn achosion o Covid.

Dim ond ymweliadau diwedd oes a gofal critigol fydd yn cael eu caniatáu yno yn dilyn penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ddydd Llun.

Bydd rhaid i unrhyw ymwelwyr wneud prawf llif unffordd yn eu cartref cyn teithio i'r ysbyty.

Dywedodd y bwrdd iechyd bod y penderfyniad wedi ei wneud oherwydd cynnydd mewn achosion o'r feirws yn yr ysbyty a'r gymuned.

"Mae'r sefyllfa'n cael ei monitro'n rheolaidd a bydd diweddariad pellach yn cael ei wneud pan godir cyfyngiadau ymwelwyr," meddai'r datganiad.

Cafodd 653 achos newydd o coronafeirws eu cofnodi yn ardal bwrdd Hywel Dda yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Llun, gyda 225 ohonynt yn Sir Benfro.