Llywodraeth y DU 'ond yn ceisio tynnu sylw' gyda phenawdau

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

"Nid yw Llywodraeth y DU yn gallu gwneud y penderfyniadau dydd-i-ddydd sy'n angenrheidiol i lywodraethu," medd Mark Drakeford.

Roedd prif weinidog Cymru yn ateb cwestiynau yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener am ddulliau gwahanol y ddwy lywodraeth o ddelio gyda Covid-19.

Wedi iddo gyhoeddi y bydd cynllun Cymru i lacio'r cyfyngiadau yn raddol yn parhau, gofynnwyd iddo a oedd Llywodraeth y DU yn gweithredu ar yr un cyngor meddygol.

Dywedodd: "Os oes unrhyw un yn credu bod penderfyniadau Llywodraeth y DU yn ganlyniad i ystyriaeth ofalus o wyddoniaeth, maen nhw'n bod yn optimistig iawn.

"Mae popeth yn digwydd yn Downing Street ar hyn o bryd yn fater o 'Sut gallwn ni dynnu sylw at rhywbeth arall heblaw'r trafferthion sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd?'.

"Dydyn nhw ddim yn gallu gwneud penderfyniadau dydd-i-ddydd sy'n angenrheidiol i lywodraethu ar bethau fel addysg a'r economi oherwydd y trafferthion hynny."

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart bod sylwadau Mr Drakeford yn "ddiangen" ac yn "sarhad i gynghorwyr meddygol a'r cyhoedd".

Nodyn gobeithiol

Fe ddechreuodd y gynhadledd ar nodyn gobeithiol wrth i Mr Drakeford gadarnhau y bydd y cynllun i lacio rheolau yn mynd ymlaen.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Dywedodd fod achosion o Covid yn disgyn yn gyflymach yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o'r DU, a'i bod yn iawn felly i ddileu cyfyngiadau ar ddigwyddiadau awyr agored ddydd Gwener, ac mai'r bwriad oedd eu dileu i ddigwyddiadau dan do y penwythnos nesaf os fydd y sefyllfa'n parhau i wella.

Ond roedd ganddo air o rybudd hefyd.

Dywedodd Mr Drakeford: "Er ein bod wedi pasio brig Omicron, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dal i adrodd nifer sylweddol o farwolaethau o coronafeirws.

"Yr wythnos yma yn unig mae dros 50 o bobl wedi marw oherwydd Covid-19 yng Nghymru... mae hynny'n dangos effaith y pandemig.

"Mae llawer o s么n ar hyn o bryd am orfod 'byw gyda'r feirws'. Ond rhaid i ni gofio am y 50 o bobl yma a mwy na 9,000 o deuluoedd ar draws Cymru sy'n ymdopi gyda cholli anwyliaid.

"Iddyn nhw does dim ffordd hawdd o symud ymlaen o coronafeirws. Yma yng Nghymru, wnawn ni ddim anghofio beth sydd wedi digwydd iddyn nhw."

Eisiau 'creu pennawd'

Wrth ymateb i awgrym bod Llywodraeth y DU yn ystyried dileu rheolau hunan-ynysu yn llwyr ar 24 Mawrth os nad cyn hynny, roedd ganddo eiriau beirniadol eto i Mr Johnson.

Roedd Mr Drakeford o'r farn bod y syniad wedi "cael ei wyntyllu" er mwyn "creu pennawd".

"Os ydych chi'n rhyddhau pobl gan wybod eu bod nhw'n heintus ac yn gallu heintio eraill, rwy'n credu bod hynny'n beth rhyfedd iawn, iawn i lywodraeth benderfynu.

"Mae hunan-ynysu wedi bod yn rhan bwysig iawn o'r dull yr ydym wedi mabwysiadu i osgoi'r gwaeth o coronafeirws, ac fe fyddwn i angen cryn dipyn o bersw芒d ein bod ni mewn sefyllfa ddigon da i fedru cael gwared ar hynny."

Profion am ddim?

Fe holwyd y prif weinidog a fyddai profion llif unffordd yn parhau i fod am ddim yng Nghymru.

Dywedodd: "Ni'n lwcus bod digon o'r profion gyda ni ar hyn o bryd. Y peth pwysig yw hyn... os oes penderfyniad i beidio rhoi nhw am ddim, mae hwnna'n benderfyniad i bedair gwlad y DU.

"Mae Llywodraeth y DU yn dal arian n么l o'r gwledydd eraill i dalu amdanyn nhw, felly rhaid i'r pedair gwlad gytuno os oes unrhyw newid i hynny.

"Dydw i heb weld unrhyw awgrym o gynnig hynny yn unman hyd yma."

Mewn cyfweliad yn ddiweddarach, dywedodd y prif weinidog bod y cyngor ar wisgo mygydau mewn ysgolion yn annhebygol o newid cyn diwedd Chwefror.

Mae disgyblion uwchradd yn cael eu cynghori i wisgo mygydau mewn dosbarthiadau ers Tachwedd, ac wrth siarad 芒 WalesOnline, dywedodd Mr Drakeford bod "consensws cryf iawn" i barhau.

Er bod "pawb yn deall ei bod yn anghyfforddus i blant", meddai, dywedodd nad yw'n rhagweld newid cyn hanner tymor.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg, Laura Anna Jones, bod arbenigwyr yn awgrymu bod effaith mygydau ar iechyd yn fach iawn, ond bod yr effaith ar blant yn "ofnadwy o negyddol".

"Mae'n bryd dysgu i fyw gyda Covid, sy'n cynnwys cael gwared 芒 mygydau," meddai.

Ond fe wnaeth undeb addysg UCAC groesawu "penderfyniad doeth a gofalus Llywodraeth Cymru sy'n seiliedig ar y cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf".

Ymateb gwrthbleidiau

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart bod sylwadau Mr Drakeford yn "ddiangen" ac yn "sarhad", ac mai "oherwydd penderfyniadau Llywodraeth y DU (a Chymru), gwyddonwyr, teuluoedd a busnesau y mae'r DU o flaen y byd wrth ymateb i Covid".

Fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig ategu galwad am ymchwiliad Covid i Gymru yn dilyn sylwadau'r prif weinidog.

Roedd eu llefarydd iechyd, Russell George, yn amau honiad Mr Drakeford nad oedd gweinidogion y DU yn dilyn gwyddoniaeth, gan ddweud: "Mae gennym y raddfa farwolaeth waethaf o holl wledydd y DU."

Ychwanegodd y dylid llacio cyfyngiadau yn gynt: "Does dim angen aros am wythnos neu ddwy arall.

"Os yw'r prif weinidog mor hyderus ei fod e'n 'neud pethau yn iawn yng Nghymru, pam bod e'n rhedeg i ffwrdd o ymchwiliad cyhoeddus i Gymru yn benodol?"

Pwysleisio'r angen i frechu pobl wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

"Mae Covid yn dal yn haint difrifol i'r rhai sydd heb eu brechu, felly mae'n bwysig annog y rhai sydd heb gael brechiad i wneud hynny.

"Os ydyn ni'n caniat谩u grwpiau o bobl sydd heb eu brechu, mae hynny'n rhoi cronfa lle gall amrywiolyn newydd ddod a allai fod yn fwy difrifol.

"Gobeithio na fydd hynny'n digwydd. Ond rhaid i ni gael y neges allan nad yw Covid wedi diflannu."