麻豆官网首页入口

Gwaharddiad pibellau d诺r yn dod i rym yn y de-orllewin

  • Cyhoeddwyd
Sir Benfro
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau bod ardal de-orllewin Cymru mewn sychder swyddogol

Mae gwaharddiad ar y defnydd o bibellau d诺r yn dod i rym yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin ddydd Gwener - y gwaharddiad cyntaf o'r fath yng Nghymru ers dros 30 mlynedd.

Bydd pobl yn cael dirwy o 拢1,000 am dorri'r rheolau, a fydd mewn grym am rai wythnosau.

Yn 么l D诺r Cymru roedd angen gweithredu gan fod cronfeydd yr ardal wedi cyrraedd lefelau sychder, a bydd yn effeithio ar dros 60,000 o gartrefi.

Dywedodd y cwmni bod y galw mwyaf erioed wedi bod am dd诺r yn lleol yn ystod y tywydd poeth diweddar.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) hefyd wedi cadarnhau fore Gwener bod ardal de-orllewin Cymru mewn sychder swyddogol.

Mae CNC yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos ledled Cymru, a dywed y bydd yn cymryd camau yn 么l yr angen.

'All gymryd amser hir i wella'

Mae'r gwaharddiad yn golygu nad oes hawl i bobol ddyfrio eu planhigion na golchi eu ceir gan ddefnyddio pibell dd诺r yn yr ardaloedd sydd wedi eu hefffeithio.

Ffynhonnell y llun, D诺r Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Map yn dangos ardal y gwaharddiad

Dywedodd Natalie Hall o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym wedi penderfynu datgan cyflwr o sychder yn ne-orllewin Cymru ar 么l iddi ddod yn amlwg bod y diffyg glaw a gwres diweddar wedi rhoi straen enfawr ar ein hafonydd, ein cronfeydd d诺r a lefelau d诺r daear.

"Gall effeithio ar rai o'n cynefinoedd a'n rhywogaethau mwyaf gwerthfawr yn ogystal 芒 systemau rydyn ni'n aml yn eu cymryd yn ganiataol, fel ein cyflenwadau d诺r.

"Er y gall rhai rhannau o Gymru fod yn dioddef glaw, fe all gymryd amser hir i wella o sychder o hyd, gan wneud d诺r yn adnodd gwerthfawr."

Yn 么l rheoleiddiwr y diwydiant, Ofwat, mae D诺r Cymru yn colli tua 170 miliwn litr o dd诺r pob dydd oherwydd fod pibellau yn gollwng.

Mae cwmni Hafren Dyfrdwy - sy'n darparu d诺r yn ardaloedd Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint - yn colli tua 14 miliwn litr. Mae hynny'n ddigon i lenwi 74 pwll nofio maint Olympaidd bob dydd.

'Anodd iawn'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Wendy Kinver yn berchen ar ardd sydd ar agor i'r cyhoedd er mwyn codi arian i elusen

Mae'r gwaharddiad ar y defnydd o bibellau d诺r yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin yn golygu na fydd pobl yn cael dyfrio eu planhigion, llenwi pyllau padlo a thwb芒u twym na golchi eu ceir a'u ffenestri gyda phibellau d诺r.

Mae gan Wendy Kinver ardd tair erw ger Abergwaun sy'n cael ei hagor i'r cyhoedd i godi arian i elusen.

Dywedodd ei bod eisoes wedi colli nifer o blanhigion a choed oherwydd y tywydd poeth, sych, ac y bydd yn ei chael hi'n "anodd iawn" heb ei phibell dd诺r.

"Fel arfer mae'n ardd wlyb iawn felly rydyn ni wedi plannu planhigion i siwtio'r amodau hynny, felly wrth gwrs yn y tywydd yma maen nhw'n dioddef yn ofnadwy," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ardal de-orllewin Cymru mewn cyfnod o sychder swyddogol

"Yn ffodus, mae gyda ni bwll sy'n llenwi 芒 d诺r ffynnon naturiol felly bydd fy ng诺r a finnau'n dyfrio 芒 llaw o'r pwll ddydd a nos - mae'n waith llafurus."

Dywedodd Wendy ei bod wedi ei "synnu'n fawr" fod angen gwahardd pibau d诺r yn Sir Benfro.

"Fel arfer mae gennym ni dywydd mor wlyb dwi ddim yn deall pam nad yw D诺r Cymru wedi llwyddo i storio'r d诺r yn ddigonol," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Simon Richards wedi cynllunio ei ardd yn Llandyf谩i yn benodol i wrthsefyll sychder

Mae Simon Richards wedi adfer hen ardd gyda wal o'i chwmpas yn Llandyf谩i.

Cynlluniodd ei ardd yn benodol i wrthsefyll sychder, yn rhannol oherwydd ei safle ar lethr sy'n wynebu'r de ger y m么r, ond hefyd "oherwydd bod yr hinsawdd yn newid a bod d诺r yn mynd yn fwy prin a gwerthfawr".

Ychwanegodd bod angen dewis planhigion yn ddoeth, plannu yn ystod yr hydref yn hytrach na'r gwanwyn a chynaeafu d诺r glaw i gyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae prif arddwr Gardd Goedwig Colby ger Llanrhath, Steve Whitehead, yn dweud mai addasu i newid hinsawdd yw un o'i bryderon mwyaf

Yng Ngardd Goedwig Colby ger Llanrhath dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae'r prif arddwr Steve Whitehead yn dweud mai addasu i newid hinsawdd yw un o'i bryderon mwyaf.

"Rydyn ni'n casglu glaw oddi ar doeau ein hadeiladau a dim ond yn defnyddio pibau d诺r ar gyfer ein planhigion mewn potiau ac yn ein meithrinfa fach," meddai.

Ychwanegodd ei fod wedi bod yn "anodd gwylio" yr effaith ar lyffantod, madfallod d诺r a'r brithyll yn y dyfroedd bas.

Mae Water UK, sy'n cynrychioli diwydiant d诺r y DU, wedi dweud bod gwaharddiad ar bibellau d诺r fel arfer yn lleihau'r defnydd o dd诺r tua 10%.

Hwn yw'r cyntaf i gael ei gyflwyno yng Nghymru ers 1989, a dywedodd D诺r Cymru y byddai'n parhau nes bod digon o law i ail-lenwi cronfeydd d诺r yn Sir Benfro.

Disgrifiad,

Huwel Manley o Gyfoeth Naturiol Cymru: 'Afonydd yn isel a chronfeydd d诺r yn cwympo'n glou'

Mae'r ardal yn cael ei gyflenwi'n bennaf gan gronfeydd d诺r yn Llys-y-fr芒n a Rosebush.

Mae tanceri hefyd wedi bod yn cludo d诺r o safle yng Nghapel Dewi yn Sir Gaerfyrddin er mwyn ail-lenwi prif gyflenwadau d诺r yn Rhoshill ger Cilgerran.

Mae Cymru wedi'i rhannu'n 24 "parth d诺r" ac mae'r ardal sydd 芒'r gwaharddiad presennol yn un ohonyn nhw.

Mae cynllun sychder D诺r Cymru yn nodi bod tirwedd Cymru yn golygu bod bob parth yn hunangynhaliol, gyda chyfleoedd cyfyngedig yn unig i drosglwyddo d诺r ar draws ffiniau'r parthau.

Dywedodd Ian Christie o D诺r Cymru: "Nid yw'n benderfyniad yr ydym yn ei wneud yn ddi-hid gan ein bod yn gwybod yr anghyfleustra y gall ei achosi, ond os nad ydym yn gweithredu nawr, byddai risg wirioneddol o gyfyngiadau pellach yn ddiweddarach ac rydym wir yn ceisio osgoi hyn i'n cwsmeriaid.

"Rydym yn gwneud ein rhan ni hefyd, ac wedi cynyddu nifer y bobl yn yr ardal sy'n canfod ac yn trwsio gollyngiadau."