Rhybudd fod Covid hir ymysg plant yn mynd 'o dan y radar'

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Prin iawn mae Libby wedi gallu mynd i'r ysgol yn ddiweddar oherwydd Covid hir

Mae merch 10 oed o Gaerdydd yn ei chael yn anodd cerdded a siarad o ganlyniad i Covid hir, chwe mis wedi iddi ddal y feirws.

Mae Libby, a gafodd y feirws fis Chwefror, hefyd yn dioddef o flinder ofnadwy, cur pen parhaus ac mae'n defnyddio cadair olwyn am ei bod yn teimlo mor wan.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif fod 0.6% o blant 2-11 oed yn y DU 芒 Covid hir.

Ond mae elusen Long Covid Kids yn credu fod y gwir nifer yn llawer uwch am fod "nifer o blant yn mynd o dan y radar".

'Ddim yn gallu sefyll na cherdded'

"Ers cael Covid mae gen i gur pen parhaus, ddim yn gallu cysgu ac yn teimlo'n benysgafn," meddai Libby.

"Am y bum wythnos ddiwethaf dydw i heb allu sefyll na cherdded, ac mae angen cadair olwyn arna i.

"Fi'n colli fy ngwynt yn gwneud pethau bach, a dydw i ddim yn gallu gwneud lot."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Mae Libby wedi gorfod defnyddio cadair olwyn ers rhai wythnosau am ei bod yn rhy wan i gerdded

Prin iawn mae Libby wedi gallu mynd i'r ysgol yn ddiweddar, ac mae hi wedi cael diagnosis o flinder cronig o ganlyniad i Covid.

"Y peth gwaethaf yw peidio gallu cerdded a 'mod i angen help mam a dad i wneud pethau syml," meddai Libby.

"Fi'n teimlo'n unig yn y nos am 'mod i'n effro, a s'gen i ddim llawer o lais felly fi ddim yn gallu gweiddi pan fi angen help.

"Fi'n methu'r ysgol - fi heb allu mynd am y misoedd diwethaf am 'mod i'n effro trwy'r nos ac yn cysgu trwy'r dydd."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd mam Libby, Joanne, fod cael atebion syml ac apwyntiadau amserol wedi bod yn anodd

Dywedodd mam Libby, Joanne, nad oedd hi'n poeni'n ormodol fis Chwefror oherwydd "ry'n ni wedi clywed bod plant yn cael ychydig o annwyd ac wedyn maen nhw'n iawn".

Ond wedi i'r symptomau barhau am ychydig wythnosau fe ddechreuodd hi amau bod gan ei merch Covid hir.

Er bod staff y GIG "wedi bod yn gr锚t", dywedodd fod cael atebion syml ac apwyntiadau amserol wedi bod yn anodd.

Ychwanegodd fod meddygon wedi rhybuddio'r teulu y gallai gymryd "hyd at ychydig o flynyddoedd" cyn y bydd cryfder Libby yn dychwelyd.

"Mae mor anodd. Mae hi'n ferch siriol felly dydy hi ddim yn mynd i deimlo'n rhy isel diolch byth," meddai Joanne.

"Pe bydden i'n dioddef fel hi rwy'n credu y bydden i'n llefain pob dydd."

Disgrifiad o'r llun, "Mae rhai rheini yn rhwystredig iawn gyda'r system bresennol," meddai Kate Davies

Yn 么l Kate Davies o elusen Long Covid Kids mae plant sydd 芒'r salwch yn aml yn mynd "o dan y radar" oherwydd diffyg ymwybyddiaeth, a diffyg cynsail am sut y byddan nhw'n cael eu trin.

Roedd ei merch hi, Bethan, yn 16 pan gafodd ddiagnosis o Covid hir, a hynny wnaeth ei harwain at geisio sicrhau gwell help i deuluoedd eraill.

Dywedodd fod meddygon teulu angen mwy o gyfarwyddyd am sut i helpu plant sydd 芒 Covid hir, a bod angen "llwybr clir" i deuluoedd er mwyn gwybod gyda phwy y dylen nhw gysylltu.

"Mae rhai rheini yn rhwystredig iawn gyda'r system bresennol," meddai.

Faint o bobl sydd 芒 Covid hir?

Yn 么l ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n adrodd symptomau o Covid hir wedi gostwng dros y ddeufis diwethaf.

89,000 o bobl sydd bellach 芒 Covid hir - tua 2.9% o'r boblogaeth - ac mae 33,000 o'r rheiny yn dal i adrodd symptomau dros flwyddyn ar 么l cael y salwch.

Mae ymgynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y gallai hyd at chwarter y bobl sy'n cael Covid ddatblygu Covid hir.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dylai byrddau iechyd ddilyn canllawiau NICE wrth drin plant a phobl ifanc sydd 芒 Covid hir.

"Dylai cleifion ifanc gael cefnogaeth a thriniaeth briodol yn seiliedig ar eu symptomau. Hyd yma, ychydig iawn o blant sydd wedi'u cofnodi 芒 Covid hir."

Ychwanegodd mai'r nod ydy sicrhau triniaeth yn agos at adref, a'u bod wedi sefydlu Gr诺p Covid Hir mewn Plant a Phobl Ifanc i ddatblygu eu gwasanaethau.