麻豆官网首页入口

Aberllefenni: 'Pwysig cadw rhenti tai yn rhesymol'

  • Cyhoeddwyd
taflen gwerthu tai AberllefenniFfynhonnell y llun, Dafydd Hardy
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y rhes yma o dai ymhlith yr 16 t欧 oedd ar werth yn Aberllefenni

Mae'n hynod bwysig nad yw rhenti hen dai a bythynnod chwarelwyr yn Aberllefenni yn codi yn dilyn gwerthiant 16 ohonyn nhw, medd cynghorydd cymuned lleol.

Mae'r tai yn y pentre bychan ger Corris wedi'u gwerthu wedi iddyn nhw fod ar y farchnad ers 2016.

Cwmni Walsh Investment Properties yw'r perchnogion newydd - cwmni sydd wedi'i gofrestru yn Llundain ond sydd 芒 chysylltiadau gyda gogledd-ddwyrain Cymru.

"Roedd hi'n ofynnol i'r tai, yn 么l dymuniad y gwerthwr, gael eu gwerthu gyda'i gilydd nid ar wah芒n ac ry'n yn falch bod yna brynwr wedi dod i'r fei gan brynu'r cyfan," medd Dafydd Hardy, yr arwerthwr.

Doedd Mr Hardy ddim yn fodlon datgelu'r union bris a dalwyd am y tai ond roedd y cyfan ar werth am oddeutu 拢1m, meddai.

'Dim bythynnod gwyliau'

Wrth siarad 芒 Cymru Fyw dywedodd y cynghorydd lleol, Tom Edwards, ei fod yn gobeithio'n fawr na fydd rhent y tai yn codi ac mae'n bwysig hefyd iddynt beidio bod yn fythynnod gwyliau, meddai.

"I gymharu 芒 rhai pentrefi gerllaw mae Aberllefenni wedi arbed yn reit dda rhag cael gormod o dai gwyliau - ac yn sicr 'dan ni eisiau i bobl fyw yn y pentref gydol y flwyddyn.

"Dwi'n gwybod dim am y perchennog newydd ond mae'n hynod o bwysig ei fod yn ymwybodol beth yw cyflogau mewn ardal fel hyn - ac mae'n rhaid i'r rhent gyfateb i hynny.

"All pobl ddim fforddio rhenti uchel - yn sicr yn sgil yr argyfwng costau byw presennol."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Cynghorydd Janice Taylor yn gobeithio'n fawr na fydd y rhent yn codi

Cafodd y tai, rhes o naw ac amryw fythynnod, eu codi yn y 16ed ganrif a hynny er mwyn darparu llety i'r chwarelwyr a oedd yn gweithio yn Aberllefenni.

Ers canol yr ugeinfed ganrif maen nhw wedi bod yn eiddo i Wincilate Limited - cwmni o ogledd Cymru.

Yn 1956 fe brynodd y cwmni Chwarel Aberllefenni ac yn 1964 Chwarel Braich Goch yng Nghorris.

Yn 2016 fe ddaeth cwmni D Meredith a'i feibion yn berchnogion newydd Chwarel Aberllefenni - chwarel sy'n parhau i weithredu uwchben y ddaear (yn hytrach na dan ddaear) ac sy'n darparu cerrig m芒n ar gyfer pont newydd Machynlleth.

'Siarad wyneb yn wyneb'

Mae'r cynghorydd cymuned, Janice Taylor, wedi bod yn byw yn un o'r tai yn Aberllefenni ers 20 mlynedd.

"'Dan ni wedi bod yn ffodus iawn hyd yma - y cwmni o dan berchnogaeth John Lloyd wastad yn ateb gofynion ni'r tenantiaid.

"Maen nhw'n dai braf - mae gwaith cynnal a chadw wrth gwrs fel sy'n arferol gyda hen dai - ond doedd byth ffwdan. Roedd John Lloyd a'i griw yn ymyl.

"Ar y dechrau roedd ganddo swyddfa yn Aberllefenni ac roedden ni'n medru siarad ag o wyneb yn wyneb. R诺an mae cwmni rhentu tai yn Nhywyn yn rheoli'r tai - a dydyn nhw chwaith ddim yn rhy bell."

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru/Geoff Charles
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Chwarelwyr Aberllefenni yn 1952

Ychwanegodd: "Roedd John Lloyd yn darparu gwasanaeth arbennig i ni ac fe fuaswn yn hoffi diolch iddo am roi gwaith a chartrefi i bobl ein cymuned ar hyd y blynyddoedd.

"'Dan ni wedi bod yma ers ugain mlynedd, y dyn drws nesaf am ddeugain mlynedd - mae nifer o'r tenantiaid yn dueddol o aros am gyfnod hir.

"'Dan ni ddim yn gwybod dim am y prynwr newydd ond dwi wir yn gobeithio na fydd pris y rhent yn codi a ninnau ynghanol heriau costau byw - mae'r g诺r yn gweithio ond gweithiwr tymhorol ydw i - cael fy nghyflogi yn yr haf yn unig."

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd rhain ymhlith y gweithwyr olaf i weithio dan ddaear yn chwarel Aberllefenni

Mae'r trigolion lleol yn pwysleisio mai rhan o bentref Aberllefenni yw'r tai chwarelwyr ac yn y gorffennol wedi bod yn flin wrth i bapurau newydd awgrymu bod y pentref cyfan ar werth.

Mae'r arwerthwr Dafydd Hardy yn falch bod y tai wedi'u gwerthu o'r diwedd a hynny wedi cyfnod hir iawn o fod ar y farchnad.

"'Dan ni wedi cael prynwyr posib o'r blaen ond doedden nhw ddim cweit yn deall y gofynion yn iawn," meddai Mr Hardy.

"Roedd John Lloyd wedi g'neud hi'n gwbl glir ei fod am warchod y tenantiaid presennol a'i ddymuniad o hefyd oedd peidio 芒'u troi yn dai haf.

"Yn sicr mae'r cwmni yma yn deall y gofynion hynny yn well na'r lleill - roedd yna rai wedi s么n am Airbnbs yn syth.

"Y cwmni newydd fydd yn penderfynu ar y rhent ac yn y b么n yn eu dwylo nhw mae'r penderfyniad am ddyfodol y tai - fe wnaethon ni lynu at ddymuniad y gwerthwr i werthu'r cyfan fel un.

"Ry'n yn falch bod y tai wedi'u gwerthu o'r diwedd a hynny wedi bron i saith mlynedd. Mi wnaeth Covid effeithio llawer ar betha' wrth gwrs ond mae'n dda fod prynwr wedi dod i'r fei."

Mae Cymru Fyw wedi ceisio cysylltu 芒'r cwmni newydd drwy eu cyfreithwyr.

Pynciau cysylltiedig