麻豆官网首页入口

Pryderon am 'ansawdd gofal' uned iechyd meddwl yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Uned Heddfan, Wrecsam MaelorFfynhonnell y llun, Google

Dydy staff uned iechyd meddwl yn Wrecsam ddim yn gallu darparu "ansawdd y gofal yr hoffem ei ddarparu" oherwydd prinder gweithwyr.

Dyma un o gasgliadau adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) am ddwy ward yn uned Heddfan yn Ysbyty Maelor.

Dywedodd swyddogion hefyd nad oedden nhw'n sicr "bod y staff a'r cleifion yn cael eu hamddiffyn a'u diogelu'n llawn rhag anafiadau", gan fod cleifion wedi cael eu hatal yn gorfforol gan staff oedd heb gwblhau'r hyfforddiant priodol.

Er hynny, roedd safon y gwasanaeth yn "naill ai'n dda iawn neu'n dda" yn 么l cleifion gafodd eu holi, a dywedodd arolygwyr bod y staff yn "ymroddedig" ac yn "ymrwymedig i ddarparu gofal o safon uchel".

Wrth ymateb, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod wedi gweithredu i ddelio 芒'r problemau gafodd eu tanlinellu gan yr ymchwiliad, a'u bod yn anelu i roi hyfforddiant atal corfforol i'r holl staff perthnasol "erbyn Mai 2023".

'Gobaith y bydd gwelliant'

Bu archwilwyr AGIC ar wardiau Hydref a Gaeaf - ill dwy yn unedau 13 gwely sy'n rhoi gofal iechyd meddwl i oedolion h欧n - rhwng 7 a 9 Tachwedd 2022.

Dywedodd gweithwyr wrth y swyddogion eu bod yn "cael ein gadael mewn sefyllfa lle rydym yn ei chael hi'n anodd ymdopi" gan fod staff yn cael eu symud i wardiau eraill.

"Yn ystod ein trafodaethau 芒'r staff, gwnaethant nodi mai lefelau staffio isel oedd yr her fwyaf o ran gweithio ar y wardiau," meddai'r adroddiad.

"Nodwyd gennym fod nifer mawr o swyddi gwag ar y ddwy ward ar adeg ein harolygiad. Roedd swyddi gwag ar gyfer 3.79 nyrs band 5, a 2.92 nyrs band 6 ar ward Hydref. Roedd 3.8 swydd wag ar gyfer nyrsys band 5 ar ward Gwanwyn."

Dywedodd un aelod o staff wrth yr arolygwyr: "Yn fy marn i, yr unig beth siomedig am y sefydliad yn gyffredinol yw nad yw lefelau staff yn ddigonol weithiau ac, felly, na allwn ddarparu ansawdd y gofal yr hoffem ei ddarparu.

"Yn ddiweddar cafodd rhai swyddi eu llenwi 芒 staff parhaol. Felly, gobeithio y bydd y sefyllfa hon yn gwella."

O ran safonau gofal a diogelwch, dywedodd yr arolygwyr y cawson nhw "sicrwydd fod prosesau ar waith i reoli ac adolygu risgiau er mwyn helpu i gynnal iechyd a diogelwch y cleifion, y staff ac ymwelwyr yn yr ysbyty".

Roedd cofnodion dan y Ddeddf Iechyd Meddwl "yn cydymffurfio 芒'r ddeddfwriaeth", a chynlluniau gofal a thriniaeth "yn hawdd eu defnyddio ac yn cael eu diweddaru i adlewyrchu'r anghenion a'r risgiau cyfredol".

Cryfhau mesurau

Ond mae'r adroddiad yn codi pryderon fod aelodau staff oedd ddim wedi cwblhau neu ddal i fyny 芒'u hyfforddiant Ymyriadau Corfforol Cyfyngol (RPI) wedi "cymryd rhan mewn digwyddiadau lle roedd angen atal cleifion yn gorfforol".

"Felly, ni chawsom sicrwydd bod y staff a'r cleifion yn cael eu hamddiffyn a'u diogelu'n llawn rhag anafiadau," meddai'r ddogfen, gan ychwanegu bod "Polisi Atal yn Gorfforol y bwrdd iechyd wedi dyddio" a bod angen ei adolygu erbyn Hydref 2022.

Wrth ymateb dywedodd Becky Baker, pennaeth gwasanaethau iechyd meddwl yn nwyrain Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, eu bod wedi ymateb fel rhan o "gynllun gweithredu cynhwysfawr rydym wedi ei ddatblygu gydag AGIC".

"Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad y bydd pob aelod o staff sy'n delio 芒 chleifion yn cydymffurfio 芒'r gofynion hyfforddiant atal yn gorfforol erbyn Mai 2023," meddai.

"Roedd yn rhaid i ni roi'r gorau i'r hyfforddiant yma yn ystod y pandemig Covid-19. Er hynny, yn ystod y cyfnod hwn cafodd mesurau eu gosod i liniaru'r risg i gleifion a staff.

"Mae'r mesurau yma wedi cael eu cryfhau ymhellach yn dilyn yr arolwg hwn."

Ychwanegodd ei bod yn "falch" bod arolygwyr wedi nodi bod staff yn ymrwymedig i ddarparu "gofal o safon uchel", gyda chleifion yn cael eu trin ag "urddas a'r parch maen nhw'n ei haeddu".

'Dal yn waeth na'r disgwyl'

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod "gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru dal angen gwella", er bod y llywodraeth wedi ymyrryd yn y bwrdd iechyd "ers bron i wyth mlynedd" drwy fesurau arbennig neu ymyrraeth sydd wedi'i thargedu.

"Bydd cleifion a'u teuluoedd yn dychryn o glywed nad oedd yr arolygwyr wedi cael sicrwydd fod cleifion wedi eu diogelu rhag anafiadau, a bod methiannau hefyd o ran llywodraethiant, cadw cofnodion a rheoli meddyginiaethau," meddai Darren Millar AS.

"Mae'n ddychrynllyd bod y gwasanaethau yma, sydd wedi cael cymaint o sylw gan weinidogion Llafur yn y blynyddoedd diwethaf, yn dal i fod yn waeth na'r disgwyl."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "yn disgwyl i'r bwrdd iechyd ystyried yr adroddiad yn ofalus a chymryd y camau priodol".

Ychwanegodd: "Mae ymyrraeth sydd wedi'i thargedu yn helpu i feithrin y gallu mewn gwasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fynd i'r afael 芒 materion wrth iddyn nhw godi, ac yn y pen draw i helpu i'w hosgoi yn y dyfodol."