BPD: ‘Mae o’n anodd bod yn fi weithiau’

Ffynhonnell y llun, Sophie Ross

"Mae o fatha bod mewn cell yn dy ben dy hun. Ti'n trio'i gadw o i gyd at ei gilydd, ond weithiau ti jyst yn gorfod ei adael o i fynd."

Cafodd Sophie Ross ddiagnosis o Anhwylder Personoliaeth Ffiniol (Borderline Personality Disorder neu BPD) ym mis Medi 2022, wedi blynyddoedd o ddioddef symptomau.

Cafodd sgwrs gydag Aled Hughes ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Cymru am y cyflwr, beth mae hi'n ei wneud i helpu ei hun a pha mor bwysig yw hi i siarad yn agored am iechyd meddwl.

Dyma ei phrofiad hi:

Mae pobl sydd yn dioddef o BPD yn profi ansefydlogrwydd yn eu hunan-ddelwedd, eu hwyliau a'u hymddygiad. Mae'n aml yn cael ei gymharu ag anhwylder deubegynol (bipolar) gan fod y symptomau yn gallu bod yn debyg, ond fod pyliau o iselder neu mania dioddefwyr BPD yn para' am gyfnodau llawer byrrach.

Roedd cael diagnosis yn benllanw blynyddoedd o chwilio am atebion i Sophie, sy'n wreiddiol o Langollen ond bellach yn byw yn Y Fflint.

"Ges i diagnosis mis Medi 2022," meddai Sophie, "ond dwi wedi bod yn delio efo'r symptomau ers mod i tua 16/17, ac wedi bod ar foddion ers mod i'n 17. Ond roedd Mam yn gwybod bod 'na rywbeth yn bod neu yn wahanol ers mod i reit ifanc.

"Dwi'n meddwl bod ymchwil yn deud ei bod hi'n cymryd 14 mlynedd i ferched gael ar gyfartaledd. Mae'n cymryd lot o amser."

O chwerthin i feichio crio

Mae anhwylder Sophie yn golygu fod pob diwrnod yn wahanol iddi; dydi hi ddim yn gallu rhagweld sut fydd hi'n teimlo nac yn gwybod beth yw achos y pyliau mae hi'n eu cael bob amser, meddai.

"Pythefnos yn ôl ges i episode o iselder, 'nes i golli stôn mewn wythnos achos o'n i jyst ddim yn gallu bwyta. Do'n i'm yn gwybod pam mod i'n teimlo'n isel ond o'n i'n gwybod mod i'n isel.

"Ond wedyn un noson, 'nes i ddechrau chwerthin, a 'nes i chwerthin, chwerthin, chwerthin am rhyw 20 munud; o'dd o reit frawychus deud y gwir.

"Wedyn es i i'r gwely ac o'n i'n beichio crio. Y diwrnod nesa', o'dd o fel bod 'na ddim byd wedi digwydd o gwbl. So mae o reit extreme.

Ffynhonnell y llun, Sophie Ross

Disgrifiad o'r llun, Sophie gyda'i gŵr Iain, eu merch Deryn a'r cŵn, Idris a Nel. Mae hi'n cydnabod fod ei chyflwr yn anodd ar ei theulu

"Mae o fatha bod mewn cell yn dy ben dy hun. Achos ti'n trio'i gadw o i gyd at ei gilydd, ond weithiau ti jyst yn gorfod ei adael o i fynd. Y rhan fwyaf o'r amser pan mae'r episode yn digwydd, dwi'n berson arall.

"Mae o'n anodd bod yn fi weithiau, ac mae'n anodd i'r bobl sydd o gwmpas hefyd. Dydi gŵr fi byth yn gwybod beth mae o am ddod adra i."

Chwilio am help

Er fod cael diagnosis wedi helpu Sophie i roi label ar yr anhwylder sydd arni, dydi gwybod enw'r cyflwr ddim yn ddigon iddi. Dyna pam ei bod hi'n parhau i chwilio am ffyrdd gwahanol o helpu ei hun i leddfu ei symptomau neu eu cadw o dan reolaeth:

"Fasa fo'n haws i mi ista'n ôl a jest delio efo fo a ddim gneud dim byd. Ond dwi'n gwybod fod angen ymarfer corff, cadw'n heini a bwyta'n iawn, sy'n gneud gwahaniaeth enfawr.

"A hefyd, mae'n bwysig edrych i mewn i pam fod o'n digwydd. Beth oedd y trigger? A beth fedra i wneud i leihau'r effaith y tro nesa'?

"Dwi 'di bod i therapi, ac o'dd o mor werthfawr. Roedd y therapydd yn fy helpu i ddeall bod y ffordd dwi'n ei deimlo'n ocê, ei bod hi'n iawn i mi deimlo fel hyn. Ond rhoi'r toolkit at ei gilydd i mi drio interceptio [fy nheimladau] cyn ffrwydro.

"Mae 'na fath o therapi sy'n debyg sy'n berffaith i drin BPD; mwy hands-on, mindfulness, trio dod â ti nôl at realiti. Edrych o gwmpas, beth ydych chi'n gallu ei weld, beth ydych chi'n gallu ei deimlo, ei arogli, ei glywed...?

"Jyst i ddod â chi nôl i'r foment i 'neud chi'n fwy presennol, ac mae hynny wedi bod yn help masif i mi."

Symptomau Anhwylder Personoliaeth Ffiniol (o wefan y GIG)

  • Ansefydlogrwydd emosiynol
  • Patrymau o feddwl neu ddirnadaeth afreolaidd
  • Ymddygiad byrbwyll
  • Perthynasoedd dwys ond ansefydlog ag eraill

Therapi cerdd

Un symptom o BPD yw newid diddordebau yn gyflym ac yn rheolaidd, sydd bendant yn wir i Sophie, er fod un diddordeb wedi parhau, sydd hefyd yn helpu gyda'i iechyd meddwl, meddai:

"Efo BPD, 'da ni reit sporadic, 'da ni'n neidio o un peth i'r llall. Mae hobis fi'n newid fel machlud yr haul. Dwi'n mynd drwy phases; 'na i gael tri mis o redeg bob dydd, tri mis o beintio, tri mis o rywbeth arall... ond cerddoriaeth 'di'r un peth dwi'n dod nôl ati.

Ffynhonnell y llun, Sophie Ross

Disgrifiad o'r llun, Mae Sophie, sy'n gantores broffesiynol, yn teimlo fod cerddoriaeth yn gwneud byd o les i'w iechyd meddwl

"Dwi wedi bod yn canu ers dwi'n bedair oed. Dwi wedi bod yn perfformio am flynyddoedd, ond yn broffesiynol ers blwyddyn, dros ogledd Cymru i gyd.

"Mae cerddoriaeth yn therapi. Fedra i ddim deud pa mor dda ydi o i'n iechyd meddwl i'n gyffredinol; mae'n dda canu i gael yr hormonau hapus allan."

Siarad yn agored

Ynghyd â siarad â therapydd, mae siarad ag eraill yn hanfodol bwysig hefyd, meddai, ac yn un o'r rhesymau pam fod Sophie wedi penderfynu bod yn agored am ei iechyd meddwl, gyda'r gobaith y byddai'n helpu eraill.

"Mae o mor bwysig i ni siarad am bopeth. Achos os 'da chi'n ei gadw i mewn mae o'n stiwio a mae hwnna'n waeth, yn enwedig efo BPD... mae o mor bwysig i siarad efo pobl.

"Os dwi'n gallu helpu un person, fydda i'n hapus. Dyna pam dwi mor agored am fy iechyd meddwl, achos mae o mor bwysig, a dwisho helpu gymaint o bobl â dwi'n gallu."

Hefyd o ddiddordeb: