麻豆官网首页入口

Gwesty'r Strade: Dwyn achos dros gartrefu ceiswyr lloches

  • Cyhoeddwyd
StradeFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bwriad y Swyddfa Gartef yw defnyddio Gwesty Parc y Strade o fis Gorffennaf

Mae Cyngor Sir G芒r wedi lansio achos cyfreithiol yn erbyn perchnogion gwesty sy'n bwriadu ei ddefnyddio i gartrefu hyd at 241 o geiswyr lloches.

Mae staff Gwesty Parc y Strade yn Llanelli wedi cael gwybod y byddant yn colli eu swyddi ar 10 Gorffennaf - sef yr un diwrnod y mae disgwyl i geiswyr lloches gyrraedd y gwesty 77 ystafell.

Mae'r cynlluniau wedi'u gwrthwynebu'n chwyrn gan rhai yn lleol, gyda phrotest wedi ei chynnal yn ddiweddar.

Gan ddenu tua 100 o bobl, fe drefnwyd yr orymdaith gan Bwyllgor Gweithredu Ffwrnes, gyda Steve Williams o'r gr诺p yn annerch y dorf ynghyd ag arweinydd Cyngor Sir G芒r, Darren Price.

Ond ddyddiau yn unig cyn croesawu'r ceiswyr lloches, mae'r awdurdod lleol wedi cychwyn achos cyfreithiol yn erbyn perchnogion y gwesty.

Honni mae'r awdurdod fod y cynlluniau yn cynrychioli "newid defnydd sylweddol" o'r caniat芒d cynllunio sydd mewn lle i'w ddefnyddio fel gwesty.

Mae disgwyl i'r gwrandawiad gael ei gynnal yn yr Uchel Lys yn Llundain ddydd Gwener.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Darren Price ydy arweinydd Cyngor Sir G芒r

Mewn datganiad dywedodd y Cynghorydd Darren Price: "Mae Cyngor Sir G芒r wedi cychwyn achos cyfreithiol yn erbyn Gryphon Leisure Limited, Sterling Woodrow Limited, Clearsprings Ready Homes Limited, Robert Horwood a Gareth Street ynghylch newid defnydd sylweddol Gwesty Parc y Strade, Llanelli heb ganiat芒d cynllunio.

"Bydd yr achos yn destun gwrandawiad ar 7 Gorffennaf yn yr Uchel Lys yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol, Strand, Llundain.

"Nid yw'r Cyngor yn gallu gwneud sylw pellach ar hyn o bryd oherwydd yr angen i barchu'r broses gyfreithiol sydd ar waith."

Serch hynny, methiant oedd ymdrechion awdurdodau lleol eraill yn y DU i wrthwynebu cynlluniau tebyg gan y Swyddfa Gartref.

Fis Mai fe gollodd Cyngor West Lindsey eu cais yn yr Uchel Lys i rwystro safle RAF Scampton yn Sir Lincoln rhag cael ei ddefnyddio at ddiben ceiswyr lloches, ac mae Cyngor Braintree hefyd wedi colli achos tebyg dros safle yn Essex.

'Straen anhygoel'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref fod nifer y bobl sy'n cyrraedd y DU wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, a bod hynny'n rhoi "straen anhygoel" ar y system lloches.

"Rydym wedi bod yn glir fod defnyddio gwestai i gartrefu ceiswyr lloches yn annerbyniol - mae dros 51,000 o geiswyr lloches mewn gwestai ar hyn o bryd, yn costio 拢6m y dydd i drethdalwyr y DU.

"Mae'r Swyddfa Gartref wedi ymrwymo i wneud pob ymdrech i leihau'r defnydd o westai, a chyfyngu'r baich ar y trethdalwr."

Eglurodd y datganiad nad oedd y Swyddfa Gartref fyth yn gwneud sylw ar faterion os oedd camau cyfreithiol ar y gweill.

Nid oeddynt yn rhan o unrhyw benderfyniadau'n ymwneud 芒 staff, meddai, roedd hynny'n fater i berchnogion a chontractwyr.

Mae perchnogion y gwesty wedi cael cais am eu hymateb.

Pynciau cysylltiedig