Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Dirwy o £200,000 i fwrdd iechyd Betsi ar ôl i glaf ladd ei hun

  • Cyhoeddwyd
Dawn OwenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Dawn Owen ladd ei hun tra'n glaf yn uned Hergest Ysbyty Gwynedd

Mae bwrdd iechyd gogledd Cymru wedi cael dirwy o £200,000 ar ôl i ddynes ladd ei hun mewn uned iechyd meddwl ym Mangor.

Clywodd Llys Ynadon Llandudno fod Dawn Owen, 46, wedi marw yn oriau mân y bore ar 20 Ebrill 2021 tra yn uned Hergest Ysbyty Gwynedd.

Cafodd y llys wybod nad oedd Ms Owen wedi cael ei hasesu yn gywir pan gyrhaeddodd yr uned.

Fe ymddiheurodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i deulu Ms Owen, a dywedwyd wrth y llys fod gwelliannau wedi'u cyflwyno er mwyn atal digwyddiad o'r fath yn y dyfodol.

Rhybudd: Mae'r erthygl yma yn cynnwys manylion am hunanladdiad

Clywodd y llys fod Ms Owen wedi galw ambiwlans ar 12 Ebrill 2021 ar ôl ceisio lladd ei hun yn ei chartref, ac fe gafodd ei derbyn i ward Aneurin yn Hergest.

Er bod rheolau'r bwrdd iechyd yn dweud fod angen cynnal asesiad risg ar gyfer cleifion newydd, ni wnaeth staff ystyried a oedd hi'n debygol o geisio lladd ei hun eto.

Yn hytrach, cafodd asesiad risg o flwyddyn ynghynt ei ddefnyddio, pan oedd Ms Owen wedi bod yn glaf yn yr uned.

Cafodd ei rhoi mewn gwely anaddas, mewn man nad oedd modd ei weld o orsaf y nyrsys, ac fe gafodd ŵn nos gyda chortyn o'i amgylch.

Er ei bod wedi dweud wrth bobl ei bod yn ystyried lladd ei hun, ni chafodd yr asesiad risg ei newid, ac fe wnaeth y staff hyd yn oed leihau pa mor aml roedden nhw'n mynd ati.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dawn Owen ei derbyn i uned iechyd meddwl Hergest wyth diwrnod cyn iddi ladd ei hun

Fe blediodd y bwrdd iechyd yn euog i un cyhuddiad dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle, sef methu â sicrhau diogelwch claf.

Dywedodd David James, oedd yn cynrychioli'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch, wrth y llys fod achos Ms Owen yn un o nifer.

"Roedd methiannau yn y system, ac roedd hynny ar gyfer yr holl gleifion - pobl oedd yn dod i'r ward ar eu mwyaf bregus," meddai.

"Roedd gan y bwrdd iechyd systemau mewn lle er mwyn amddiffyn pobl - ond doedd hynny ddim yn cael ei ddilyn o gwbl."

Cafodd datganiad ar ran tad Ms Owen, Alan Owen, ei ddarllen i'r llys, ble dywedodd fod marwolaeth ei ferch wedi "dinistrio" y teulu a "gadael gwagle nad oes modd ei lenwi".

"Roedd ganddi galon o aur, a byddai wedi rhoi ei phunt olaf i ffwrdd er mwyn helpu rhywun - roedd hi'n ferch a chwaer annwyl," meddai.

"Rydyn ni'n flin am fethiannau'r GIG, ac mae hi'n ymddangos fod dim wedi newid ac nad oes gwersi wedi'u dysgu."

'Newid wedi digwydd'

Ond dywedodd Nigel Fryer, oedd yn cynrychioli Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, fod pethau wedi newid.

"Rwy'n cynnig fy nghydymdeimlad, a bwysicaf oll, ymddiheuriad - mae'r bwrdd iechyd yn ymddiheuro," meddai.

"Mae unrhyw un sy'n gweithio i'r GIG eisiau helpu pobl, ac mae newid wedi digwydd, ac yn digwydd.

"Mae'r diwylliant nawr yn un sy'n benderfynol o sicrhau fod pobl fel Dawn ddim yn cael eu methu yn y dyfodol.

"Mae'r cadeirydd, prif weithredwr ac aelodau eraill o dîm gweithredol y bwrdd iechyd yma yn y llys heddiw, sy'n dangos pa mor ddifrifol maen nhw'n cymryd hyn."

'Ffordd bell i fynd'

Gan gyflwyno'r ddirwy i'r bwrdd iechyd, dywedodd y barnwr Gwyn Jones fod "polisïau yn cael eu gweithredu yn anghyson".

"Mae'n eithaf amlwg, er y newid mewn meddylfryd, fod ffordd bell i fynd," meddai.

"Tra bod yn rhaid i unrhyw ddirwy gael effaith gwirioneddol ac economaidd, ni allaf anwybyddu'r ffaith y bydd yn cael effaith ar y gwasanaeth mae'r bwrdd iechyd yn ei ddarparu i'r cyhoedd."

Os ydych chi wedi eich effeithio gan gynnwys yr erthygl, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Action Line.