麻豆官网首页入口

Chwech wedi marw yn Ngharchar y Parc mewn tair wythnos

  • Cyhoeddwyd
Carchar y Parc
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ymchwiliad wedi i chwech farw mewn cyfnod o dair wythnos

Mae ymchwiliad wedi dechrau wedi i chwech o garcharorion farw yng Ngharchar y Parc dros gyfnod o dair wythnos.

Dywedodd cwmni G4S, sy'n rhedeg y carchar ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fod y marwolaethau wedi digwydd rhwng 27 Chwefror ac 19 Mawrth.

Cafodd dau o'r dynion eu henwi fel John Rose a Jason Hussey, a bu farw'r ddau ar yr un diwrnod.

Mae disgwyl i enwau dau arall gael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yr wythnos hon, ac mae Ombwdsmon Carchardai a Phrawf wedi dechrau ymchwiliad.

Dywedodd yr ombwdsmon Adrian Usher: "Yn naturiol rwy'n bryderus am y nifer o farwolaethau sydd wedi digwydd mewn cyfnod mor fyr, ac fe hoffwn gynnig fy nghydymdeimlad dwysaf i deuluoedd a chyfeillion y rhai fu farw.

"Er hynny nid ydym am rhagdybio unrhyw beth, ac rydym yn cadw meddwl agored yngl欧n ag a oes cysylltiad rhwng y marwolaethau ai peidio."

Ychwanegodd Mr Usher: "Mae fy nh卯m o ymchwilwyr wedi dechrau ar eu gwaith, ac rydym mewn cysylltiad gyda Charchar y Parc fel y gallwn ymchwilio yn drylwyr a chyflym i'r holl amgylchiadau o gwmpas bob un o'r marwolaethau yma.

"Ni allaf roi mwy o wybodaeth ar hyn o bryd gan nad wyf am ragfarnu'r cwest, ond fe fyddaf yn cyhoeddi fy adroddiadau terfynol unwaith y bydd bob cwest wedi dod i ben."

Dywedodd llefarydd ar ran Carchar y Parc: "Mae ein meddyliau gyda theuluoedd a ffrindiau y carcharorion a fu farw'n ddiweddar yn y Parc.

"Fel gyda pob marwolaeth mewn carchar, bydd yr Ombwdsmon Carchardai a Phrawf yn ymchwilio."

Pynciau cysylltiedig