麻豆官网首页入口

Carchar y Parc: Arestio tri am droseddau cyffuriau

  • Cyhoeddwyd
Carchar ParcFfynhonnell y llun, Google

Mae tri o bobl wedi'u harestio ar amheuaeth o droseddau cyffuriau yn ymwneud 芒 charchar ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd Heddlu'r De fod dyn 40 oed o Birmingham a menyw 34 oed o Gaerdydd wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon ac o lanhau arian.

Mae'r ddau wedi cael eu rhyddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Cafodd dyn 34 oed o Gaerdydd ei arestio ar amheuaeth o fod yn gysylltiedig gyda chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon.

Cafodd yntau hefyd ei rhyddhau ar fechn茂aeth.

Bu farw chwe charcharor yng Ngharchar y Parc rhwng 27 Chwefror a 19 Mawrth.

Credir fod pedwar o'r marwolaethau yn gysylltiedig gyda chyffuriau, gyda dau ddim yn cael eu trin fel rhai amheus.

Ddydd Mercher clywodd cwest fod un o'r carcharorion fu farw, Cameran Anthony, wedi cael ei ddarganfod yn ddiymadferth gan staff y carchar ar fore 19 Mawrth.

Clywodd y cwest ym Mhontypridd fod staff wedi ceisio'i adfywio a galw am gymorth, ond bu farw.

Ni wnaeth archwiliad post mortem gynnig achos pendant am farwolaeth Mr Anthony, a bydd angen profion pellach.

Ond dywedodd dirprwy grwner canol de Cymru, Rachel Knight, fod ganddi reswm i gredu fod marwolaeth Mr Anthony wedi bod yn un "annaturiol".

Cafodd y cwest ei ohirio ond bydd cwest llawn - a fydd yn cael ei glywed gan reithgor - yn cael ei gynnal.

Mae Carchar y Parc yn garchar categori B, ac ar adeg archwiliad yn 2019 roedd 1,612 o garcharorion yno, gan ei wneud yn un o'r carchardai mwyaf yn y DU.