Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Crynodeb

  • Chwe pherson arall wedi marw ar ôl cael Covid-19 - cyfanswm yn 34 bellach

  • 180 o achosion newydd wedi'u cadarnhau, gan ddod â'r cyfanswm i 921

  • Y Prif Weinidog Boris Johnson wedi cael prawf positif am coronafeirws

  • Yr Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock, hefyd wedi cael prawf positif

  1. Hwyl fawr am y trowedi ei gyhoeddi 17:45 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru Fyw

    Dyna'r cyfan o'n llif byw arbennig am heddiw.

    Fe fydd llif arall gan Cymru Fyw yfory a dros y penwythnos i ddod ag unrhyw newyddion am yr argyfwng coronafeirws i chi.

    Diolch am aros gyda ni.

    Arhoswch adre a chymrwch ofal.

  2. Angen 'gyrru pobl adre' o dai gwyliauwedi ei gyhoeddi 17:42 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Mae'r Cynghorydd Elwyn Edwards o Gyngor Gwynedd yn dweud fod nifer o bobl wedi "meddiannu" eu tai haf yn ardal y Bala, ac mae am weld yr heddlu'n cael y pwer i'w gyrru adref.

    Dywedodd Elwyn Edwards: "Pryder pobl leol yw fod cymaint o dai haf yma a bod pobl yn dod iddyn nhw oherwydd i coronafeirws yma.

    "Mae angen i'r llywodraeth wneud rhywbeth... mae'r llywodraeth yng Nghaerdydd yn aros yn ei hunfan, ac yn gwneud dim am broblem y dylien nhw fod wedi datrys fis yn ôl.

    "Dylai'r heddlu fod yn cael eu gyrru nhw adre."

  3. Dyblu bob tridiauwedi ei gyhoeddi 17:33 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Ychwanegodd Michael Gove fod nifer y bobl sydd wedi'u heintio gyda coronafeirws yn y DU yn dyblu "bob tri neu bedwar diwrnod" ar hyn o bryd.

  4. Dim profion i'r cabinetwedi ei gyhoeddi 17:31 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Mae Michael Gove wedi cadarnhau na fydd gweddill aelodau cabinet llywodraeth y DU yn cael profion am coronafeirws er fod y prif weinidog a'r gweinidog iechyd wedi profi'n bositif am yr haint.

    Roedd hyn, meddai, am nad oes unrhyw aelod arall wedi dangos symptomau o'r clefyd ac mai dyna'r canllawiau presennol ar gyfer profion.

  5. Heddlu'r Gogledd yn barod i ddefnyddio pwerauwedi ei gyhoeddi 17:26 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Boris Johnson wedi cadeirio cyfarfod heddiwwedi ei gyhoeddi 17:20 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Yn y gynhadledd newyddion ddyddiol gan lywodraeth y DU, mae Michael Gove - sy'n siarad yn absenoldeb Boris Johnson wedi iddo yntau brofi'n bositif am coronafeirws - wedi pwysleisio mai symptomau ysgafn sydd gan y prif weinidog.

    Dywedodd fod Mr Johnson wedi cadeirio cyfarfod fideo yn ystod y dydd heddiw.

  7. Dros 400 o gyn-nyrsys a bydwragedd yn dychwelydwedi ei gyhoeddi 17:01 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Mae bron i 400 o gyn-nyrsys a bydwragedd yng Nghymru wedi cofrestru i helpu'r gwasanaeth iechyd yn ei ymateb i argyfwng coronafeirws.

    Fe wnaeth y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ysgrifennu at filoedd o nyrsys a bydwragedd oedd wedi gadael y proffesiwn.

    Dywedodd bod 374 nyrs, 18 bydwraig a dau sy'n gymwys i wneud y ddwy rôl wedi cofrestru yng Nghymru.

    Ychwanegodd prif weithredwr y cyngor, Andrea Sutcliffe nad yw'n rhy hwyr i eraill sydd wedi gadael yn y tair blynedd ddiwethaf i ddychwelyd.

    NyrsFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. 'O'dd gwneud y penderfyniad yn uffernol...'wedi ei gyhoeddi 16:51 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Mae'r argyfwng coronafeirws yn effeithio ar bawb mewn ffyrdd gwahanol.

    Mae Ffion Wynn, sy'n gweithio fel radiotherapydd yng Nghaerdydd, wedi gorfod gwneud penderfyniad anodd i ddiogelu ei mab, Deio, sy'n chwech oed, drwy ei anfon i aros gyda'i chwaer ger Aberystwyth.

    "Pan 'nes i weld fod Boris Johnson yn gwneud cyhoeddiad nos Lun, 'nes i feddwl mae'n siŵr mai lockdown oedd am ddigwydd, felly o fewn tua awr, o'n i wedi pacio popeth yn y car, ac o'dd Deio a fi ar y ffordd i Aberystwyth," meddai.

    Mae mwy am ei stori ar Cylchgrawn Cymru Fyw.

    Ffion WynnFfynhonnell y llun, Ffion Wynn
  9. Newid byd!wedi ei gyhoeddi 16:40 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    I bobl sy'n gyfarwydd gyda'r daith drwy bentref Bontnewydd ger Caernarfon ar brynhawn dydd Gwener arferol, fe fyddwch chi wedi arfer gyda thagfeydd ar y gylchfan yno.

    Dyma'r olygfa heddiw!!

    bontnewydd
  10. Prif Swyddog Meddygol Lloegr nawr.....wedi ei gyhoeddi 16:30 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Twitter

    Mae e wedi dod yn wyneb cyfarwydd dros yr wythnosau diwethaf wrth ymddangos mewn cynadleddau newyddion gyda prif weinidog y DU, ond yn dilyn y newyddion fod Boris Johnson wedi profi'n bositif am coronafeirws ,mae Prif Swyddog Meddygol Lloegr nawr yn hunan ynysu.

    Cyhoeddodd yr Athro Chris Whitty hyn ar wefan Twitter o fewn y munudau diwethaf.

    Mae Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU, Matt Hancock, hefyd wedi profi'n bositif yn ystod y dydd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Cau meysydd parciowedi ei gyhoeddi 16:26 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Mae Heddlu Dyfed Powys yn rhybuddio pobl i beidio teithio er mwyn ymweld â thraethau a llefydd o brydferthwch naturiol.

    Mae'r ffordd i draeth y Mwnt ger Aberteifi wedi ei chau, ynghyd a'r maes parcio sydd yn cael ei redeg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

    Mae'n lle godidog....ond fe fydd yn dal yn odidog pan fydd pobman wedi ailagor!

    Mae Heddlu Dyfed Powys yn atal cerbydau ar y ffordd i wirio fod pobl yn teithio am y rhesymau cywir yn unig. Mae'r llu yn bwriadu targedu faniau gwersylla a charafanau yn ogystal a cherbydau cyffredin.

    mwnt
  12. Galw am atal rhentu lletywedi ei gyhoeddi 16:16 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Plaid Cymru

    Mae aelodau Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams AS a Sian Gwenllian AC wedi galw ar lywodraeth Cymru i orchymyn asiantaethau llety Booking.com ac AirBnB i roi'r gorau i dderbyn archebion am eiddo yng Ngwynedd ar unwaith.

    Mae'r ddau yn dweud iddyn nhw gael galwadau gan bobl leol yn pryderu fod eiddo gwyliau yn yr ardal yn dal i dderbyn archebion er gwaetha' mesurau'r llywodraeth i atal pobl rhag teithio'n ddiangen.

    Maen nhw'n galw ar brif weinidog Cymru i orchymyn darparwyr llety AirBnB, hostelau a Booking.com i roi'r gorau i hysbysebu'u heiddo ar unwaith.​

  13. Apêl gweithwyr iechyd cyn y penwythnoswedi ei gyhoeddi 15:57 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Treialu canolfannau bwydwedi ei gyhoeddi 15:42 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Cyngor Sir Gaerfyrddin

    Mae Cyngor Sir Gâr yn sefydlu pedair canolfan fwyd i deuluoedd mewn angen.

    Mae'n golygu y bydd plant sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim hefyd yn derbyn cyflenwadau bwyd sych i fwydo'r teulu cyfan.

    Mae'r Cyngor yn cydweithio â'r cyflenwr bwydydd Castell Howell i helpu teuluoedd a allai fod yn wynebu anawsterau ariannol o ganlyniad i'r coronafeirws.

    Mae'r canolfannau bwyd yn cael eu treialu mewn pedair ysgol uwchradd yn y sir - Ysgol Bryngwyn yn Llanelli, Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth yng Nghaerfyrddin, Ysgol Dyffryn Aman yn Rhydaman ac Ysgol Dyffryn Taf yn Hendy-gwyn ar Daf.

    dyffryn amanFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Gaerfyrddin
    Disgrifiad o’r llun,

    Canolfan fwyd yn Ysgol Dyffryn Aman

  15. Cyhoeddi trefniadau arholi disgyblion blwyddyn 10 a 12wedi ei gyhoeddi 15:29 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi cyhoeddi sut y bydd disgyblion blwyddyn 10 a 12 yng Nghymru yn cael eu hasesu, wrth i drefniadau amgen gael eu cyflwyno wedi i arholiadau'r haf gael eu canslo yn sgil argyfwng coronafeirws.

    Mae'r gweinidog wedi penderfynu na fydd rhaid i fyfyrwyr oedd ar fin sefyll arholiadau yn yr haf sefyll yr arholiadau hynny ar ddyddiad diweddarach.

    Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "penderfyniad y gweinidog yn seiliedig ar ystyriaeth fanwl o'r opsiynau oedd ar gael a chyngor gan Cymwysterau Cymru a Chyd-Bwyllgor Addysg Cymru".

    DisgyblionFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  16. Lle yng Nghymru mae'r achosion?wedi ei gyhoeddi 15:21 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    cymru
  17. Galw am ddefnyddio parciau yn gyfrifolwedi ei gyhoeddi 15:10 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Cyngor Caerdydd

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Troi Rodney Parade yn ganolfan brofi am Covid-19wedi ei gyhoeddi 14:59 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Mae stadiwm Rodney Parade yng Nghasnewydd wedi cael ei droi yn lleoliad ble mae modd cael prawf sydyn am Covid-19 i staff Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

    Mae'r stadiwm yn gartref i dîm pêl-droed Casnewydd a thimau rygbi’r Dreigiau a Chasnewydd.

    Mae'r bwrdd iechyd yn ofni y bydd yn cael ei "orlwytho" gydag achosion, a dywedodd bod y ganolfan gyrru-trwodd yn Rodney Parade yn "allweddol".

    Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd y ganolfan newydd yn "helpu i gael ein timau yn ôl yn gweithio ar y rheng flaen".

    Rodney Parade
  19. Sefydlu cofrestr llety sydd ar gael am ddimwedi ei gyhoeddi 14:50 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020

    Mae Menter Môn yn galw ar berchnogion llety yng Ngwynedd, Môn a thu hwnt i gofrestru eu tai, carafanau neu unrhyw fath o lety hunan-gynhwysol sy’n wag ar gyfer eu cynnig am ddim i weithwyr iechyd ac argyfwng.

    "Yn sgil y coronafeirws, mae nifer o weithwyr maes iechyd ac argyfwng angen lle i aros dros dro," meddai Menter Môn mewn datganiad.

    "Er mwyn eu helpu i ddod o hyd i lety fydda’n gweithio iddyn nhw, mae Menter Môn , sef system ar-lein sy’n dangos manylion a lleoliadau yr lletai sydd ar gael.

    "Bydd y lletai yn cael eu arddangos ar fap rhyngweithiol er mwyn galluogi gweithwyr iechyd ac argyfwng weld beth sydd ar gael, ac ym mha ardaloedd."

  20. Angen ymarfer corff wrth hunan ynysu?wedi ei gyhoeddi 14:39 Amser Safonol Greenwich 27 Mawrth 2020