Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Crynodeb

  • Pryder bod hawliau dynol preswylwyr wedi'u torri mewn cartrefi gofal

  • Dirwyon am dorri'r cyfyngiadau wedi'u codi i hyd at £1,920 yng Nghymru

  • Galw ar Lywodraeth y DU i helpu sector awyrennau Cymru yn sgil diswyddiadau BA

  1. Galw ar Lywodraeth y DU i helpu'r sector awyrennauwedi ei gyhoeddi 09:23 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi cymorth i'r diwydiant hedfan yng Nghymru ar "raddfa fawr" yn ôl Gweinidog yr Economi, Ken Skates.

    Dywedodd Mr Skates mai dim ond nhw sydd â'r adnoddau i helpu'r sector, sydd wedi cael ei tharo'n galed yn ystod y pandemig coronafeirws.

    Daw hyn wrth i British Airways ddechrau proses ymgynghori ar 399 o ddiswyddiadau mewn tri safle yn ne Cymru.

    Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am ymateb.

    BA
  2. Dirwyon am dorri'r cyfyngiadau'n codi i hyd at £1,920wedi ei gyhoeddi 09:13 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y ddirwy uchaf am aildroseddu yn erbyn cyfyngiadau'r coronafeirws yng Nghymru yn cynyddu o £120 i £1,920 cyn penwythnos gŵyl y banc.

    Mae'r newid yn dilyn cais gan bedwar llu heddlu Cymru a'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i gynyddu'r cosbau mewn ymgais "i gymell pobl i beidio â thorri'r rheoliadau aros gartref, dro ar ôl tro".

    Bydd rheoliadau newydd i gynyddu'r dirwyon yn mynd o flaen y Senedd heddiw ac yn dod i rym yfory.

    Bydd dirwyon am dorri'r cyfyngiadau yn dechrau o £60, ond bydd y ddirwy'n dyblu pob tro mae rhywun yn cael eu dal.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Pryder am dorri hawliau dynol mewn cartrefi gofalwedi ei gyhoeddi 09:03 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Mae Comisiynydd Pobl HÅ·n Cymru wedi gofyn i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ymchwilio i'r posibilrwydd fod Llywodraeth Cymru wedi torri hawliau pobl oedrannus wrth ymateb i'r argyfwng coronafeirws.

    Dywed Helena Herklots fod system brofi gynhwysfawr ar gyfer Covid-19 yn y sector gofal yn "rhy araf."

    Yn rhaglen Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Wales Investigates fydd yn cael ei darlledu heno, mae hi hefyd yn cwestiynu a gafodd yr "hawl i fyw" ei dorri, gan ddweud ei bod wedi trafod y mater gyda'r CCHD.

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething nad yw'n "cydnabod" achos o dorri hawliau dynol a bod y polisi'n seiliedig ar gyngor gwyddonol.

    Mae modd darllen mwy ar y stori yma ar ein hafan.

    Cartref Gofal
  4. Bore dawedi ei gyhoeddi 09:00 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Bore da a chroeso i'n tudalen fyw ni heddiw.

    Arhoswch gyda ni am y newyddion diweddaraf am y pandemig yng Nghymru a thu hwnt trwy gydol y dydd.