Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Crynodeb

  • 'Dim addewidion' ar ailagor bwytai a thafarndai yng Nghymru

  • 54% o blant yn 'poeni am eu haddysg'

  • Gweinidog tai yn 'benderfynol' o daclo digartrefedd wedi Covid-19

  • Tair marwolaeth arall wedi'i chofnodi yng Nghymru gan ddod â'r nifer i 1,401

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 17:48 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru Fyw

    A dyna ni gan dîm y llif byw am heddiw ar y diwrnod

    • y dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y gallai rhagor o gyfyngiadau gael eu llacio yng Nghymru os yw nifer yr achosion yn parhau i ostwng.

    • Nodwyd hefyd y bydd pawb sydd mewn cartref gofal yn cael prawf Covid-19 erbyn dydd Gwener.

    • Dangosodd arolwg bod dros hanner o blant Cymru yn poeni am waith ysgol ac mae'r rhai sy'n dysgu gyrru yn poeni nad oes eglurder am bryd y byddan nhw yn gallu sefyll eu prawf.

    • Cofnodwyd tair marwolaeth arall yng Nghymru gan ddod â'r nifer swyddogol i 1,401.

    Bydd y straeon diweddaraf i'w gweld ar wefan Cymru Fyw ac fe fydd y llif newyddion yn ôl bore fory.

    Tan hynny - hwyl a diolch am ddarllen.

  2. Angen gwybod mwy?wedi ei gyhoeddi 17:48 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Senedd Cymru

    Mae'r canllaw a'r wybodaeth ddiweddaraf am ailagor ysgolion, teithio i Gymru a mwy ar gael isod

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. 'Byddai ail don yn drychinebus'wedi ei gyhoeddi 17:44 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Yn y gynhadledd newyddion yn San Steffan, dywed Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Matt Hancock, bod nifer y marwolaethau ac achosion o haint coronafeirws bellach ar ei isaf ond bod yn rhaid i bobl fod yn "ofalus" o hyd.

    Ychwanegodd y byddai ail don o'r haint yn drychinebus - i'r cyhoedd ac i'r economi.

    Matt Hancock
  4. Dim penderfyniad ar ailagor addoldai yng Nghymru hyd ymawedi ei gyhoeddi 17:23 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Daeth cyhoeddiad dros y penwythnos fod addoldai i agor yn Lloegr ar gyfer gweddi bersonol ond does yna ddim penderfyniad yng Nghymru hyd yma.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Deintyddion yn galw am ailddechrau er budd y cyhoeddwedi ei gyhoeddi 17:16 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Mae tua 500 o ddeintyddion o Gymru wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru yn galw am gael ailddechrau peth o'u gwaith.

    Mae'r llythyr yn rhybuddio am "drychineb" a ddaw yn iechyd deintyddol y cyhoedd os na fydd deintyddion yn cael gweld cleifion unwaith eto.

    Yn ôl y llythyr mae nifer fawr o swyddi hefyd mewn perygl oherwydd y sefyllfa.

  6. Cofiwch am y Post Prynhawnwedi ei gyhoeddi 17:05 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Cymru

    Alun Thomas sy'n cyflwyno heddiw ac mae yna ddigon i'w drafod.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. 'Penderfynol' na fydd y digartref yn ôl ar y strydwedi ei gyhoeddi 17:02 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Y gweinidog tai yn benderfynol na fydd rhaid i bobl ddigartref fynd 'nôl ar y stryd wedi'r argyfwng.

    Read More
  8. Cynhadledd San Steffan ar fin dechrauwedi ei gyhoeddi 16:49 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, fydd yn siarad yng nghynadledd newyddion San Steffan prynhawn 'ma.

    Mae e wedi bod yn wynebu nifer o gwestiynau yn NhÅ·'r Cyffredin gan ASau yng ngogledd orllewin Lloegr sy'n poeni bod graddfa R yn uwch nag un yn yr ardal honno.

    Mae R yn nodi i sawl person y gall rhywun sydd wedi'i heintio drosglwyddo'r haint.

  9. 'Sioc a siom' wedi priodas yn ystod y cyfnod clowedi ei gyhoeddi 16:41 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Dywed Archesgob Catholig Caerdydd "ei fod wedi cael sioc a siom" wedi iddo ddeall bod un o'i offeiriaid wedi cynnal priodas yn ystod y cyfnod clo pan nad oedd hawl gwneud hynny.

    "Roedd hi'n sefyllfa fugeiliol anodd," medd yr Archesgob George Stack a dywed ei fod yn cydymdeimlo gyda'r offeriad y Tad Sebastian Jones a wnaeth weinyddu'r gwasanaeth yn ardal Sblot ar 12 Mai.

    Dywed Cyngor Caerdydd nad yw'r briodas yn gyfreithlon gan na dderbyniodd y cyngor rhaghysbysiad yn ei chylch ac nad oeddynt yn derbyn hysbysiadau yn y cyfnod dan sylw oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

    Dywed yr Archesgob ei fod nawr yn anfon canllaw i eglwysi eraill yn yr esgobaeth i'w hysbysu na ddylid cynnal priodasau yn y cyfnod clo.

    Yn y cyfamser, dywed Heddlu Gwent eu bod yn ymchwilio wedi aflonyddwch mewn cyfeiriad yng Nghasnewydd ar Fai 12 lle y nodwyd bod "parti priodas" yn cael ei gynnal.

    eglwys sblott
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd y briodas ei chynnal yn yr eglwys yma yng Nghaerdydd

  10. Gobeithio agor Zip Worldwedi ei gyhoeddi 16:23 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Dywed penaethiaid atyniad Zip World eu bod yn paratoi i ailagor rhai o'u safleoedd yn ystod yr haf.

    Dywedodd llefarydd ar ran yr atyniad, bod pob ymdrech wedi'i wneud i sicrhau digon o gyfarpar amddiffyn PPE i'r holl staff.

    zip world
  11. Ailagor bwytai a thafarndai: 'Dim addewidion'wedi ei gyhoeddi 16:08 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Mae yna "restr hir" o syniadau posib wrth baratoi i adolygu'r cyfyngiadau, medd y Prif Weinidog.

    Read More
  12. Y ffigyrau isaf yn y DU ers y cyfnod clowedi ei gyhoeddi 15:58 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Ar draws y DU cofnodwyd 55 o farwolaethau pellach wedi iddynt gael prawf positif o coronafeirws.

    Dyma'r nifer isaf ers i'r cyfyngiadau ddod i rym ar 23 Mawrth.

    Chafodd yr un marwolaeth ei chofnodi mewn ysbytai yn Llundain yn ystod y 24 awr ddiwethaf.

  13. Mwy o lysoedd Cymru i ailagorwedi ei gyhoeddi 15:32 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Bydd rhagor o lysoedd yng Nghymru yn ailagor yn fuan ar ôl i addasiadau gael eu cwblhau i gadw at reolau ymbellhau cymdeithasol.

    Mae llysoedd Casnewydd, Merthyr Tudful a Llandudno ymhlith 16 canolfan fydd yn cynnal gwrandawiadau unwaith eto.

    Nifer cyfyngedig o lysoedd sydd wedi gallu gweithredu ers i'r rheolau ymbellhau ddod i rym yn sgil pandemig Covid-19.

    Yn ôl y Gwasanaeth Llysoedd bydd pob safle yn sicrhau rheolau ymbellhau llym er mwyn ailddechrau'n ddiogel.

    Llys y Goron Casnewydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Llys y Goron Casnewydd ymhlith y llysoedd fydd yn ailagor

  14. Angen i deithwyr hunan-ynysuwedi ei gyhoeddi 15:06 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Mae rheolau newydd, sy'n dod i rym heddiw, yn gorchymyn i bobl sy'n teithio i Gymru o dramor i hunan-ynysu am 14 diwrnod.

    Mae'r rheolau yr un fath i feysydd awyr a phorthladdoedd ar draws y DU a gall y sawl na sy'n hunan-ynysu gael dirwy o £1,000.

    Ond yng Nghymru mae'r ddirwy i'r sawl sy'n gwrthod rhoi gwybodaeth - fel manylion cyswllt a lle mae nhw'n hunan-ynysu yn is - £60 o'i gymharu â £100 yn Lloegr.

    Bydd y ddirwy yn codi bob tro y torrir y gofynion - yr uchafswm yw £1,920.

    Ni fydd rhaid i deithwyr hanfodol hunan-ynysu neu gwblhau datganiadau manylion cyswllt.

    Os yn weithiwr amaethyddol tymhorol bydd rhaid aros ar y fferm yr ydych yn gweithio ynddi am 14 diwrnod.

  15. Hoff ganeuon y cyfnod cloiwedi ei gyhoeddi 14:44 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Pa ganeuon mae rhai o gerddorion Cymru wedi eu mwynhau dros y misoedd diwethaf?

    Read More
  16. Disgwyl datganiad ar wisgo mygydau yng Nghymru forywedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Dywed y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn parhau i drafod a ddylai hi fod yn orfodol gwisgo mwgwd yn gyhoeddus a bod disgwyl penderfyniad yfory.

    Wrth siarad yn ystod cynhadledd y llywodraeth dywedodd Mark Drakeford: "Y ffordd ry'n ni'n gwneud pethau yng Nghymru yw paratoi yn gyntaf a chyhoeddi wedyn - dim cyhoeddi a wedyn canfod beth allai y cyhoeddiad ei olygu.

    "Felly ry'n ni'n gweithio ar y manylion ynglŷn â'r datganiad ar hyn o bryd."

    Yn Lloegr bydd gwisgo mygydau ar drafnidiaeth gyhoeddus yn orfodol o 15 Mehefin ymlaen - ac mae yna alw ar i Gymru wneud yr un fath.

    Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi newid eu cyngor gan ddweud y dylid bellach wisgo mygydau pan nad yw ymbellhau cymdeithasol yn bosib.

    Dywedodd Mr Drakeford y bydd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn rhoi manylion ar y cyngor i wisgo mygydau yn y gynhadledd yfory.

    Tren LlundainFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Tri yn fwy wedi marw yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae tair yn rhagor o farwolaethau Covid-19 wedi eu cofnodi, medd Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddod â'r cyfanswm i 1,401.

    Cafodd 42 o achosion newydd eu cofnodi, gan ddod â'r cyfanswm o bobl sydd wedi derbyn prawf positif yng Nghymru i 14,438.

    Mae'n debyg fod y gwir ffigwr yn llawer uwch gan nad yw profi am yr haint ar lefel eang wedi digwydd hyd yn hyn.

    prawfFfynhonnell y llun, Getty Images
  18. Sut mae'r cyfnod clo wedi effeithio ar bobl ifanc?wedi ei gyhoeddi 13:49 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Ffion Griffith a Jonathan Powell sy'n trafod effaith y cyfnod clo ar fywydau pobl ifanc.

    Read More
  19. Pêl-droed: Ailgychwyn gemau Caerdydd ac Abertawewedi ei gyhoeddi 13:29 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Cadarnhau gemau Caerdydd ac Abertawe yn y Bencampwriaeth wrth i'r tymor ailddechrau.

    Read More
  20. Hyfforddiant i baratoi at ail don bosibwedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mehefin 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Drakeford hefyd bod byrddau iechyd yn hyfforddi mwy o staff i weithio mewn unedau gofal dwys rhag ofn y bydd ail don o achosion Covid-19 yn yr hydref.

    Dywedodd bod "popeth yn cael ei wneud er mwyn ceisio atal ail don" ond bod angen paratoi rhag ofn ei bod yn digwydd.

    Yn ogystal â hyfforddiant, dywedodd bod adolygiad o ysbytai dros dro yn digwydd.