麻豆官网首页入口

Buddsoddiad 拢1bn i fod yn rhan o 'adfywiad gogledd Cymru'

Melin bapur ShottonFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gafodd y safle yn Shotton ei brynu gan gwmni Eren Holding yn 2021

  • Cyhoeddwyd

Fe all cynllun gwerth 拢1bn i ddatblygu melin bapur yn y gogledd ddwyrain "drawsnewid lefelau ailgylchu yn y DU yn llwyr", yn 么l perchnogion y safle.

Mae hyd at 2,000 o gontractwyr yn gweithio ar wneud Melin Shotton yng Nglannau Dyfrdwy yn un o safleoedd cynhyrchu papur a chardfwrdd mwyaf Prydain erbyn y flwyddyn nesaf.

Yn 么l Eren Holding, y cwmni o Dwrci sy'n berchen ar y safle, fe fyddai'r felin newydd yn un o'r rhai mwyaf datblygedig yn Ewrop, yn prosesu chwarter y gwastraff cardfwrdd y mae'r DU yn anfon dramor ar hyn o bryd, ac y byddai'n rhan amlwg o "adfywiad gogledd Cymru".

Dywedodd Llywodraeth y DU fod y buddsoddiad yn "arwydd o hyder yn economi Cymru", tra bod Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod yn "newyddion gwych" i Lannau Dyfrdwy a thu hwnt.

Roedd y felin yn arfer cynhyrchu papur ar gyfer y diwydiant argraffu - ac yn ei hanterth yn y 1990au roedd 530 o bobl yn cael eu cyflogi ar y safle.

Ond, mae'r ffigwr yno wedi gostwng wrth i'r galw am bapur o'r fath leihau.

Fe gafodd y safle yn Shotton - oedd yn eiddo i UPM - ei brynu gan Eren Holding yn 2021.

Mae gan y cwmni o Dwrci weithlu o oddeutu 14,000 o bobl - ac mae ganddyn nhw fusnesau mewn sawl sector gwahanol gan gynnwys y diwydiant ynni, cynhyrchu papur a manwerthu.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd y buddsoddiad yn diogelu 147 o swyddi, ac yn creu 220 o swyddi newydd, yn 么l Llywodraeth Cymru

Ar hyn o bryd mae Prydain yn allforio gwastraff cardfwrdd - sy'n cael ei ailgylchu dramor ac yna ei fewnforio yn 么l er mwyn ei werthu yn y DU.

Mae Eren yn honni y gallai'r felin newydd newid y DU o fod yn fewnforiwr cynhyrchion cardfwrdd i fod yn allforiwr, gan awgrymu fod y datblygiad yn un "o'r buddsoddiadau tramor mwyaf arwyddocaol yn y DU ers blynyddoedd".

Dywedodd Hamdullah Eren, aelod o fwrdd y cwmni: "Dyma'r cam cyntaf ar y siwrne i fod yn safle cynhyrchu o'r radd flaenaf, fydd yn gallu trawsnewid lefelau ailgylchu yn y DU.

"Dydyn ni methu aros i ddechrau'r gwaith cynhyrchu a throi'r weledigaeth yma yn wirionedd."

'Newyddion gwych i economi Cymru'

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd y buddsoddiad yn diogelu 147 o swyddi, ac yn creu 220 o swyddi newydd unwaith mae'r gwaith datblygu wedi ei gwblhau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi 拢13m i'r cynllun er mwyn "cynnal a chreu swyddi", tra bod Llywodraeth y DU yn cyfrannu 拢136m drwy'r asiantaeth credyd allforio.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Rebecca Evans fod "hyn yn newyddion gwych i Lannau Dyfrdwy ac economi ehangach Cymru".

"Mae'n enghraifft dda o sut y gallwn, trwy ein hymrwymiad i economi werdd ffyniannus, ddenu buddsoddiad a chreu swyddi da a chynaliadwy - a lleihau gwastraff yr un pryd," meddai.

Yn 么l Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, "mae gan Lannau Dyfrdwy hanes hir a balch fel un o brif ardaloedd diwydiannol Cymru a bydd y buddsoddiad sylweddol hwn gan y ddwy lywodraeth yn sicrhau swyddi ac yn helpu i ddod 芒 dyfodol llewyrchus i'r ardal.

"Rydym wedi ailbennu'r berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru," ychwanegodd.