Caniatâd pentref gwyliau Parc Penrhos 'yn ddilys'

Disgrifiad o'r llun, Cafodd caniatâd cynllunio amlinellol ei roi yn 2016 i adeiladu 500 o fythynnod gwyliau ym Mharc Arfordirol Penrhos
  • Awdur, Gareth Williams
  • Swydd, Newyddion Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru

Mae grŵp ymgyrchu wedi eu "tristáu" wedi i adolygiad barnwrol o gynlluniau ar gyfer pentref gwyliau ar barc gwledig ym Môn ddod i'r casgliad bod y caniatâd cynllunio gwreiddiol yn parhau i sefyll.

Roedd y gwrandawiad wedi ymchwilio a oedd caniatâd a roddwyd yn 2016 i adeiladu 500 o fythynnod gwyliau ym Mharc Arfordirol Penrhos, ger Caergybi, yn parhau i fod yn ddilys wedi i ymgyrchwyr yn erbyn y datblygiad godi £35,000 i fynd â’u hachos i’r Uchel Lys yng Nghaerdydd.

Roedd Grŵp Achub Penrhos a’r hawlydd Hilary Paterson-Jones wedi dadlau bod y caniatâd cynllunio bellach wedi rhedeg allan gan nad oedd digon o waith wedi ei wneud ar y safle mewn pryd.

Ond yn dilyn gwrandawiad ym mis Mehefin, mae’r Barnwr Mr Ustus Mould bellach wedi dod i’r casgliad bod digon o waith wedi ei wneud yno, gan wrthod honiadau’r grŵp.

Cafodd caniatâd cynllunio amlinellol ei gymeradwyo yn 2016 i adeiladu 500 o fythynnod gwyliau ym Mharc Arfordirol Penrhos ger Caergybi.

Byddai'n datblygu tua 200 erw o'r parc a gafodd ei sefydlu ar gyfer y gymuned yn 1971 gan gyn-ffatri Alwminiwm Môn.

Roedd y cynigion, pan gafon nhw eu cyflwyno i gynghorwyr yn 2013, wedi bod yn ddadleuol gan sbarduno dadlau ffyrnig ar yr ynys gydag ymgyrchoedd o blaid ac yn erbyn y datblygiad gwyliau.

Roedd Cyngor Môn o'r farn bod digon o waith wedi ei wneud ar y safle i sicrhau bod y caniatâd yn dal i fod yn ddilys.

Disgrifiad o'r llun, Mae'n fwriad i ddatblygu tua 200 erw o'r parc i wireddu'r cynlluniau

Yn ôl y datblygwyr, cwmni Land and Lakes, "fe wnaethpwyd dechreuad effeithiol i’r datblygiad ym Mhenrhos yn 2021, sy’n golygu bod y caniatâd cynllunio ar gyfer y safle bellach yn ei le am byth".

Roedd yr hawlwyr wedi ceisio diddymu’r caniatâd cynllunio drwy ddadlau nad oedd y gwaith a wnaed ar un o adeiladau’r stad hanesyddol, sef tŵr beili, yn ddigon i sicrhau bod y caniatâd cynllunio yn ddilys.

Roedd cyfyngiadau Covid mewn grym ar y pryd nad oedd, medd y datblygwyr, yn caniatáu newid defnydd sylweddol o dŷ clwb criced i ganolfan croesawu ymwelwyr.

Dywed y cwmni hefyd fod "datblygiad ar raddfa lawn wedi ei oedi wrth i ni aros i'r heriau presennol i economi'r DU leddfu".

Ystyried apêl

Yn dilyn cyhoeddi’r dyfarniad dywedodd Hilary Paterson-Jones ei bod wedi ei "thristáu" ond eu bod am "frwydro ymlaen" wrth ystyried lansio apêl.

Ar ôl codi dros £35,000 i ariannu'r adolygiad barnwrol, dywedodd ei bod yn "hyderus" bod digon o gefnogaeth yn lleol i ariannu apêl pellach.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn: "Mae'r Cyngor Sir wedi bod yn hyderus yng nghadernid ei brosesau wrth wneud penderfyniadau, ynghyd â dehongliad swyddogion o’r gyfraith a'u gweithrediad ohoni.

"Rydym yn croesawu dyfarniad yr Uchel Lys."

Disgrifiad o'r llun, Mae dyfarniad yr adolygiad barnwrol wedi siomi gwrthwynebwyr y cynlluniau

Mewn datganiad yn croesawu dyfarniad yr adolygiad barnwrol, dywed Land & Lakes bod y cais cynllunio a gafodd ei gymeradwyo yn 2016 yn un o'r ceisiadau "mwyaf cymhleth erioed yng Nghymru" a fu'n destun ymgynghori eang.

Fe fydd y datblygiad, medd y cwmni, "yn cael ei gydblethu'n ofalus â'r tirwedd, gan gynnwys coetiroedd a nodweddion naturiol y parc".

Maen nhw'n dweud bod dim sail i ofnau bod yna fwriad "i dorri 28 erw o goed na choedlannau hynafol a dim cynlluniau i gau Penrhos i'r cyhoedd".

Mae'r cwmni nawr "yn edrych ymlaen at symud ymlaen gydag ein datblygiad, a fydd yn sicrhau bod Penrhos yn parhau i fod yn le i bobl leol ac ymwelwyr elwa ohono at y tymor hir, tra'n dod â buddsoddiad sylweddol a swyddi i'r ynys".