Ymgeisydd Reform yn tynnu ei gais yn 么l

Ffynhonnell y llun, Getty

Mae ymgeisydd Reform UK wedi tynnu ei enw yn 么l ar gyfer ymgeisio yn yr etholiad cyffredinol ar 么l honiadau ei fod wedi rhannu cynnwys hiliol ar-lein.

Stewart Sutherland oedd ymgeisydd y blaid ar gyfer etholaeth Blaenau Gwent a Rhymni yn ne Cymru.

Mewn neges ar X, Twitter gynt, dywedodd ei fod "wedi trio cynnal ymgyrch l芒n ond heb lwyddo", gan ychwanegu "nid wyf yn dymuno dweud unrhyw beth pellach ar y pwynt yma".

Fe wnaeth Reform UK gadarnhau bod Mr Sutherland "wedi tynnu ei enw yn 么l, er gwaethaf ymdrechion mawr mewn amser byr i gael rhywun yn ei le".

Nid yw'r blaid wedi s么n am y rheswm tu 么l i'w benderfyniad i dynnu ei enw yn 么l.

Fe wnaeth gr诺p o'r enw Reform Party UK Exposed honni fod Mr Sutherland wedi rhannu nifer o gynnwys hiliol ar gyfryngau cymdeithasol.

Rhestr o'r ymgeiswyr eraill yn etholaeth Blaenau Gwent a Rhymni

Y Blaid Gomiwnyddol Brydeinig - Robert Griffiths

Y Ceidwadwyr - Hannah Elizabeth Jarvis

Y Blaid Werdd - Anne Baker

Annibynnol - Mike Whatley

Llafur - Nick Smith

Democratiaid Rhyddfrydol - Jackie Charlton

Plaid Cymru - Niamh Salkeld

Plaid y Gweithwyr - Yas Iqbal