麻豆官网首页入口

John Ogwen a Maureen Rhys yn 80: Dathliad o fywyd a gyrfa

John a Maureen yn Y T诺rFfynhonnell y llun, Y T诺r
Disgrifiad o鈥檙 llun,

John a Maureen yn Y T诺r

  • Cyhoeddwyd

鈥淒wi isho mentro a 鈥檇i o ddim ots gen i fethu. Os chi鈥檔 mentro a methu, o leia鈥 chi wedi cael go arni. Dyna oedd o i mi.鈥

Dyma eiriau yr actores Maureen Rhys wrth iddi hel atgofion am fywyd a gyrfa hi a鈥檌 g诺r John Ogwen wrth i鈥檙 ddau ddathlu eu penblwyddi yn 80 oed eleni.

Mae鈥檙 ddau wedi bod ar ein llwyfannau ac ar ein sgriniau teledu ers canol y 1960au.

Ar 么l cyfarfod ym Mhrifysgol Bangor a phriodi yn 1966, mae鈥檙 p芒r wedi gweithio gyda鈥檌 gilydd droeon gan serennu mewn nifer o ddram芒u a ffilmiau teledu Cymraeg, gan gynnwys Lleifior ac Y T诺r.

Wrth baratoi am ddigwyddiad arbennig i ddathlu eu cyfraniad i ddarlledu gan Archif Darlledu Cymru ym mis Medi 2024 bu鈥檙 g诺r a鈥檙 wraig yn hel atgofion gyda Cymru Fyw am uchafbwyntiau eu gyrfa a鈥檙 profiad o weithio gyda鈥檌 gilydd.

Y dramodydd Gwenlyn Parry ddaeth a鈥檙 ddau ynghyd i berfformio yn Y T诺r, fel mae John yn esbonio: 鈥淕wenlyn Parry gafodd y syniad o ddod a ni at ein gilydd fel actorion.

鈥淩oedd wedi derbyn comisiwn gan Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978 i sgrifennu drama newydd. Flwyddyn union ynghynt, dros swper yn Theatr Clwyd, mi ddywedodd wrthym bod ganddo syniad am ddrama hir i ddau gymeriad, yn mynd a nhw o ieuenctid, trwy ganol oed, i henaint.

鈥淥edd gynno ni, tybad, ddiddordeb? Wel, oedd, Mr Parry!

鈥淎 dyna ddechrau ar gyfnod hir o berfformio dram芒u 鈥 a channoedd o nosweithiau i gymdeithasau ledled gwlad 鈥 gyda'n gilydd.鈥

Ffynhonnell y llun, John Ogwen a Maureen Rhys

Gwaith arbrofol

Roedd y ddau ohonynt eisiau torri tir newydd fel actorion, yn 么l Maureen: 鈥淥eddan ni isho gwneud pethau arbrofol ac mae鈥檔 rhaid bod y cyfarwyddwyr o鈥檙 un anian. Oeddan ni isho pwshio mlaen mewn ffordd ac oeddan ni wedi cael gwneud pethau arbrofol yn y coleg efo John Gwilym Jones.鈥

Ac mi oedd cynhyrchiad Y T诺r wedi agor nifer o ddrysau gan arwain at gytundeb i鈥檙 ddau gan S4C i serennu mewn pedair drama deledu wrth i S4C ddechrau.

Meddai Maureen: 鈥淢i ddoth o鈥檔 naturiol 鈥 mi oedd o鈥檔 dilyn Y T诺r ar y llwyfan ac oedd S4C yn dechrau. Dyw rhywun ddim yn sylweddoli pa mor anodd oedd hi i S4C ar y pryd... mi oedd na elynion, roedd rhaid bod yn wyliadwrus beth oeddan nhw鈥檔 wneud.鈥

Roedd rhai o鈥檙 dram芒u鈥檔 rhy feiddgar i鈥檙 orsaf yn ei dyddiau cynnar, yn 么l Maureen, felly heb eu cynhyrchu.

Dywedodd John: 鈥淵n wreiddiol y bwriad oedd pedair drama dim ond i ni ein dau ond lot gormod o bwdin fyddai hynny! A dyma gael pedair drama cwbl wahanol, gan bedwar awdur gwahanol, gyda nifer o actorion eraill hefyd.鈥

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cynhyrchiad S4C o Y Wers Nofio

Uchafbwyntiau

Mae鈥檙 ddau yn gyt没n mai un o uchafbwyntiau eu gwaith gyda鈥檌 gilydd yw Tywyll Heno gan Kate Roberts.

Meddai Maureen: 鈥淢ae gynno fi uchafbwyntiau o ran gwaith teledu a llwyfan ond mae鈥檔 debyg fuasai John a fi鈥檔 dweud Tywyll Heno. Oedd bob dim wedi dod at ei gilydd yn hwnna.鈥

Ac mae John yn cytuno: 鈥淢ae miloedd dros y blynyddoedd wedi s么n am Y T诺r wrth gwrs. Oedd hi'n ddrama i bob oed. Rydach chi rywle ar y grisia 'na bob adeg o'ch oes.

"Ond y cynhyrchiad rydw i'n bersonol fwyaf balch ohono yw'r addasiad ffilm o Tywyll Heno gan Kate Roberts. Fe ddaeth popeth at ei gilydd mor berffaith 芒 phosib yn y cynhyrchiad hwnnw. Y caniat芒d i addasu gan Dr Kate, y cyfarwyddo (David Lyn), yr actio (Maureen fel 'Bet'), y llythyrau arbennig gafwyd yn dilyn y telediad.鈥

Roedd y gyfres deledu Lleifior hefyd yn uchafbwynt i Maureen, meddai: 鈥淧an o鈥檔 i鈥檔 ifanc pan oedd Yn 么l i Leifior allan ges i newis i chwarae Marged ac wedyn 30 mlynedd yn ddiweddarach ges i chwarae Greta.

"Y ddau ar y teledu 鈥 mae hwnna鈥檔 un o fy uchafbwyntiau. Dim lot sy鈥檔 cael siawns i wneud hynny."

Ffynhonnell y llun, Maureen Rhys yn Lleifior: "Un o fy uchafbwyntiau"
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Maureen Rhys yn Lleifior: "Un o fy uchafbwyntiau"

Gweithio gyda chymar

Ffynhonnell y llun, John Ogwen a Maureen Rhys
Disgrifiad o鈥檙 llun,

John Ogwen a Maureen Rhys yn Y Wers Nofio

Wedi gweithio gyda鈥檌 gilydd ar lwyfan ac ar sgrin, mae gan y ddau gyngor i unrhyw gyplau sy鈥檔 perfformio gyda鈥檌 gilydd.

Dywedodd John: 鈥淏yddwn yn sicr yn argymell unrhyw gwpwl o actorion fydda'n mentro gweithio efo'i gilydd i adael y gwaith a'r geiriau yn yr ystafell ymarfer. Byth i fynd a'r gwaith adref.

鈥淏yddwn yn awgrymu hefyd cael cynhyrchydd, neu gyfarwyddwr, cryf. A bod yn barod i sefyll o'r neilltu pan oedd y cymar yn cael 'nodiadau', boed y rheiny yn gam neu'n gymwys yn eich golwg!鈥

Mae Maureen yn gyt没n: 鈥淵r unig beth da ni ddim wedi neud yw neud llinellau adra. O鈥檔 ni鈥檔 daer ddim isho hwnna.

鈥淒wi鈥檔 meddwl fod bywyd bob dydd a bywyd ffantasi yn ddau beth hollol wahanol."

Mae Maureen yn chwerthin wrth gofio un tro pan oedd hi'n cael trafferth gyda r么l: "Roedd John a fi鈥檔 neud drama Alffa Beta ar y llwyfan, dim ond y ddau ohono ni.

"Dydw i ddim yn berson emosiynol ond mi aeth o i ffwrdd efo fi 鈥 oedd hi鈥檔 ddrama feiddgar ac o鈥檔 i鈥檔 methu glir a chael y cymeriad ac mi wnes i ddechrau crio mewn rhwystredigaeth. Dyma John yn cerdded i ffwrdd!鈥

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

John Ogwen yn Pobol y Cwm

Cofio

Felly sut brofiad ydy o wedi bod i鈥檙 ddau i edrych dros eu archif wrth baratoi am y digwyddiad gan Archif Ddarlledu Cymru?

Meddai John: 鈥淩hyfedd fel mae 80 yn swnio gymaint h欧n na 79! Dwi'n hynod o falch a diolchgar i'r Llyfrgell Genedlaethol am roi'r cyfle i ni ymuno 芒'i archif. Bu'n gyfle i edrych yn 么l dros bron 60 mlynedd o waith. Bydd yn archif i'r teulu yn ogystal 芒'r cyhoedd.

鈥淒o, bu'n emosiynol a chwerwfelys ar brydia'. Mae cymaint o gydweithwyr, ffrindiau, wedi'n gadael. Bu sawl gw锚n ar yr wyneb hefyd. Cofio cymaint o droeon trwstan, cymaint o chwerthin. Ro'n i'n mwynhau ngwaith ac yn dal i wneud.鈥

Meddai Maureen: 鈥淐hwerwfelys yw e yn enwedig pan chi鈥檔 sbio a tyrchu i archif bach ni 鈥 rhai o鈥檙 lluniau yma! Dwi'n meddwl, fi 'di honna?

"Mae rhywun yn dychryn o鈥檌 hun mewn rhyw ffordd, gymaint sy wedi ei neud yn y gorffennol.鈥

Ychwanegodd John: "Rwan fy mod i'n 80 dw i'n hynod falch i ddechra' mod i'n dal yn fyw!

"A mod i, dros y blynyddoedd, wedi cael y cyfle i wneud cymaint o bethau gwahanol ac wedi cael cymaint o rannau da i'w gwneud a chael cynulleidfa i'w mwynhau.

"Dwi'n cael cymaint o fwynhad o wrando a gwylio ac a ges i o'u gwneud."

Nos Iau 26 Medi bydd Archif Ddarlledu Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal Archif Ddarlledu Cymru鈥檔 Cyflwyno... John Ogwen a Maureen Rhys gyda cyflwynydd sioe gelfyddydol 麻豆官网首页入口 Radio Cymru, Ffion Dafis, yn sgwrsio gyda'r ddau. Mae tocynnau am ddim.

Bydd y digwyddiad yn cael ei recordio ar gyfer pennod Nadolig arbennig o sioe gelfyddydol Radio Cymru.