Skates: Yr etholiad cyffredinol yw 'her fwyaf Llywodraeth Cymru'

Disgrifiad o'r llun, Dywed Ken Skates mai'r etholiad cyffredinol yw'r broblem fwyaf sy'n wynebu Llywodraeth Lafur Cymru

Yr etholiad cyffredinol yw'r broblem fwyaf sy'n wynebu Llywodraeth Lafur Cymru, yn 么l un o aelodau blaenllaw y blaid yng Nghymru.

Fe wnaeth Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, wadu fod ei blaid wedi colli ffocws.

Ond dywedodd "nad oes gwadu" eu bod wedi ffocysu ar "yr etholiad cyffredinol sydd ar y gweill a'r angen i gael gwared ar y Tor茂aid".

Fe wnaeth y Prif Weinidog, Vaughan Gething golli pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd yr wythnos hon.

Er iddo ddweud ei fod am barhau yn ei r么l, mae'r gwrthbleidiau wedi awgrymu na fydden nhw'n cefnogi'r llywodraeth i basio cyllideb.

Pan gafodd ei holi ar raglen 麻豆官网首页入口 Politics Wales am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn llywodraethu ac yn pasio deddfau heb fwyafrif, dywedodd Ken Skates y "bydd popeth yn newid ar 5 Gorffennaf os byddwn yn deffro i Lywodraeth Lafur newydd yn y DU. Mae'n rhaid i ni ennill yr etholiad cyffredinol".

"Mae Vaughan yn benderfynol o lwyddo er lles pobl Cymru," meddai.

'Llywodraeth Cymru wedi ei barlysu'n llwyr'

Dywed Mr Skates: "Rydym wedi gweld yr wythnos hon yng nghyd-destun t芒l meddygon, rydym wedi ei weld gyda'r gwelliannau sylweddol ar gyfer rheilffyrdd gan Trafnidiaeth Cymru. Rydym yn gweithredu, a byddwn yn parhau i wneud hynny."

Dywed arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies "gyda Vaughan Gething wrth y llyw, mae Llywodraeth Cymru wedi ei barlysu'n llwyr ac yn methu canolbwyntio ar flaenoriaethau'r bobl gan gyflwyno'r newid sydd ei angen i achub gwasanaethau cyhoeddus Cymru".

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Ydi mae'r etholiad yn bwysig i bawb ond allwn ni ddim cael llywodraeth sydd yn anwybyddu pleidlais ddemocrataidd, yn mynd ymlaen fel tasa 'na ddim byd o'i le pan mae angen rhoi ymddiriedaeth yn y llywodraeth heddiw yn flaenoriaeth."

Dywed Mr Skates nad oedd Vaughan Gething wedi ystyried ymddiswyddo, ac yn hytrach fod ganddo "gefnogaeth ei gyd-weithwyr".

Er hyn, mae rhai o fewn y gr诺p Llafur yn y Senedd wedi cwestiynu a fydd Mr Gething yn parhau.

Dywed Jenny Rathbone AS, y bydd yn rhaid iddyn nhw "aros a gweld" os all Vaughan Gething barhau.

Fe wnaeth y cyn-brif weinidog, Mark Drakeford, gyfraniad angerddol i'r Senedd yr wythnos hon yn dilyn y penderfyniad i ohirio newidiadau i ddyddiadau tymhorau ysgol.

Dywedodd eu bod yn "rhoi'r gorau i ymrwymiad maniffesto a gafodd ei wneud gan y Blaid Lafur yn yr etholiad diwethaf".

Ychwanegodd Mr Kates ddydd Sul: "Rydym yn cydnabod gofidiau pobl o fewn y gr诺p ac rydym yn blaid agored ac mae gan Mark Drakeford angerdd eithriadol tuag at bynciau sy'n agos at ei galon."