Penodi Llyr Morus yn gadeirydd newydd TAC

Ffynhonnell y llun, TAC

Disgrifiad o'r llun, Llyr Morus yw rheolwr gyfarwyddwr cwmni Cynyrchiadau Mojo

Mae Llyr Morus o gwmni Cynyrchiadau Mojo wedi cael ei benodi'n gadeirydd newydd corff Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC).

TAC sy'n cynrychioli'r tua 50 o gwmn茂au yn y sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru.

Mr Morus yw rheolwr gyfarwyddwr Mojo, ac mae wedi bod ar gyngor TAC ers 2022.

Bydd yn olynu Dyfrig Davies o gwmni Telesgop, sydd wedi camu o'r neilltu ar ddiwedd ei dymor tair blynedd fel cadeirydd.

Fel cynhyrchydd, mae Mr Morus wedi gweithio'n ddiweddar ar raglenni fel Un Bore Mercher, Cyswllt, Fflam a Dal y Mellt.

Mae wedi gweithio yn y sector annibynnol yn ogystal 芒 bod yn aelod o staff 麻豆官网首页入口 Cymru a 麻豆官网首页入口 Studios.

Bydd yn arwain ochr yn ochr 芒 Sioned Haf Roberts, rheolwr cyffredinol TAC.

Dywedodd: 鈥淓drychaf ymlaen at barhau 芒鈥檙 gwaith da a wnaed gan Dyfrig a鈥檙 t卯m a chynrychioli ein haelodau yn ystod y cyfnod ansicr hwn i鈥檙 diwydiant er mwyn sicrhau dyfodol disglair i鈥檙 sector yng Nghymru a thu hwnt.鈥