Hud a lledrith: Straeon buddugol Radio Cymru

Ffynhonnell y llun, Val茅riane Leblond

Disgrifiad o'r llun, Clawr un o straeon buddugol y gystadleuaeth

Mae'r cyflwynydd Aled Hughes wedi cyhoeddi enwau'r tri awdur ifanc sydd wedi dod yn fuddugol yn ei gystadleuaeth ysgrifennu stori ar 麻豆官网首页入口 Radio Cymru.

Mae'r artistiaid Val茅riane Leblond, Joshua Morgan (Sketchy Welsh) a Huw Griffiths wedi creu cloriau ar gyfer straeon y tri enillydd sef Jesica o Ysgol ID Hooson, Gruffudd o Ysgol Bro Preseli, a Dylan o Ysgol Gynradd Gymraeg Pen-Y-Groes.

Gofynion y gystadleuaeth oedd ysgrifennu stori dan y thema hud a lledrith.

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall (Camera Sioned)

Disgrifiad o'r llun, Casia Wiliam

Beirniad y gystadleuaeth oedd yr awdures Casia Wiliam.

Meddai Casia: "Cafwyd straeon am ddreigiau, straeon am swynion, straeon am gypyrddau hud a gwrachod drwg. Daeth pob math o straeon yn llawn hud a lledrith i law eleni, a'r rheiny'n llawn antur a hwyl!

"Y rhai oedd yn aros yn y cof, ac felly'n dod i'r brig i mi oedd y rhai 芒 syniadau gwreiddiol, gwahanol.

"Mae'r straeon buddugol yn dangos hoel meddwl, iaith afaelgar, a llais clir, unigryw yr awduron. Gobeithio y bydd pawb yn mwynhau'r straeon gymaint ag y gwnes i!"

Darllenwch y dair stori fuddugol:

Ffynhonnell y llun, Val茅riane Leblond

Disgrifiad o'r llun, Y Llithren Hud gan Jesica

Ffynhonnell y llun, Joshua Morgan (Sketchy Welsh)

Disgrifiad o'r llun, Dicw'r Ddraig gan Gruffudd

Ffynhonnell y llun, Huw Griffiths

Disgrifiad o'r llun, Bwyd Hud gan Dylan