Pryder i ffermydd llaeth gyda diwedd cwmni cludo

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae un o gludwyr llaeth mwyaf y DU, sydd 芒 safleoedd yng Nghymru, wedi mynd i ddwylo鈥檙 gweinyddwyr, yn 么l adroddiadau.

Mae Lloyd Fraser, sydd 芒 safle yn Four Crosses yn Sir Drefaldwyn yn ogystal ag yn Ninbych a Phont-y-p诺l, yn cludo i rai o laethdai mwyaf y DU gan gynnwys Muller ac Arla.

Casglu llaeth o ffermydd yw鈥檙 pryder mwyaf yn 么l undebau, gydag Undeb Amaethwyr Cymru ac NFU Cymru yn dweud bod yn rhaid blaenoriaethu casgliadau.

Dywedodd Brian Walters, Cadeirydd Dros Dro Pwyllgor Llaeth UAC fod "ffermwyr llaeth eisoes yn wynebu cyfnod cythryblus o ganlyniad i brisiau llaeth isel, bydd methu casgliadau ond yn ychwanegu at yr anawsterau ariannol hynny."

Dywedodd cadeirydd bwrdd llaeth yr NFU, Michael Oakes, eu bod yn "ymwybodol o faterion gyda chasgliadau llaeth ar draws nifer o ranbarthau".

Dywedodd eu bod yn cydweithio ag eraill yn y gadwyn gyflenwi llaeth i edrych ar yr effaith ar eu haelodau.

"Wrth i gynlluniau casglu newydd gael eu rhoi yn eu lle, byddem yn annog cynhyrchwyr llaeth sydd wedi eu heffeithio i gysylltu 芒鈥檜 prynwyr cyn gynted 芒 phosib ac i gysylltu 芒 NFU CallFirst am gyngor a chymorth pellach.鈥

Dywedodd llefarydd ar ran Alra Foods mai eu blaenoriaeth yw sicrhau bod 鈥渓laeth yn parhau i gael ei gasglu鈥 a鈥檜 bod 鈥渨edi rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith yn yr ardaloedd lle mae Lloyd Fraser yn gweithredu, sy鈥檔 cynnwys Sir Gaer, gogledd Cymru a鈥檙 Amwythig.鈥

Dywedodd Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn, Craig Williams AS fod y newyddion yn 鈥渉ynod o drist鈥 a鈥檜 bod yn 鈥済weithio gyda phartneriaid i gefnogi鈥檙 cwmni - yn enwedig staff o Four Crosses sy鈥檔 cael eu heffeithio鈥檔 uniongyrchol.

Dywedodd Russell George A.S fod y "ffaith bod y prif laethdai wedi symud mor gyflym i roi cynlluniau yn eu lle, gan sicrhau y bydd casgliadau yn dal i ddigwydd heddiw a thros y penwythnos" yn cynnig sicrwydd.

Mae Lloyd Fraser wedi cael cais am sylw.