麻豆官网首页入口

Eisteddfod: Cynnal seremoni'r Fedal Ddrama

Y Fedal Ddrama
  • Cyhoeddwyd

Seremoni y Fedal Ddrama fydd prif seremoni'r dydd yn y Pafiliwn ddydd Iau.

Y dasg oedd cyfansoddi drama lwyfan ac nid oedd unrhyw gyfyngiad o ran hyd.

Y beirniaid eleni oedd Geinor Styles, Mared Swain a Richard Lynch.

Fel yn achos Gwobr Goffa Daniel Owen, seremoni fer fydd hon heb yr Archdderwydd na'r Orsedd yn cymryd rhan.

Mae'r buddugol yn ennill y fedal, er cof am Urien ac Eiryth Wiliam, a 拢750 yn rhoddedig gan deuluoedd Megan Tudur, Rheinallt Llwyd a Manon Rhys er cof am Mair a James Kitchener Davies, eu merch Mari a'u h诺yr Mei.

Gwobrwyir drama sydd 芒 photensial i'w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol.

Os bydd teilyngdod cyflwynir rhan o'r gwaith buddugol yn y seremoni gyda chefnogaeth Cronfa Goffa J O Roberts.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cai Llewelyn Evans oedd enillydd Medal Ddrama Eisteddfod 2023

Cai Llewelyn Evans o Bontarddulais a gipiodd y fedal hon yn Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd 2023.

Yn 么l y beirniaid Steffan Donnelly, Seiriol Davies ac Elgan Rhys y ddrama 'Eiliad o Ddewiniaeth' gan Wasabi oedd y ddrama fwyaf cyflawn a chydlynol o'r 26 yn y gystadleuaeth.