Diwrnod Shwmae Su'mae: Dechreuwch bob sgwrs yn Gymraeg

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Swci Delic

Mae 15 Hydref yn Ddiwrnod Shwmae Su'mae.

Dyma ddiwrnod lle mae pawb yn cael eu hannog i ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg, drwy ddweud Shwmae (yn y de) neu Su'mae (yn y gogledd).

15 Hydref

Roedd y diwrnod cyntaf yn 么l yn 2013, ar 么l i鈥檙 awdur a'r bardd, Catrin Dafydd, gynnig y syniad i Fudiad Dathlu鈥檙 Gymraeg:

"Daeth y syniad ar 么l i fi a Mam fod mewn siop ym Mhontypridd a sylwi fod y person tu 么l i'r cownter yn siarad Cymraeg ar ddiwedd y sgwrs,鈥 eglurodd.

鈥淩oedd y ddwy ohonom yn meddwl mor dda fyddai cychwyn pob sgwrs gyda gair Cymraeg a normaleiddio hynny, er mwyn dangos fod y Gymraeg i bawb ac er mwyn ysgogi sgyrsiau yn Gymraeg ar hyd a lled 颁测尘谤耻.鈥

Disgrifiad o'r llun, Enillodd Catrin Dafydd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

Ers hynny, mae digwyddiadau yn cael eu cynnal ym mhob rhan o Gymru ar 15 Hydref bob blwyddyn, i annog pobl i ddefnyddio鈥檙 Gymraeg a dathlu鈥檙 iaith.

Dros y blynyddoedd, mae nifer o bobl enwog wedi cefnogi鈥檙 achlysur, fel y gantores Cerys Matthews, seren t卯m p锚l-droed Cymru Ben Davies a鈥檙 cyflwynydd Mari Lovgreen.

Disgrifiad o'r llun, Logo Diwrnod Shwmae Su'mae ar Gastell Caernarfon yn 2017

Dathlu 10

Y llynedd, roedd y diwrnod yn dathlu 10 mlynedd. Yn 么l Elin Maher, sydd wedi helpu i drefnu'r dathliadau dros y blynyddoedd, mae angen cael pobl i ddefnyddio'r Gymraeg, hyd yn oed pobl sydd ddim yn ei defnyddio yn aml:

"Defnyddio un gair bach ar un diwrnod... a pwy a 诺yr lle bydd hwnna yn eu harwain nhw yn y pendraw."

Mae'r diolch, meddai Elin, i'r ysgolion a gweithleoedd sydd yn trefnu llawer o weithgareddau i nodi'r diwrnod, a hyrwyddo'r Gymraeg.

"Maen nhw wedi cymryd y syniad syml yma o ddechrau sgwrs, ac mae 'na syniadau di-ri wedi dod o hynny, a digwyddiadau ar hyd a lled Cymru.

"Dyna sydd wedi tyfu y diwrnod hwn i fod lle mae e heddiw - y gwaith llawr gwlad."

Dyfodol disglair

Mae Elin yn gobeithio y bydd y diwrnod yn mynd o nerth i nerth, a'i fod yn help i gynyddu faint o bobl sy'n siarad y Gymraeg.

"Gobeithio y gwelwn ni'r Gymraeg yn ffynnu hyd yn oed yn fwy o fewn ein cymunedau ni, ac mewn ardaloedd sydd efallai ddim 芒 Chymraeg mor ffyniannus," meddai.

"Ond hefyd i atgoffa pob rhan o Gymru bod angen i ni helpu'r Gymraeg a helpu eraill i ddod o hyd iddi hi."

Ffynhonnell y llun, Ddiwrnod Shwmae Su'mae

Mae Catrin Dafydd wrth ei bodd fod ei syniad dros ddegawd yn 么l wedi datblygu i fod yn ddiwrnod llawn brwdfrydedd tuag at y Gymraeg:

"Mae'r diwrnod yn parhau'n llwyddiannus heddiw oherwydd gwaith di-flino a dychmygus pobl yn eu cymunedau.

"Dwi'n cael fy ysbrydoli bob tro y bydda i'n gweld yr hyn mae pobl wedi ei drefnu."

Ac wrth gwrs, does yna ddim rhaid i chi ddim ond ddefnyddio'r geiriau Shwmae neu Su'mae 鈥 dyma gyfarchion eraill i chi eu trio:

  • Henffych!
  • Iawn?
  • Shwt mai'n ceibo?
  • Hawddamor
  • Ffor' wyt ti?
  • Iawn gei?
  • Pa hwyl?
  • Shwdi poni!
  • Sut mae'n gyrru?
  • Ti'n o lew?

Rhowch gynnig arni heddiw!

Geirfa

annog / to encourage

sgwrs / conversation

cynnig / to offer

syniad / idea

sylwi / to notice

cychwyn / to begin

ysgogi / to motivate

ar hyd a lled / the length and breadth

dathlu / to celebrate

enwog / famous

cefnogi / to support

achlysur / occasion

arwain / to lead

gweithleoedd / workplaces

gweithgareddau / activities

hyrwyddo / promote

di-ri / innumerable

llawr gwlad / grass-roots

o nerth i nerth / from strength to strength

cynyddu / to increase

ffynnu/ffyniannus / to thrive/thriving

atgoffa / to remind

brwdfrydedd / enthusiasm

llwyddiannus / successful

di-flino / tireless

dychmygus / imaginative

ysbrydoli / to inspire

cyfarchion / greetings

cynnig / attempt