麻豆官网首页入口

Llywydd CBDC Steve Williams wedi'i atal o'i swydd

Steve WilliamsFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Steve Williams ei ethol yn llywydd Cymdeithas B锚l-Droed Cymru yn 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru (CBDC) wedi atal y llywydd, Steve Williams, o'i waith tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Y gred ydy bod cyngor CBDC wedi cael gwybod am y penderfyniad wythnos ddiwethaf ac nad oes dyddiad wedi'i bennu ar gyfer gwrandawiad Williams.

Nid yw corff llywodraethu p锚l-droed Cymru wedi dweud pam ei fod wedi'i atal.

Cafodd Williams ei ethol yn llywydd CBDC yn 2021 ac mae ei dymor yn y swydd yn para am flwyddyn arall.

Cyn cael ei benodi, roedd wedi gweithio i'r cyngor am fwy na dau ddegawd ac wedi bod yn is-lywydd.

Williams sy鈥檔 goruchwylio p锚l-droed Cymru ar bob lefel, a bu鈥檔 rhan o broses diswyddo Rob Page fel rheolwr t卯m cenedlaethol dynion Cymru fis diwethaf.

Dywedodd Williams: "Ni allaf wneud sylw. Mater i Gymdeithas B锚l-droed Cymru yw hynny."

Er nad yw CBDC wedi rhoi sylw, mae wedi cydnabod bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.