Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Pryder fod gwylanod môr yn mynd yn brin

Gwylanod ger y môrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwyddonwyr yn rhybuddio bod poblogaethau gwylanod yn prinhau

  • Cyhoeddwyd

Mae arbenigwyr adar yn annog pobl i newid eu ffordd ac i beidio gweld gwylanod mewn ardaloedd trefol fel pla, gan rybuddio bod eu niferoedd yn gostwng.

Yn dilyn y ffliw adar a cholli cynefinoedd naturiol, mae'r adar wedi symud i ddinasoedd a threfi, a'u niferoedd yn lleihau.

Mae ymchwilwyr wedi datgelu bod y chwe prif rywogaeth o wylanod sydd yn y DU yn destun pryder cadwraethol.

Yn ôl Gethin Jenkins-Jones sy'n gweithio i Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO) yng Nghymru, "mae'n sicr yn siom".

'Maen nhw'n niwsans'

Mae gwylanod erbyn hyn yn gynyddol gyffredin yn ein trefi a’n dinasoedd – ond mae rhai yn gwrthdaro â phobl ac yn aml yn dwyn bwyd.

Mae hyn, o ganlyniad, wedi arwain at nifer yn eu gweld fel problem ar hyd y wlad.

Ond mae gwyddonwyr yn rhybuddio bod poblogaethau gwylanod yn prinhau, ac felly eisiau i bobl ddysgu byw ochr yn ochr â’r adar, sy'n cael eu disgrifio fel adar deallus iawn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd arolwg a gafodd ei gynnal dros y gaeaf y llynedd yn cael ei ddefnyddio i lunio cynlluniau cadwraeth newydd ar gyfer gwylanod

Mae trigolion yn Llanfairpwll wedi bod yn cael trafferth gyda gwylanod dros y blynyddoedd.

Yn 2016, fe ddechreuodd gwylanod nythu ar doeau rhai o'r tai ar stad Bryn Bras yn y pentref, gan achosi niwsans ac anghyfleustra enbyd i'r bobl oedd yn byw yno.

Erbyn hyn, mae rhai yn dal i weld problemau gyda'r adar yn y pentref.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Beryl Jones yn byw yn lleol ac yn gweld effaith negyddol y gwylanod

Wrth ymateb i'r ffaith fod rhai arbenigwyr yn pryderu ynghylch gwylanod yn prinhau, dywedodd Beryl Jones, sy'n byw yn lleol, nad yw hi'n credu bod hynny'n wir yn y pentref.

Dywedodd : "Dwi'n rhoi'r sbwriel allan gyda chaead, ac maen nhw mor gryf, maen nhw'n tynnu'r caead ac yn tynnu'r sbwriel allan ac yn chwalu'r sbwriel i bob man.

"Mae o'n niwsans. Os ydi plentyn bach efo hufen iâ yn ei law, mae gwylanod yn mynd ar ei ôl o."

Disgrifiad o’r llun,

Er yn cydnabod effeithiau negyddol y gwylanod, dydi Anwen ddim wedi cael profiad o'r fath ei hun

Ond yn ôl Anwen Williams, sydd hefyd yn byw yn lleol, mae'r gwylanod yn llai o broblem.

"I fod yn onest, 'dw i heb gael llawer o broblem o gwbl efo gwylanod - cathod efallai - ond dim gwylanod.

"Dwi'n gwybod eu bod nhw'n gallu bod yn beryg, yn enwedig mewn llefydd fel Biwmares ac ar lan y môr, ond i fi'n bersonol dwi heb gael fawr o broblem gyda nhw.

"Dwi'n meddwl fod yna ddigon [o wylanod] yn barod. Fedra i ddim eu gweld yn lleihau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gethin Jenkins-Jones yn gweithio i Ymddiriedolaeth Adareg Prydain yng Nghymru

Wrth ymateb i'r canfyddiad fod y niferoedd o wylanod yn lleihau dywedodd Gethin Jenkins-Jones o BTO Cymru: "Mae'n sicr yn siom fod y data yn dangos hynny.

"O ran gwylan y penwaig, maen nhw'n meddwl fod rheiny wedi mynd lawr tua 40%.

"Mae ffigyrau tebyg o ran yr wylan gefnddu leiaf hefyd, ond mae 'na newidiadau wedi bod dros yr 20 mlynedd ddiwethaf - rhai gwael a rhai da hefyd.

"Maen nhw'n adar eithaf charismatic... fel bodau dynol rydyn ni wedi symud i ddinasoedd a threfi, a does dim llawer o adar wedi ein dilyn ni ond mae gwylanod wedi, felly mae'n neis cael adar ymysg ni gyd."

Dywedodd hefyd fod gwylanod, fel pob un aderyn arall, yn haeddu parch.

"Dim ond lleiafrif ohonyn nhw sy'n achosi helynt. Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n ddigon parod i gadw draw."

Bydd arolwg cenedlaethol o wylanod y gaeaf - y cyntaf ers 20 mlynedd - yn cael ei ddefnyddio i helpu llunio cynlluniau cadwraeth ar gyfer gwylanod.