麻豆官网首页入口

'Diffyg gwelliannau bwrdd iechyd ar fai am farwolaethau'

Dawn OwenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Dawn Owen ar Uned Hergest yn 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-aelod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn dweud y gallai marwolaethau dau glaf fod wedi eu hosgoi petai swyddogion wedi gwneud y gwelliannau oedd eu hangen.

Bu farw Ben Harrison a Dawn Owen mewn unedau iechyd meddwl yn 2020 a 2021.

Mae eu teuluoedd wedi dweud wrth 麻豆官网首页入口 Cymru y byddai eu perthnasau wedi byw petai'r bwrdd iechyd wedi gweithredu ar adroddiadau sy'n dyddio'n 么l hyd at ddegawd.

Mae BIPBC wedi ymddiheuro ac yn dweud bod gwelliannau yn digwydd.

Wrth siarad yn ddienw 芒 麻豆官网首页入口 Cymru, dywedodd cyn-aelod annibynnol o鈥檙 bwrdd arweinyddiaeth eu bod wedi ceisio craffu ar wasanaethau iechyd meddwl, cyn cael eu diswyddo gan y Gweinidog Iechyd.

鈥淕allai marwolaethau Ben a Dawn fod wedi eu hosgoi yn llwyr,鈥 meddai.

Dros y degawd diwethaf mae BIPBC wedi derbyn sawl adroddiad ar sut i wella gwasanaethau iechyd meddwl.

Ond daeth adolygiad gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion (RCP) i鈥檙 casgliad fod y bwrdd iechyd wedi gweithredu llai na hanner yr argymhellion o bedwar adroddiad mawr yn llawn.

鈥淏yddai鈥檙 ymateb i'r adroddiadau hyn yn hynod o rwystredig,鈥 meddai鈥檙 cyn-aelod annibynnol.

Ychwanegon nhw fod y cynllun gwella, sy'n dilyn dau adroddiad o 2018, yn 鈥渉ynod o anhylaw" a ddim yn mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 argymhellion mewn gwirionedd.鈥

'Tyndra cyson'

鈥淧an oedd hyn yn cael ei herio fe fydden ni鈥檔 cael llawer o siarad gwag tebyg i 鈥榦 wel, mae鈥檔 gymhleth iawn ac rydyn ni鈥檔 gwneud hyn a hyn."

Roedd 鈥渢yndra cyson鈥, meddai, rhyngddyn nhw fel aelodau annibynnol a rhai swyddogion gweithredol fyddai鈥檔 鈥済wrthsefyll鈥 unrhyw ymyrraeth weithredol.

Daeth adroddiad gan Archwilio Cymru i鈥檙 casgliad fod t卯m gweithredol y bwrdd iechyd yn 鈥anghydweithredol鈥.

鈥淩oedd yna rai swyddogion gweithredol a oedd yn gweithio鈥檔 dda iawn gydag aelodau annibynnol o鈥檙 bwrdd, ond roedd nifer fach o鈥檙 swyddogion gweithredol oedd yn gwrthod cydweithio, a ddim yn rhoi gwybodaeth i ni,鈥 meddai'r cyn-aelod.

鈥淔e fydden nhw鈥檔 syml yn anwybyddu cais am wybodaeth.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd teulu Ben Harrison y gallai ei farwolaeth fod wedi ei hosgoi

Bu farw Ben Harrison ym mis Rhagfyr 2020 yn Uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd, 18 mis ar 么l i鈥檙 bwrdd iechyd dderbyn dau adroddiad mawr yn 2018.

Daeth crwner i鈥檙 casgliad fod esgeulustod gan y bwrdd iechyd wedi cyfrannu at ei farwolaeth.

Wrth siarad 芒 麻豆官网首页入口 Cymru, dywedodd tad Ben, Paul Harrison: 鈥淢ae鈥檔 dangos patrwm gan y bwrdd iechyd o fethu 芒 chymryd camau brys mewn perthynas 芒 diogelwch cleifion.鈥

鈥淧e bai鈥檙 argymhellion wedi鈥檜 cyflawni鈥檔 gyflym, yna mae鈥檔 amlwg na fyddai Ben wedi cael y cyfle i wneud yr hyn a wnaeth ar ward Cynnydd.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Paul Harrison yn dweud bod ei deulu'n cofio amseroedd hapus cyn i iechyd meddwl Ben ddirywio

Roedd dau adroddiad cynharach yn 2013 a 2014 hefyd wedi codi materion am ddiogelwch cleifion a risgiau crogi.

Ond dywedodd yr RCP fod angen 鈥渟ylw brys鈥 ar risgiau crogi o hyd.

Bedwar mis ar 么l marwolaeth Ben Harrison, bu farw Dawn Owen yn Uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd.

Cafodd y bwrdd iechyd ddirwy am fethiannau iechyd a diogelwch yn achos Ms Owen.

Dywedodd ei theulu wrth 麻豆官网首页入口 Cymru fod methiant i weithredu argymhellion yn 鈥渟gandal鈥.

鈥淢ae鈥檔 anodd credu bod hyn wedi bod yn digwydd mor hir," meddai teulu Ms Owen.

鈥淢ae adolygiad y coleg brenhinol yn rhy hwyr i ni, ond gobeithio y bydd pethau鈥檔 gwella.鈥

Mae gr诺p newydd o aelodau annibynnol wedi eu penodi ers Chwefror 2023.

Bwrdd newydd yn 'derbyn gwybodaeth lawn'

Dywedodd Prif Weithredwr BIPBC, Carol Shillabeer, sy'n rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd, eu bod yn gwario 拢2m ar welliannau atal-crogi ac y byddan nhw'n cyhoeddi diweddariad bob chwe mis.

鈥淣i allaf ond ymddiheuro i bobl am brofiad gwael ac am golled drasig eu perthnasau,鈥 meddai Ms Shillabeer.

鈥淩wy鈥檔 adeiladu t卯m gweithredol newydd. Mae鈥檔 bwysig iawn bod pwrpas craidd a dyna beth rydyn ni wedi bod yn gweithio arno.鈥

Dywedodd Dirprwy Gadeirydd BIPBC, Gareth Williams, fod adroddiad diweddar yn dangos bod pethau wedi 鈥済wella鈥檔 sylweddol鈥.

鈥淒wi'n meddwl ein bod ni'n cyd-dynnu. Rydyn ni mewn lle gwahanol i lle roedden ni ddeunaw mis yn 么l.鈥 meddai Mr Williams.

Dywedodd bod aelodau annibynnol yn cael 鈥済wybodaeth lawn鈥 gan swyddogion bellach a phetai hynny ddim yn digwydd y byddai鈥檔 鈥測mddiswyddo鈥.

鈥淩wy鈥檔 gwybod na fydd dim o hynny yn helpu i ddod a pherthnasau coll yn 么l, ond yr unig beth y gallwn ei wneud yw sicrhau bod popeth yn ei le i osgoi marwolaethau y gellir eu hatal yn y dyfodol.鈥

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淢ae gwella gwasanaethau iechyd meddwl yn rhan bwysig o fesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr."

鈥淢ae鈥檙 bwrdd iechyd wedi derbyn canfyddiadau'r RCP ac rydym yn disgwyl iddynt gyflawni鈥檙 rheini, gan barhau i weithredu polis茂au diogel ac effeithiol ar draws ei wasanaethau iechyd meddwl.鈥

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y 麻豆官网首页入口.