Cymuned yn helpu ei gilydd gyda chostau gwisg ysgol

Disgrifiad o'r llun, Y Cynghorydd Beca Brown gyda rhai o'r gwisgoedd ysgol

Mae dechrau'r flwyddyn newydd academaidd yn gallu bod yn gyfnod o bryder i rai, yn cynnwys rhieni sy鈥檔 wynebu costau prynu gwisg ysgol mewn cyfnod o dlodi.

Felly mae un gymuned yng Ngwynedd yn helpu ei gilydd drwy gyfnewid dillad a chyfrannu i 鈥榝anc gwisg ysgol鈥 sydd ar gael i unrhywun.

Y bwriad ydi ysgafnhau鈥檙 baich ariannol i deuluoedd gan roi hwb i鈥檙 amgylchedd ar yr un pryd - a helpu normaleiddio defnyddio dillad ail-law.

'Stigma' dillad ail-law yn diflannu

Cynghorydd ward Llanrug ar Gyngor Gwynedd Beca Brown sydd tu cefn i鈥檙 fenter, a鈥檙 cynllun wedi mynd o nerth i nerth ers iddi wneud y gyntaf yn dilyn cyfnod Covid.

鈥淧an nes i ddechrau gwneud o ryw dair blynedd yn 么l roedd rhywun yn synhwyro dipyn bach o stigma a dipyn bach o feddwl 鈥榶dw i鈥檔 cael mynd i fan hyn i n么l y dillad, ydi o ar gyfer rhywun arall, ydw i鈥檔 gymwys?'鈥 meddai ar raglen Dros Ginio ar 麻豆官网首页入口 Radio Cymru.

鈥淥nd mae pobl wedi arfer erbyn hyn bod o鈥檔 agored i bawb, mae 鈥榥a groeso i bawb fynd yno i gymryd be' maen nhw angen.

"Mae o wedi mynd yn boblogaidd iawn, a pobl yn cysylltu efo fi r诺an ar ddechrau鈥檙 gwyliau yn gofyn 'pryd mae diwrnod uniforms 肠丑诲颈?&#虫27;鈥

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Mae gwisgoedd Ysgol Gynradd Llanrug ac Ysgol Uchwradd Brynrefail ar gael - y ddwy ysgol sydd o fewn etholaeth ward Llanrug

Dywedodd y cynghorydd bod siwmper ysgol gyda logo yn costio tua 拢25 a bod teuluoedd gyda sawl plentyn yn wynebu gwario cannoedd os oes angen sgidiau, cotiau a dillad ymarfer corff.

Erbyn hyn mae ganddi storfa sy鈥檔 cadw pob math o ddillad ac esgidiau mae'r disgyblion eu hangen yn ystod y flwyddyn ysgol.

Am ddeuddydd dros yr haf mae hi鈥檔 mynd a phopeth i Sefydliad Coffa Llanrug lle gall unrhywun fynd i weld beth sydd ar gael, beth sy鈥檔 ffitio - a mynd ac eitemau adref yn barod at ddechrau Medi.

Os oes unrhywun angen dillad ysgol yn ystod y flwyddyn mae posib cysylltu gyda hi i weld beth sy鈥檔 weddill yn y storfa.

Disgrifiad o'r llun, Mae gwisg ymarfer corff - yn cynnwys rhai gyda logo'r ysgol uwchradd - yn cael eu cyfnewid hefyd

Meddai: 鈥淢ae pobl yn gwitchad i weld be' s'gen i ac maen nhw鈥檔 adeiladu eu neges gwisg ysgol o gwmpas be鈥 sydd ar gael gen i mewn ffordd. Mae pobl yn werthfawrogol ohono yn enwedig teuluoedd efo sawl plentyn.

鈥淒wi鈥檔 cynnig be鈥 bynnag dwi鈥檔 cael i mewn gan y gymuned. Rhywbeth mae鈥檙 gymuned yn rhan ohono fo ydi o, maen nhw鈥檔 dod a鈥檜 hen ddilladau nhw a dwi鈥檔 ail-ddosbarthu nhw.鈥

Logos ysgol 'ddim yn orfodol'

Mae costau gwisg ysgol wedi bod yn bwnc trafod gwleidyddol yn ddiweddar yn enwedig yn sgil pwysau ariannol wrth i gostau byw gynyddu.

Y llynedd fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynnal ymgynghoriad am fesurau fyddai鈥檔 ysgafnhau鈥檙 baich ariannol gan arwain at ganllawiau newydd sy鈥檔 dweud na ddylai logos ar wisg ysgol fod yn orfodol.

'Gwisg yn newid wrth fynd trwy'r ysgol'

Ar raglen Dros Ginio hefyd fe wnaeth Bethan Griffiths, o Gaerdydd, sydd gyda thri o blant yn yr ysgol uwchradd, ddweud bod dechrau tymor yn bryderus iawn oherwydd costau.

鈥淢ae鈥檔 rhaid prynu鈥檙 wisg ysgol o siop arbenigol achos mae鈥檙 logo wedi ei wn茂o ar y crysau polo a crysau chwith," meddai. "Petasai logo fel bathodyn neu logo ar fathodyn gellir smwddio ar y dillad, byddai hynny鈥檔 neud y gost yn haws i ni, bysa ni鈥檔 gallu prynu crysau chwys o unrhyw siop.

鈥淎c mae鈥檙 wisg yn newid wrth iddyn nhw fynd trwy鈥檙 ysgol. Yn ysgol y plant mae blwyddyn 7, 8 a 9 yn gwisgo un lliw crys, wedyn maen nhw鈥檔 newid lliw blwyddyn 10 ac 11 ac wedyn eto yn y chweched.鈥

Ychwanegodd bod 鈥榥a bethau cadarnhaol yn digwydd gyda鈥檙 ysgol wedi sefydlu gr诺p Facebook i gyfnewid gwisg ysgol - ond bod angen mwy o gymorth.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o'r llun, Mae esgidiau ysgol a rhai ymarfer corff ar gael yng nghyfnewidfa dillad Llanrug

Mae Beca Brown yn aelod Cabinet Addysg ar Gyngor Gwynedd, ac maen nhw wedi gyrru holiaduron i rieni yn gofyn am fanylion y beichiau ariannol mwya鈥 arnyn nhw.

Mis Rhagfyr ydi un o鈥檙 cyfnodau drutaf - oherwydd costau鈥檙 Nadolig - a鈥檙 llall ydi mis Awst oherwydd costau dechrau blwyddyn newydd yn yr ysgol.

Gyda safleoedd gwe ac aps dillad ail-law yn boblogaidd ar hyn o bryd, gobaith y cynghorydd ydi bydd mwy yn gwneud defnydd o gyfnewidfaoedd dillad yn y dyfodol.

Meddai: 鈥淢ae ail ddefnyddio dillad - neu unrhywbeth yn rhywbeth da. Mae o鈥檔 dda i鈥檙 blaned ac mae o hefyd yn cyfarch yr heria costau, wedyn faswn i鈥檔 licio gweld normaleiddio ailddefnyddio gwisgoedd ysgol - ac unrhyw ddillad.鈥