麻豆官网首页入口

Gareth Davies yn ymddeol o rygbi rhyngwladol yn 34 oed

Gareth Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Davies wedi ennill 77 o gapiau dros Gymru ac wedi cynrychioli'r Llewod

  • Cyhoeddwyd

Mae Gareth Davies wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol yn 34 oed.

Mae mewnwr y Scarlets wedi ennill 77 o gapiau dros Gymru ac wedi cynrychioli'r Llewod yn ystod gyrfa ryngwladol a ddechreuodd nol yn 2014 yn Ne Affrica.

Fe enillodd y gamp lawn gyda Chymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2019 a 2021, a Davies sgoriodd y cais hollbwysig yn y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr yn Twickenham yn ystod Cwpan y Byd 2015.

Daw'r cyhoeddiad ychydig ddyddiau cyn i brif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland gyhoeddi ei garfan ar gyfer y gemau prawf yn erbyn Fiji, Awstralia a De Affrica.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe sgoriodd Davies 17 cais i Gymru

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Davies: "Rwyf wedi penderfynu, ar 么l 10 mlynedd anhygoel yn chwarae i Gymru, fy mod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol.

"Breuddwyd fy mhlentyndod oedd cynrychioli fy ngwlad ac rwyf wedi caru pob eiliad mewn crys Cymru.

"O ennill fy nghap cyntaf ar daith yr haf n么l yn 2014, i chwarae mewn tri Chwpan Rygbi'r Byd, ennill pencampwriaeth y Chwe Gwlad a Champ Lawn... mae wedi bod yn arbennig."

'Wedi bod yn anrhydedd'

"Diolch i fy nheulu, fy ngwraig Katy, fy ffrindiau a'r holl gefnogwyr am eu cefnogaeth dros y ddegawd diwethaf.

"Mae hi wedi bod yn anrhydedd cynrychioli Cymru a gyda鈥檙 criw ifanc cyffrous yma o chwaraewyr yn dod drwodd dwi鈥檔 teimlo mai nawr yw鈥檙 amser iawn i mi gamu i ffwrdd o rygbi rhyngwladol.

"Mae gen i lawer i'w roi i'r g锚m o hyd ac rwy'n edrych ymlaen at flynyddoedd olaf fy ngyrfa rygbi clwb. Diolch."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd Davies yn parhau i chwarae i ranbarth y Scarlets

Dywedodd Warren Gatland: 鈥淢ae Gareth wedi bod yn chwaraewr gwych i Gymru dros y ddegawd diwethaf ac mae wastad wedi rhoi popeth yn y crys coch.

鈥淏u rhai eiliadau cofiadwy iawn, fel ei geisiau yn erbyn Lloegr yng Nghwpan y Byd yn 2015 ac yn erbyn Awstralia yng Nghwpanau鈥檙 Byd 2019 a 2023.

"Gall ef a鈥檌 deulu fod yn falch iawn o鈥檌 gyflawniadau rhyngwladol.

鈥淩wy鈥檔 gwybod bod ganddo lawer i鈥檞 roi o hyd i rygbi ac edrychaf ymlaen at barhau i鈥檞 wylio鈥檔 chwarae i'w glwb.鈥

Y penwythnos diwethaf fe sgoriodd Davies ddau gais wrth i鈥檙 Scarlets ennill yng Nghaerdydd yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets, Dwayne Peel: 鈥淢ae Gareth wedi mwynhau gyrfa ryngwladol arbennig, i Gymru a鈥檙 Llewod.

鈥淩wyf wedi mwynhau gweithio gydag ef ac yn edrych ymlaen at wneud hynny yn y dyfodol gyda'r Scarlets.

鈥淢ae wedi bod yn wych i ni yn ystod wythnosau agoriadol y tymor ac mae ganddo lawer i鈥檞 gynnig o hyd o ran chwarae a鈥檌 r么l fel arweinydd yma.鈥