Biwmares: Agor a gohirio cwest tri o bobl fu farw mewn gwrthdrawiad

Ffynhonnell y llun, Rob Formstone Freelance Photos North Wales

Disgrifiad o'r llun, Yr olygfa yn Stryd Alma, Biwmares yn dilyn y gwrthdrawiad angheuol

Mae cwest i farwolaethau tri o bobl fu farw mewn gwrthdrawiad ger pier Biwmares wedi agor a'i ohirio.

Bu farw Stephen a Katherine Burch, y ddau yn 65, o Alcester, Sir Warwick, yn y digwyddiad ar Stryd Alma ddydd Mercher, 28 Awst.

Clywodd y cwest bod y gwrthdrawiad wedi digwydd am 14:45 ac am 15:21 nododd parafeddygon bod y ddau wedi marw.

Dywedodd y crwner ddydd Mercher mai achos dros dro eu marwolaeth oedd anafiadau niferus.

Bu farw Humphrey John Pickering, cyn-lyfrgellydd 81 oed o Sir Amwythig yn wreiddiol ond bellach yn byw yn ardal Bae Colwyn, yn y gwrthdrawiad hefyd.

Am 15:20 nododd staff yr ambiwlans awyr ei fod wedi marw o ganlyniad i anafiadau i'w frest.

Clywodd y cwest hefyd mai ef oedd yn gyrru'r cerbyd adeg y gwrthdrawiad.

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Stephen a Katherine Burch, y ddau yn 65, o Alcester, Sir Warwick, yn y digwyddiad

Dywedodd Crwner Gogledd Cymru, Kate Robertson y byddai'r cwest yn cael ei ohirio er mwyn cynnal rhagor o ymholiadau.

Ychwanegodd ei bod yn cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau'r rhai fu farw, a bod angen canmol "ymdrech sylweddol" y cyhoedd a'r gwasanaethau brys wnaeth ymateb i'r digwyddiad.